Llechfaen - Ffurfiant y Garreg Las
Ceir llechen o werth economaidd mewn pum rhanbarth yng
Nghymru. Yn gyntaf, yng nghanolbarth Gwynedd, sy'n cynnwys
ardaloedd Bethesda, Llanberis a Nantlle. Mae'r gwelyau llechfaen yma
yn perthyn i'r oes Gambriaidd. Yn ail, yn yr ardaloedd rhwng
Blaenau Ffestiniog a Chapel Curig lle mae'r graig yn perthyn i'r
oes Ordofigaidd. Yn drydydd, yn yr ardal rhwng Tywyn a Dinas
Mawddwy, sy'n cynnwys ardal Corris, ac hefyd yn lledu dros y ffin
i Sir Drefaldwyn, mae'r creigiau yn yr ardal yma yn perthyn i'r
oes Ordofigaidd a Silwraidd. Yna, yn bedwerydd, dyna'r ardal oddi
amgylch Llangollen a Chorwen yn Sir Ddinbych a dwyrain Gwynedd,
gyda'r graig yn perthyn i'r oes Silwraidd, ac yn bumed, ac yn
olaf, ardal y Preseli yn Sir Benfro a rhannau cyfagos o Sir
Gaerfyrddin, gyda'r graig yn perthyn unwaith eto i'r oes
Ordofigaidd.
Ffurfiwyd y llechfaen yma i gyd yn ystod y cyfnod Paleosoig
mewn cyfnod pan oedd beth wyddon ni fel gogledd Cymru yn gorwedd
o dan y môr. Casglodd mwd, cerrig mân a thywod mewn dyfnder o
1,525m. yn ardal Caernarfon a thua 4,000m ym Meirionnydd. Yna, yn
ystod y cyfnod Ordofigaidd, ffrwydrodd llosg fynyddoedd ar wely'r
môr a thros amser, gorchuddiwyd beth a elwir gennym ni heddiw yn
llechfaen, gan waddod i ddyfnder o 7,600m.Yn dilyn crynfeydd
enfawr yn ystod y cyfnodau Silwraidd a Defonaidd, gwthiwyd y
creigiau oedd wedi ffurfio'n barod yn erbyn ei gilydd. Plygwyd y
creigiau gwaddodol a folcanig yma nes ffurfio mynyddoedd a
ffurfiai ran o gadwyn ac a redai fwy neu lai o'r gogledd ddwyrain
i'r de orllewin.
Dde:
Dendrites â ffurf tebyg i blanhigyn ar lechen o
ardal Nantlle.
Rhanbarth Arfon
Felly, mae llechfaen Caernarfon, sy'n ymestyn o Fethesda, drwy
Lanberis, Moel Tryfan a Dyffryn Nantlle, wedi ei ffurfio yn y
cyfnod Cambriaidd, ac yma roedd dwy o chwareli mwyaf y byd, sef
Dinorwig a'r Penrhyn. Lleolid hwy ar lethrau cyferbynniol yr
Elidir Fawr. Ar ochr arall y dyffryn, gyferbyn a chwarel Dinorwig
gwelir chwareli Glynrhonwy. Chwe milltir i'r de orllewin o
Lanberis fe welir chwareli Dyffryn Nantlle, lle mae'r llechfaen
yn torri drwy lawr y dyffryn. Gweithir y garreg yn Ninorwig a'r
Penrhyn o bonciau agored, ond o dyllau dyfnion yn Norothea a
Phenyrorsedd.

Rhanbarth Meirionnydd
Gorwedd y llechfaen Ordofigaidd bwysicaf fodd bynnag yn ardal
Blaenau Ffestiniog, a chan fod y gwely llechfaen yma yn gwyro yn
isel dan y mynyddoedd, fe'i cloddir o'r dyfnderoedd. I'r gogledd
ddwyrain o'r Blaenau, fe welir hen chwareli Penmachno a
Dolwyddelan. Lleolir ardaloedd eraill o bwys economaidd i'r de
ddwyrain, yn ardaloedd Cricieth a Phorthmadog, gan redeg ymlaen
tuag at Drefriw yn Nyffryn Conwy.

|