Y Llechen Gymreig. Defnyddiwyd y
llechen Gymreig i doi adeiladau drwy'r byd o Ewrop i Dde Affrica,
ac o America i Awstralia. Ymfudodd cannoedd o chwarelwyr i'r
Unol Daleithiau. Roedd chwareli gogledd Cymru yn effeithio ar
fywyd bob dydd miloedd o weithwyr. Drwy galedi bywyd, drwy
bob streic a gwrthdaro, ffynnodd y gymdeithas ddiwylliannol
glos.
Magwyd llenorion a
beirdd, corau, bandiau ac unawdwyr. Magwyd diwydianwyr a phregethwyr.
Lluniwyd diwydiant unigryw oedd yn uniaith Gymraeg. Ond
seren wib oedd y cyfan. Dirywiodd yr holl ddiwydiant yn ystod yr
ugeinfed ganrif.
Wynebwyd yr her
mewn amrywiaeth o ffyrdd, ond cysgod egwan o'r gorffennol sydd ar
ôl. Brithir y fro gan sgerbydau chwareli ddoe. Ond dyma eich
cyfle i ymweld a phrofi peth o gyfoeth y traddodiad yn ei holl
agweddau boed wych neu wael.
|
 |