* * * * * * * * * * * * *
* Gwasanaeth Archifau Gwynedd Safle AGOR English
*
* Tudalen Gartref Llechwefan Diwylliant Cymunedau Llechfaen Celf Oriel Map Safle Safleoedd Allanol Gwybodaeth am y Prosiect

Cymunedau - Gweithgareddau

 

Carnifal cyntaf Llanberis, 1959auPrif nodwedd cymdeithas i chwarelwr oedd y mudiadau gwirfoddol a fodolai, boed yn ddiwylliannol, yn wleidyddol, yn grefyddol neu chwaraeon. Honnodd un meddyg mai'r prif reswm dros iechyd symol chwarelwyr oedd eu bod yn rhuthro allan bob nos i ryw bwyllgor neu'i gilydd, cyfarfodydd yn y capel, ymarfer cor, peldroed, biliards, band, undeb y chwraelwyr, cymdeithasau cyfeillgar fel y Rechabiaid neu'r Odyddion neu gyfarfodydd gwleidyddol. O'r rhain i gyd, y capel oedd yn taflu ei gysgod ac yn llunio safonau 'derbyniol' yn y gymdeithas. Ac roedd pob capel fel cwch gwenyn, a hynny nid yn unig ar y Sul, ond hefyd yn ystod yr wythnos hefyd. Dyma'r cyfarfodydd a gynhelid yng nghapel enfawr, Jerusalem, Bethesda, ar drothwy'r Streic Fawr ym 1900.

Dydd Amser Digwyddiad
Sul 09.00y.b. Cyfarfod Gweddi Ieuenctid
10.00y.b. Pregeth
02.00y.h. Ysgol Sul
05.00y.h. Ysgol Gân
06.00y.h. Pregeth
Llun Cyfarfod Gweddi
Mawrth Cyfarfod Eglwysig
Mercher Cyfarfodydd Darllen (5 ohonynt)
Cymdeithas Lenyddol
Iau Cyfarfodydd Darllen (4 ohonynt)
Gwener 'Band of Hope'

Cynhaliwyd y cyfarfodydd yma oedd efo gwell ystafelloedd ac adnoddau na llawer o ysgolion y cyfnod!

Pan agorwyd Capel y Gerlan, Bethesda ym 1869 gwnaethpwyd cyfrifiaf crefyddol lleol.

Enwad crefyddol Rhif Addoldai Amcanrif y Gynulleidfa
Eglwys Sefydledig 4 1,400
Annibynwyr 5 1,970
Bedyddwyr 1 200
Methodistiaid Calfinaidd 8 3,850
Wesleyaid 3 700

Yr Herald Cymraeg, Mai 15, 1869

Cymharol ychydig o dor cyfraith a ddigwyddai, a meddwdod oedd yn digwydd amlaf. Ac er fod cymdeithasau dirwest yn rym gweledol yn y gymdeithas, roedd digonedd o dafarnau ym mhrif strydoedd Bethesda a Jerusalem Ymleddid yn y stryd yn aml a digwyddai digon o botsio 'ar dir y lord'. Byddai achos o lofruddiaeth fel ag a ddigwyddodd ar y Manod ym Mlaenau Ffestiniog ym 1898 yn creu panig bron yn y gymdeithas. Y capeli eu hunain oedd yn disgyblu unrhyw gam ymddwyn rhywiol a ddigwyddai a hynny yn bur lym. Dyma'r cefndir cymdeithasol a welodd dwf derfysgoedd diwydiannol yn y diwydiant, yn enwedig o 1865 ymlaen.

 

`Masthead' Y Drych, papur newydd a gyhoeddwyd i gymuned gymreig yn yr Unol Daleithau, 22 Medi 1881. [Prifysgol Cymru, Bangor] 

ORIEL ADNODDAU
Cyngor Gwynedd
Amgueddfa Lechi, Llanberis
Ymgynghorwyr Cynefin Cyllidwyd gan Enrich UK Y Gronfa Cyfleoedd Newydd
© Hawlfraint Cyngor Gwynedd 2003