Ers sawl blwyddyn, y mae cerfio'r llechfaen wedi bod yn
draddodiad yn yr ardaloedd chwarelyddol. Rhan bwysig o'r
diwydiant y chwarelwyr oedd cystadleuthau eisteddfodol - lleol a
chenedlaethol.
Yn ogystal â'r traddodiad lleol yn y gymuned o weithio a
cherfio'r llechfaen ceir sector celf a chrefft sy'n gwneud
defnydd o'r un cynnyrch. Mae mwyafrif o'r artistiaid neu'r
crefftwyr hyn a'u gwaith yn lleol neu maent yn hannu o'r
ardaloedd chwarelyddol.
Mae rhai o'r cwmniau mwyaf wedi ail-gyfeirio i'r maes hwn, neu
maent wedi ychwanegu'r crefftau er mwyn rhoi ychydig o gyfaredd
i'w cynnyrch. Mae'r mwyafrif o'r busnesau yn gysylltiedig a'r
sector celf a chrefft y llechfaen yn fychan, ac yn aml iawn, yn
fusnesau un person.
|