Y Prosiect
Mae
Llechwefan yn rhan o AGOR, ac yn darparu gwybodaeth wedi ei
ddigideiddio parthed diwydiannau cloddio ar gyfer Rhwydwaith y
Bobl.
Bydd y safle gwe yn cynnwys amrywiaeth o ddeunydd ar gyfer
dysgu am chwareli llechi Cymru, bywyd y chwarelwyr, y gwahanol
ddefnydd o lechfaen, ac ecoleg yr ardaloedd chwarelyddol.
Dylai'r safle gael ei gwblhau erbyn Hydref 2002.
Mae cynllun Llechwefan wedi ei leoli yn Archifdy Caernarfon,
sy'n rhan o Gyngor Gwynedd. Bydd brawd i'r safle, sef CWM, a
baratowyd gan Brifysgol Cymru, Llyfrgell ac Adran Wybodaeth
Abertawe yn cyfleu hanes y diwydiant glo a'r glowyr yng
Nghymru.
Mae Llechwefan yn greadigaeth partneriaeth Gwasanaeth Archifau
Gwynedd, Amgueddfa Lechi Gogledd Cymru (Amgueddfeydd ac Orielau
Cenedlaethol Cymru), Cynefin Environmental Ltd., Faenol Cyf. a
Howard Bowcott (Arlunydd).
Manylion cyswllt y cynllun yw:
Prosiect
Llechwefan
Archifdy Caernarfon
Cyngor Gwynedd
Swyddfa'r Cyngor
CAERNARFON
LL55 1SH |
Ffôn: 01286
679095 |
E-bost: archifau@gwynedd.gov.uk |
Ariennir y cynllun gan y Gronfa Cyfleoedd Newydd.
|