Llechfaen - Ecoleg Llechi
Yn groes i'r
hyn gellid ei ddisgwyl, nodweddir ardaloedd llechi gan amrywiaeth
gyfoethog ecolegol fel y mae cymaint o arolygon wedi brofi.
Cyhoeddodd Cynefin Environmental Ltd., ddatganiad amgylcheddol ym
1995 ar Chwareli Rhosydd a Chonglog ym Mlaenau Ffestiniog.
Defnyddiwyd methodoleg arferol Cyngor Ymgynghoriaeth Natur Adran
1 Cynefin, sef y dull safonol i ddosbarthu a mapio tir ym mhob un
o wledydd Prydain. Seilir y dosbarthiad cynefinol yn benodol ar
lysdyfiant, i bwrpas adnabod a chofnodi yn hytrach nag
anifeiliaid, sydd yn fychain, gwibiog a symudol, ac felly yn
anodd eu cofnodi fel dangoswyr. Cofnodwyd y cynefinoedd
canlynol:-
- glasdir asidig
- glasdir corsiog
- tir rhedynog
- prysgyll bychan sych
asidig
- prysgyll bychan gwlyb
- tir glas asidig
brithweithiog
- asidig glytiog
- llaid dyffryn
- llaid basn
|
- cors
- dwr sefyll (oligotrophig)
- dwr rhedegog
(oligotrophig)
- creigle noeth naturiol
- gwastraff llechi
- adeiladau
|
Cymunedau planhigion
Cofnodwyd llysdyfiant yr ardal drwy ddilyn y dref a
ddatblygwyd i'r Cyngor Cenedlaethol Dosbarthu Llysdyfiant
Prydeinig o ardaloedd bychain cynrychioladol neu gwadrantau.
Adareg
Mae Cwmorthin a'r bryniau eraill yn nodedig o bwysig yn
adaryddol oherwydd nifer yr adar tir uchel a welir yno.
Mathau o adar wedi eu rhestru yn fras yn
ôl diddordeb
- brân goesgoch
- hebog glas

- cigfran
- llinos y mynydd
- bwncath
- pibydd y mawn
- gwalch bach
- tinwen y garn
- clochdar yr eithin
- pibydd y dorlan
- trochwr / Bronwen y Dwr
- siglen las
- y gog
- creyr glas
- gwyach bach
- hwyad ddanheddog
Ecoleg famalaidd
Mae'n debyg fod y fadfall balfol (trinitus helvetecuis) yn yr
ardal yma yn ogystal a'r llyffant cyffredin (Rana
temoraria). Yn gyffredinol fodd bynnag, mae'n debyg fod yr
ardal braidd yn rhy oer ac heb ddigon o haul i fertebratiaid
ecothermig fel ymlugiaid ffynnu ynddi. Mae prinder grug (Calluna
vulgaris) ac (Erica spp) hefyd yn milwriaethu yn erbyn
presenoldeb gwiberod (Vipera beris). Ond mae'n ddigon
tebygol bod nadroedd brith (Natrix natrix) a nadroedd
defaid (Anguis fragilis) i'w gweld yn enwedig ger
adfeilion adeiladau.
Oherwydd absenoldeb llwyr o goed a gwrychoedd, (ond am y rhain
sy'n berthnasol i'r adfeilion, ac a gyfeirir atynt isod) yn
milwriaethu yn erbyn bodolaeth ystlumod, ond am yr ystlum bach
(Pipistrellus pipstrellus), sydd yn byw yma mae'n debyg.
Ond a siarad yn gyffredinol, mae'r hinsawdd noeth yn anffafriol i
famaliaid bychain. Ar ben hyn mae'r tir yn llawer rhy wlyb gydol
y flwyddyn ar gyfer draenogod (Euinaceus europea), tyrchod
(Talpa europea) a chwningod (Oryctolagus
cuniculus). Yr unig famal niferus yw llygoden y maes
(Microtus afratis) ac efallai hefyd y llygoden goch fach
(Sorex Minutus) a'r llygoden goch S. araneus). Fodd bynnag
mae prinder grug yn golygu nad oes cynefin delfrydol yma ar eu
cyfer.
