* * * * * * * * * * * * *
* Gwasanaeth Archifau Gwynedd Safle AGOR English
*
* Tudalen Gartref Llechwefan Diwylliant Cymunedau Llechfaen Celf Oriel Map Safle Safleoedd Allanol Gwybodaeth am y Prosiect

 

Llechfaen - Beth yw Llechen? 

Cyfeirir yn Gymraeg at bob craig holltadwy fel llech neu lechen, ond ar un adeg fe ddefnyddid yr enw ysglatus, ysglats, sglaets neu sglatys i gyfeirio at y garreg arbennig a ddefnyddid i doi adeiladau.

Gorweddai y llechen o werth economaidd yng Ngwynedd, Sir Ddinbych, Sir Drefaldwyn a Sir Benfro, er fod llechen aneconomaidd i'w gael ym Môn hefyd. Cynhyrchid llechi hefyd yng Nghernyw, yn Swydd Dyfnaint ac Ardaloedd y Llynnoedd yn Lloegr ac yn Swydd Aberdeen ac Argyll yn yr Alban yn benodol.

O gymharu y diwydiant llechi yng Nghymru gyda'r diwydiannau haearn, glo, copr a phlwm, cynoesol iawn oedd y diwydiant llechi hyd at 1750, er fod dwy filiwn o lechi wedi eu hallforio o Gaernarfon yn y 1730'au. Erbyn 1790 allforid llechi nid yn unig i borthladdoedd Cymreig ond i o leiaf ddeunaw o borthladdoedd yn Lloegr, deg o borthladdoedd yn Iwerddon a dau o borthladdoedd yr Alban heblaw am Boulogne, Dunkirk a Rotterdam ar dir mawr Ewrop. Araf fodd bynnag oedd unrhyw ddatblygiad sylweddol. Erbyn 1832, cododd cynnyrch blynyddol chwareli gogledd Cymru i 100,000 tunnell. Roedd yn 450,000 tunnell ym 1882 cyn syrthio i tua 22,000 tunnell ym 1972. Cyrhaeddodd y diwydiant ei binacl felly mewn cyfnod cymharol fyr a bu ei ddirywiad hefyd yr un mor ddramatig.

 

Cyhoeddiad cwmni Chwarel Dinorwic yn dangos nodweddion llechfaen.
Mr D. Jones, o Chwarel Oakeley, Blaenau Ffestiniog yn dangos hyblygrwydd llechfaen wrth ei blygu. Mr D. Jones, o Chwarel Oakeley, Blaenau Ffestiniog yn dangos hyblygrwydd llechfaen wrth ei blygu llechen, 1958.

 

ORIEL ADNODDAU
Cyngor Gwynedd
Amgueddfa Lechi, Llanberis
Ymgynghorwyr Cynefin Cyllidwyd gan Enrich UK Y Gronfa Cyfleoedd Newydd
© Hawlfraint Cyngor Gwynedd 2003