Y
Llechen Gymreig. Defnyddiwyd y llechen Gymreig i doi
adeiladau drwy'r byd o Ewrop i Dde Affrica, ac o America i
Awstralia. Ymfudodd cannoedd o chwarelwyr i'r Unol Daleithiau.
Roedd chwareli gogledd Cymru yn effeithio ar fywyd bob dydd
miloedd o weithwyr. Drwy galedi bywyd, drwy bob streic a
gwrthdaro, ffynnodd y gymdeithas ddiwylliannol glos.
Magwyd llenorion a beirdd, corau, bandiau ac unawdwyr. Magwyd
diwydianwyr a phregethwyr. Lluniwyd diwydiant unigryw oedd yn
uniaith Gymraeg. Ond seren wib oedd y cyfan. Dirywiodd yr holl
ddiwydiant yn ystod yr ugeinfed ganrif.
Wynebwyd yr her mewn amrywiaeth o ffyrdd, ond cysgod egwan o'r
gorffennol sydd ar ôl. Brithir y fro gan sgerbydau chwareli ddoe.
Ond dyma eich cyfle i ymweld a phrofi peth o gyfoeth y traddodiad
yn ei holl agweddau boed wych neu wael.
|
 |