Trafnidiaeth
Rheilffyrdd
Ym 1801 manteisiodd Richard Pennant ar y ffaith fod gwaith yn
brin i chwarelwyr ac o gofio'r terfysgoedd oedd newydd fod yng
Nghaernarfon, aeth ati i lunio ffordd haearn o'r chwarel i Borth
Penrhyn. Fe'i dilynwyd ym 1824 gan ffordd haearn Dinorwig ac ym
1828 gan ffordd haearn Nantlle.
Bu'r syniad o ffordd haearn o Flaenau Ffestiniog i Borthmadog
yn cyniwair yn hir yn y gwynt yn bennaf am fod y diwydiant wedi
datblygu'n araf yno. Mor ddiweddar a 1825 nid oedd ond tair
chwarel o bwysigrwydd yn gweithio yno. Bu mwstro ar gyfer ffordd
haearn i lawr i Borthmadog yn ystod y cyfnod yma ond ni lwyddwyd
i sylweddoli'r breuddwyd tan 1836.
Lluniwyd ffordd haearn Padarn ar gyfer Chwarel Dinorwig ym
1843. Erbyn 1852 agorwyd rheilffordd Porth Penrhyn a'r Felinheli
a chyda datblygiad y rhwydwaith cenedlaethol y rheilffyrdd
cynyddodd y nifer o lwythi llechi a gariwyd ar y cledrau yn
sylweddol.
Cyn
llunio'r ffordd haearn ger Llyn Padarn yn 1843 fe ddefnyddid
cychod ar y llyn, ers o leiaf canol y ddeunawfed ganrif. Erbyn
1789 gellir amcanu fod rhwng 16 ag 20 cwch yn cludo llechi hyd at
Benllyn a Chwm y Glo. Darganfuwyd gweddillion un o'r cychod yma
yn niwedd 1977 ar waelod Llyn Padarn gyda llwyth o lechi yn dal
arni. Mae'n amlwg iddi suddo rhyw dro yn ystod y cyfnod
1788-1824.
Ond gyda'r dirywiad a'r cwtogiad yn rhwydwaith y rheilffyrdd
defnyddir y ffyrdd i gludo llechi heddiw. Rhwygwyd allan y ffyrdd
haearn mewnol yn y chwareli hefyd ac erbyn hyd defnyddir lorïau
neu ddymperi yno yn hytrach


|