Gallasai nant Conglog sy'n llifo i Lyn Cwmorthin fod yn
gynefin i lygoden goch y dwr (neomus fodiens) ond gan nad
oes dim gorchudd yma prin y gwelir mamaliaid mwy. Nid yw'r wenci
(Mustela nuralis) na'r ffwlbart (Mustela putorius)
yn debygol i'w gweld oherwydd uchder y fan a'r prinder coed.
Plas Cwmorthin ac adeiladau eraill
Gwelir nifer o adeiladau yn y cwm ac yng nghyffiniau Chwarel
Rhosydd. Adfail di-do yw Plas Cwmorthin i bob pwrpas,
er hyn gallai fod yn fan cysgodi i nifer o fathau o ystlumod. Gwelir
tua dau ddwsin o goed dail llydan aeddfed a bythwyrdd yn ei
gyffiniau, gan gynnwys llarwydden (Larix decidua),
pinwydden Albanaidd (Pinus sylvestris), onnen (Fraxinus
excelsor), sycamorwydden (Acer pesudoplatanus) a
ffawydden (Fagus sylvatica). Gwelir coed hefyd wrth ddau
safle arall gyda choed yn eu cyffiniau, ym mhen de-ddwyreiniol
Llyn Cwmorthin ac wrth Gapel Rhosydd. Ond dim ond y safle
blaenorol sy'n debygol o gynnal unrhyw gynefin sylfaenol gan mai dwy goeden
binwydd yn unig sydd ar safle'r capel.
Mae safle Plas Cwmorthin, i bob pwrpas, yn hafan, yn ynys o gysgod
mewn ardal sydd yn gyffredinol yn hynod ddigroeso i fertebriaid
yn gyffredinol. Mae ystlumod gwledydd Prydain, arwahan i'r ystlum
bach, i gyd angen coed ac mae'n ddigon posibl fod amgylchiadau
Plas Cwmorthin yn ddigon i ddenu o leiaf ddau fath. Ar ben hyn,
gallai safleoedd o'r fath, gyda gyda chysgod coed weithredu fel
ynysoedd i rywogaethau o famaliaid nas gwelir mewn rhannau arall
o'r ardal. Gallai'r llygoden goch (Clethrionomys
glareolus) a llygoden y maes (Apodemus sylvaticus) fyw
yno. Ac yn wir, gallai mamaliaid mwy a gyfeiriwyd atynt eisioes
gael hafan yno hefyd. Rhyw dro yn y gorffennol, byddai pob ardal
lle trigai pobl wedi cynnal llygod bach (Mus domesticus) a
llygod mawr (Rattus norvegicus), ond byddai'r rhain fwy na
thebyg wedi darfod o'r tir gyda enciliad pobl oedd yn byw yn yr
ardal. Yn ogystal a bod yn gynefin anarferol o goediog i rai
rhywogaethau mamalaidd, mae Plas Cwmorthin hefyd yn ynys
gynefinol mewn tir glas anial i nifer o rywogaethau o adar.
Yr ucheldir, gan gynnwys Chwarel
Rhosydd
Yn gyffredinol mae moelni y tir glas asidig, gwlyb a thir pori
defaid yr hen chwarel a'r adeiladau yng Nghonglog a Rhosydd yn
golygu na ddarganfyddir ond ychydig o rywogaethau di-adarol a
ganfyddir. Bydd y llwynog (Vulpes vulpes) a'r carlwm
(Mustela erminea) fodd bynnag yn hela yn wastad ar y tir
uchel. Ac mae'r tiroedd yma oddi mewn i'r ffiniau
Cymreig lle mae posibilrwydd o weld y bele prin (Martes
martes). Mae hefyd yn ddigon posibl y gallai'r hen adeiladau
fod yn fannau cysgodi i fwy nag un rhywogaeth o ystlum, er fod
hyn efallai yn anhebygol o gofio am y prinder coed, yr uchder a
nodweddion hinsoddol yr ucheldir yma.
