Hanes Chwarela - Y Diwydiant yn
Dirywio
Ond yn dilyn dirwasgiad cyffredinol yn y fasnach
adeiladu yn y 1880'au, syrthiodd yr alwad am lechi. Yn wir,
effeithiodd y dirwasgiad ar safonau byw yn gyffredinol. Syrthiodd
y prisiau ac aros yn isel hyd flynyddoedd y Rhyfel Mawr. Yn
gysylltiedig â hyn roedd trafferthion diwydiannol yn torri allan.
Cystadleuai chwareli am farchnadoedd yn ffyrnig eithafol.
Gorfodwyd rhai o'r chwareli bychain i gau a chymerwyd eraill
drosodd gan y rhai mawr. Ar ben hyn gosodwyd trethi ar lechi
tramor gan wledydd fel Ffrainc, yr Almaen a'r Swistir, a chafodd
hyn effaith andwyol ar economi y Blaenau. Allforiwyd 39,000
tunnell o lechi i'r Almaen o Borthmadog ym 1894, allforiwyd
21,000 tunnell ym 1901 a dim ond 11,000 ym 1910. Rhwng 1889 a
1918 syrthiodd y cyfansymiau llechi a allforid yn flynyddol o
79,912 i 1,592 tunnell.
Cadwodd y farchnad gartref yn well fodd bynnag gan fod nifer o
ddinasoedd a threfi mawrion yn yr Alban a Lloegr yn gweithredu
polisïau clirio slymiau yn y 1890'au. Ond dirywiodd yr allforion
i Iwerddon yn sylweddol yn dilyn yr Ymgyrch dros Ymreolaeth o
1893 ymlaen. Cymhlethwyd y sefyllfa hefyd gan fewnforion o
chwareli rhad i'r Alban, Lloegr a hyd yn oed Gymru o wledydd fel
yr Iseldiroedd, Twrci, Canada, Norwy, Portiwgal, Gwlad Belg,
Ffrainc a'r Unol Daleithiau.
Clec arall annisgwyl i'r diwydiant oedd penderfyniad Bwrdd
Addysg Lloegr i argymell peidio defnyddio llechi ysgrifennu mewn
ysgolion.
Erbyn 1906-08 roedd llechi yn casglu ar y ceiau ym
mhorthladdoedd Caernarfon, Porthmadog a'r Felinheli, a gyrwyd
mwy a mwy o chwarelwyr a'u teuluoedd i ddyled. Cauwyd llawer o'r
chwareli yn ystod y Rhyfel Mawr tra'r aeth eraill ar wythnos dri
niwrnod. Cynyddodd diweithdra ac ym 1917, cyhoeddwyd nad oedd y
diwydiant llechi yn ddiwydiant angenrheidiol.
Rhyfel, Dirwasgiad a Rhyfel Arall
Yn dilyn yr heddwch, mawr fu'r galw am
gartrefi teilwng i'r arwyr drigo ynddynt.
Yn y diwydiant llechi gwelwyd cynydd yn y duedd tuag at
gyfuniadu. Syrthiodd gwerth cyfrandaliadau yn isel hyd yn oed cyn
1914 a daliodd llawer o chwareli i redeg ar golled yn y 1920'au a
1930'au. Daeth teiliau toi rhad yn boblogaidd iawn wedi 1924, a
phan ddefnyddid llechi o gwbl defnyddid rhai tramor o ansawdd
eilradd yn aml. Gwelwyd adeiladu sylweddol yn ystod y 1930'au ond
ni fu cynnydd cyfatebol yn y cynhyrchiant o lechi.. Cynhyrchodd
chwareli'r gogledd 364,000 tunnell o lechi ym 1912, ac ond
271,000 ym 1935. Amcangyfrifwyd fod 1,2000,000 tunnell o deils
toi wedi eu cynhyrchu ym 1935 yn unig.
Torrodd rhyfel allan drachefn ym 1939 a daethpwyd a rheolau
newydd llym parthed adeiladu. Erbyn 1940, roedd tua 4,600 wedi
gadael y diwydiant, a thua'u hanner wedi ymuno efo'r lluoedd
arfog. Gwir fod bomio dinasoedd a threfi yn creu galw mawr am
lechi i gwblhau atgyweiriadau, ond gyda llafur yn brin ac ond
ychydig o lechi y gellid eu defnyddio ar gael yn rhwydd methwyd a
chyflawni'r farchnad. Gwaethygwyd y sefyllfa hefyd gan fod nifer
y prentisiaid wedi gostwng o 735 ym 1939 i 143 ym 1946. Gorfodwyd
nifer o chwareli i gau am byth.
Adlewyrchir cyflymder y dirywiad gan nifer y
chwarelwyr oedd yn y diwydiant yn gyffredinol. Ym 1939 rhifent
7,589. Ni rifent ond 3,520 erbyn 1945 ac erbyn 1972, roedd y
nifer yn llai na 1,000. Dechreuwyd gweithio wythnos bum niwrnod
am y tro cyntaf yn y diwydiant ym 1947 gydag oriau gwaith o
7.00yb hyd 5yh. Cyflwynwyd wythnos ddeugain awr yn y Penrhyn
hefyd.. Ac er y gorchymyn fod yr holl lechi a gynhyrchid i fynd i
atgyweirio adeiladau a ddifrodwyd yn y rhyfel, roedd prinder mawr
o greigwyr a chwarelwyr yn llesteirio gweithredu'r polisi.
Canlyniad uniongyrchol arall oedd fod cyfartaledd oedran y
gweithwyr yn codi. Ystyriwyd cenedlaetholi'r diwydiant ym 1949 a
thanseiliodd hyn hyder nifer o'r perchnogion. Ond y broblem fwyaf
o'r cwbl oedd fod prisiau llechi mor ddrud mewn cymhariaeth a
phrisiau asbestos neu deiliau clai a choncrit. Fe ostyngodd y
mewnforion o lechi toi eilradd o dramor hyd yn oed. Cafwyd
peiriannau modern i mewn ond ni allai dim rwystro'r dirywiad.
Blwyddyn |
|
Tunnell |
1958 |
|
54,000 |
1959 |
|
46,000 |
1960 |
|
52,000 |
1961 |
|
45,000 |
1962 |
|
40,000 |
1963 |
|
33,000 |
1964 |
|
35,000 |
1965 |
|
37,000 |
1966 |
|
35,000 |
1967 |
|
39,000 |
1968 |
|
32,000 |
1969 |
|
24,000 |
1970 |
|
22,000 |
Gwariwyd symiau mawr i geisio agor chwarel newydd yn y
Marchlyn, Llanberis, ond heb lwyddiant.
|