Llechfaen - Esiamplau o Ddefnyddio
Llechi
Llechen ar gyfer Popeth
Wel, ar gyfer popeth bron. Mae tystiolaeth i'r Eifftiaid
ddefnyddio darnau o lechen fel tafod yng nhgegau mwmiau.
Defnyddid llechen hefyd yn Oes yr Haearn a'r Cyfnod Rhufeinig,
nid yn unig fel troellau gwerthyd ond hefyd fel gredyll cerrig.
Cyn 1780 arferid coginio bara brown tua 3cm o drwch arnynt a
gelwid ef yn fara llech. Defnyddid llechi hefyd yn y bedwaredd
ganrif ar bymtheg fel addurniadau mewn bythynnod, yn enwedig yn
Nyffryn Ogwen.
Defnyddid llechen hefyd mewn byrddau snwcer a biliard am nad
yw gwres yn effeithio dim arni hi. Ni all asid ei niweidio
ychwaith ac felly cynhyrchid byrddau labordai efo topiau llechen
arnynt. Ni ellir anghofio ychwaith am y llechen yn cael ei
defnyddio ar gyfer pyst drysau, linteli, grisiau, ffensio,
tanciau dwr ac wrth gwrs ar gyfer ysgrifennu mewn ysgolion.
|
|