Ecoleg invertebrat
Cwmorthin
Mae'r lôn drol o ben de-orllewinol Llyn Cwmorthin yn
mynd heibio ardal frithweithiol o brysgyll gwlyb a thir glas
asidig, gan dorri drwy ddarn sylweddol o laid 520m cyn y glwyd
gadwyn. Mae'r tir lleidiog yma, er ymhell o fod yn gysefin
oherwydd aflonyddiad gan bori trwm defaid, yn debyg o fod yn un
o'r mathau pwysig o ran cynefinoedd ffawna di-asgwrn cefn. Gwelir
ardal debyg, ond mwy anial os rhywbeth, yn nyffryn lleidiog Llyn
Pencraig, Caernarfon (NGR SH775585) - 295m AOD, sydd gerllaw
hen weithfeydd plwm a arolygwyd gan yr NCC ym 1988 fel rhan o'r
Arolwg o Fawndir Invertebrat Corsdir Cymru. Cyhoeddwyd y
canlyniadau hyn yn ddiweddar (Holmes et Al., 1995). Er, yn gyffredinol, fod
diddordeb yr infertebriaid yn yr ardal astudio yma yn gyfyngedig,
gallai rhai rhywogaethau prin cenedlaethol fod yng nghynefin
lleidiog Chwarel Rhosydd. Ystyrir fod digonedd o J. sursumflexus
ym mawndir Cymru a gallai bodolaeth hesg gylfinfain ar y ffindir
gorllewinol roi cynhaliaeth i boblogaeth o S. litoralis.
O ran niferoedd, pryfaid (Diptera) yw'r gyfran fwyaf o
infertebratiaid ddaw allan o gorsydd a siglennydd. Ac am fod eu
larfau yn dueddol i ddisychiad ceir digonedd o Bry'r Teiliwr
(Tipulidae) yma. Ar adeg yr ymweliad, gwelwyd nifer fawr o'r
rhain yn dod allan o'r llaid, y prysgyll gwlyb a'r cynefinoedd
tir glas asidig. Gall adar pryfysol golfanaidd fel pibydd y waun
(Anthus pratensis) a chlochdar yr eithin (Saxicola
ruberta) ddibynnu yn drwm iawn ar y pryfaid teiliwr o dir
corsog asidig uchel. Gellir cysylltu presenoldeb amlwg yr hebog
glas (Falco peregrinus) yn yr ardal dan sylw, oherwydd bod adar pryfysol, fel pibydd y waun a chlochdar yr eithin,
yn bwydo ar y digonedd o bry'r teiliwr sydd yn y tir gwlyb ger Llyn Cwmorthin.
Gweithfeydd Conglog a Rhosydd.
Tir pori glas asidig yw mwyafrif tir yr ardal dan sylw yma.
Mae'r math yma o gynefin fwyaf eang yn ucheldir gogledd Cymru.
Nid yw'r ffawna nodweddiadol infertebrataidd o fawr werth
cadwriaethol. Ond y mae darn sylweddol o brysgyll sych anhygyrch
sydd yn cael ei bori'n ysgafn ar y creigiau naturiol i'r dwyrain
o Chwarel Rhosydd. Oherwydd prinder y math yma o dir yng ngogledd
Cymru gall hwn fod o bwys. Cysylltir llawer o rywogaethau
infertebrataidd gyda grug neu rostir canopi cauedig, nag a
welir mewn cynefinoedd lle mae grug wedi ei ddisodli gan dir
glas.
Twll East a Twll West
Oherwydd tywydd anffafriol yn ystod yr ymweliad, ni astudiwyd
ond y tir gwlyb helaeth i'r gogledd a'r dwyrain o'r tyllau.
Ystyrir y tir gwlyb yma o bwysigrwydd cyffelyb i'r corsydd o gwmpas Llyn Cwmorthin.
|