Hanes Chwarela
Defnyddiwyd llechi Cymreig gan y Rhufeiniaid. Toeau teiliau
oedd i gaer Rufeinig Segontium yn wreiddiol ond ail osodwyd
llechi yn eu lle yn ddiweddarach. A diddorol yw sylwi i lechi
gael eu defnyddio mewn caer Rufeinig yng Nghaer Llugwy, rhwng
Capel Curig a Dyffryn Conwy ddwy ganrif cyn adeiladu Segontium.
Defnyddiwyd llechfaen fel lloriau wyth o dyrau castell Conwy
rhwng 1283 a 1287. Yn wir, yn ystod Rhyfel Annibyniaeth Cymru,
honnir i Edward I, brenin Lloegr, dreulio noson mewn ty yn Nrws y
Coed oedd wedi ei doi efo llechi o chwarel y Cilgwyn. Ym 1317
symudwyd neuadd fawr Llywelyn II (Llywelyn ein Llyw Olaf) o Gonwy
i Gastell Caernarfon a'i thoi efo llechi gan un 'Henry le
Scaltiere.' Ym 1387, saith deg o flynyddoedd yn ddiweddarach,
cyfieithodd John Trevisa, 'Polychronicon' cerdd Ranulf
Higden;
Valeys bryngeth forth food,
And hills metal right good,
Col groweth under lond,
And grass above at the hond,
There lyme is copious,
And sclattes also for hous.
|
Gwelwyd cryn dipyn o ail adeiladu dan oruchwyliaeth Edward, y
Tywysog Du, ym 1358-1360, pan brynwyd 21,000 o gerrig to ar gyfer
toi stablau mawr Castell Caer. Pan gyrhaeddodd Richard II yng
Nghonwy, flwyddyn cyn Gwrthryfel Owain Glyndwr, nododd Ffrancwr
o'r enw Chretien,
Ac felly, marchogodd y brenin, yn ddistaw
Felly yng Nghonwy, ble mae llawer o lechi
Ar y tai, cyrhaeddodd, heb fawr oedi
Ar doriad y dydd.
|
Daeth y llechi yma fwy na thebyg o chwareli Dolwyddelan neu
Benmachno. Ceir tystiolaeth bellach o gywydd Iolo Goch
(c1320-c1398) fod llechi wedi eu defnyddio i doi llys Owain
Glyndwr yn Sycharth, plwyf Llansilin.
Tô teils ar bob ty talwg,
Simnai ni fagai fwg.
|
Yna, tua diwedd y bymthegfed ganrif, canodd Guto'r Glyn gywydd
ar ran Syr Gruffudd ab Einion o Ddyffryn Clwyd.
F'unigwaith iddaw i Fangor,
Fu erchi main ar fraich môr.
Carnedd o Wynedd ynys,
Coflaid llong cyfled â llys.
...
I Degeingl hwnt y dygir,
I Ruddlan i Henllan hir.
|
Ganrif yn ddiweddarach cyfansoddodd Sion Tudur gywydd i ofyn
am anrheg o lwyth o lechi gan Ddeon Bangor.
E ddwg llong rwyddgall angor
Igain mil rhyd eigion mor;
Y llongai da ollyngir,
Rwyddlan deg, i Ruddlan dir.
|
Sylwodd John Leland ar ei deithiau rhwng
1536 a 1539 fod tai Croesoswallt wedi eu coedio, a'u toi efo
llechi, ac yn Is Dulas, ar lan ddwyreiniol yr afon Dulas yn Sir
Ddinbych, cloddiant gerrig llechi i doi eu tai. Defnyddiwyd
llechi hefyd i doi yn Wrecsam yn ystod teyrnasiad Elisabeth I. Yn
ystod cyfnod yr Esgob William Morgan, (cyfieithydd y Beibl i'r
Gymraeg) yn Llanelwy, (1601-04) defnyddiwyd llechi i doi cangell
y gadeirlan. Defnyddiwyd llechi o'r Penrhyn i doi mwy o'r adeilad
ym 1682, ac yn ystod adnewyddiadau yn ystod y 1930'au, roedd
cyflwr y llechi yma yn ddigon da i'w hail ddefnyddio ar goed
newydd.Adeilad seciwlar, ond gyda chysylltiadau crefyddol oedd
Plas y Gogarth, Llandudno. Esgob Bangor oedd ei berchennog ac
fe'i towyd efo llechi yn y drydedd ganrif ar ddeg. Gwelwn felly
ddarlun yn y gogledd o lechi yn cael eu defnyddio fwyfwy ar gyfer
tai boneddwyr a chlerigwyr, ac erbyn 1675, roedd llechi ar gael o
chwareli Glyn Ceiriog, gyda llongau yn cael eu defnyddio i'w
cludo. Yn wir, erbyn oes y Tuduriaid, llechi oedd prif allforion
yr ardal, oblegid hyd at y flwyddyn 1603 cyfeirir at allforio
llechi o Aberogwen (Bangor) i Ddulyn a Carlingford yn Iwerddon,
yn ogystal a'r Foryd, (Rhyl), Llanelwy a Chaer. Allforid llechi o
Sir Benfro i arfordir de orllewin Iwerddon ac i Fryste. Yn ddigon
diddorol hefyd, cyfeirir at fewnforio llechi o Antwerp i ail doi
y Gyfnewidfa Frenhinol yn Llundain. Yn llawer diweddarach,
diddorol yw nodi mai llechi Cymreig a ddefnyddiwyd i doi Palas
Westminster yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, i baneli trydan
llongau y Frenhines Mary a'r Frenhines Elizabeth, Cwmni Cunard yn
y 1930'au, fel cwrs tamprwydd Eglwys Gadeiriol Guildford ym 1960
ac i ail doi Stryd Downing ym 1962-63.

Hyd tua 1750 chwareli bychain a bas yn cael eu gweithio gan
bobl leol ar gyfer eu hangenion eu hunain neu i'w gwerthu oedd yn
bodoli. Dyna fu'r drefn ers canrifoedd. Cofnodir i Gwilym ap
Griffith o'r Penrhyn dalu 10d yr un i nifer o'i denantiaid am
weithio 5,000 o lechi. Cofnodir hefyd am fwrdeisydd o Fiwmares
gymeryd prydles ar ran o dir y Penrhyn ym 1544. Ar ei farwolaeth
ym 1568-69 ym Mangor, roedd un William Spen o Ddinbych yn
ddyledus i'w stad am 13,000 o lechi. A siarad yn gyffredinol,
doedd y bonedd tirog yn cymeryd fawr o ddiddordeb yn yr ased
werthfawr oedd ganddynt.
|