|
Cyflogau, Streiciau a Safon
Byw - Cyflogau a Safon Byw
Rhwng 1786 a 1831 fe gynyddodd cyfanswm cynhyrchu llechi yn
enfawr yn Sir Gaernarfon a Sir Feirionnydd.
Ardal |
1786 |
1831 |
Sir Gaernarfon |
20,000 tunnell |
90,000 tunnell |
Sir Feirionnydd |
500 tunnell |
12,000 tunnell |
Cyfanswm |
20,500 tunnell |
102,000 tunnell |
Amrywiai graddfeydd cyflog o chwarel i chwarel ond dyma fel yr
oeddynt yn y Penrhyn yn ystod chwarter cyntaf y bedwaredd ganrif
ar bymtheg fwy neu lai.
Blwyddyn |
Cyflog Dydd |
tua 1800
tua 1806
1814
1817
1825
1828 |
1/- (5c ) y dydd
1/6 (7½c) y dydd
2/- (10c) y dydd
1/6 (7½c) y dydd
2/6 (12½c) y dydd
1/8 (8½c) y dydd |
|
Dros yr un cyfnod fe amrywiai cyflog gweithwyr amaethyddol o
8d (3½c) i 1/- (5c) y dydd tra enillai mwynwyr copr Mynydd
Parys rhwng 1/- a 1/8 y dydd.
Nid oedd fawr o amrywiaeth ym mhrisiau llechi o flwyddyn i
flwyddyn i gyfateb efo'r cyflog.Gallai bargen droi allan yn dda
neu'n wael. Telid cyflogau'r chwarelwr ei hun ar dasg tra telid y
rybelwr a'r labrwr wrth y dydd. Ond dylid cofio
hefyd fod gan lawer iawn o'r chwarelwyr dyddyn ar lethrau caregog
y Cilgwyn.
|
 |
Tlodi fu'n pensaernio - ei gynllun,
Ac unllawr roed iddo;
Ond llanwyd ei aelwyd o
A grasol gywir groeso.
(Huw Rowlands.)
|
Bywyd y barics
Os yn byw yn un o resdai Bethesda neu Flaenau Ffestiniog,
cedwid y tai fel pin mewn papur yn aml, er y ceid cwt mochyn ym
mhen draw'r ardd. Teithiai llawer iawn o'r dynion bellteroedd
sylweddol i'w gwaith. Denai chwareli Blaenau Ffestiniog weithwyr
o gyn belled a Dyffryn Ardudwy, Cricieth, Beddgelert,
Trawsfynydd, Llanrwst a llefydd eraill.
|
Cyflogai Chwareli Llanberis ddynion o dros drigain o bentrefi
bychain yn Sir Gaernarfon a Sir Fôn. Yn wir, roedd ecsodus
wythnosol o'r ynys yn cario eu bwyd am yr wythnos waith, pawb
efo'i waled yn llawn bwyd ar gyfer y pum niwrnod a hanner.
Gweithiodd llawer yn y chwarel dan yr amodau yma am hanner canrif
gan weld eu teuluoedd ond am ychydig oriau ar benwythnos.
Cychwynnai gweithwyr o gyn belled a Llannerch-y-medd neu Langefni
am dri o'r gloch ar fore Llun i gerdded y deg milltir neu fwy at
fferi Moel y Don. Wedi croesi'r Fenai, cerddasant hyd at y
Felinheli i ddal y tren chwarel o Benscoins. Yna, wedi cyrraedd y
chwarel dringo efo'u bwyd i'r barics, a hynny cyn dechrau
gweithio.
Amrywiai amgylchiadau byw yn y barics o chwarel i chwarel. Nid
oedd y fath beth a thap dwr ynddynt.
|
 |
Un tap ar gyfer pawb yn sefyll tu allan oedd y drefn neu gael
dwr ffres o nant gyfagos. Codwyd un rhes o farics yn chwarel
Dinorwig 2,000 troedfedd uwchlaw'r môr yn wynebu Môn.
Fe'u llysenwyd yn `Ireland View!' Roedd dwy ystafell ym mhob uned
fyw lle trigai dau oedolyn a dau fachgen fel rheol, ac yn perthyn
i'r un teulu. Byddai gan bawb ei orchwylion ei hun i gyflawni, yn
amrywio o nôl coed tân, llenwi'r bwced lo, nôl
dwr ffres neu nôl llaeth enwyn. Byddai un arall yn cael y
gwaith o fod yn gyfrifol am ddeffro'r lleill yn y bore.
|
Darperid dau wely dwbwl a phared o lechfaen yn eu gwahanu. Ar
y llawr gwelid mat sach. Cynoesol iawn oedd y dodrefn a fyddai
fel rheol wedi eu gwneud gan y dynion eu hunain yn ddigon amrwd.
Golau cannwyll neu lamp baraffin a geid yn y nos. Hyd yn oed pan
ddaeth trydan i Chwarel Dinorwig ym 1906, ni ddarperid cyflenwad
i'r un barics. Papur newydd oedd y lliain bwrdd a phapur llwyd
tew oedd y llenni i gadw drafftiau allan yn ystod stormydd y
gaeaf. I ymlacio roedd dewis o gemau cardiau, dominôs,
snêc a ladyrs, liwdo neu ddarllen cylchgronau a phapurau
lleol. Roedd Beibl a Llyfr Emynau ym mhob barics a gwelid
ugeiniau o'r dynion yn mynychu cyfarfodydd yr wythnos yn y capeli
yn Llanberis yn gwisgo eu dillad ail orau. Dro arall treulid yr
hwyrnos yn canu.
Yn syml, roedd yr amgylchiadau byw yn warthus, ac am y
moethusrwydd yma, talai pob gweithiwr rhwng 1½d (1c) a 3d
(1½c) y dydd.
|
 |
Ar y llaw arall, roedd amgychiadau barics Chwarel yr Oakeley
beth yn well gyda phob gweithiwr efo ystafell gysgu ei hun. Ym
mhob barics roedd tecell, tebot, sosban a phadell ffrïo y
cwbwl wedi eu gorchuddio gyda haenen drwchus o barddu. Yfid y te
allan o fygiau mawr neu botiau jam gwyn. Pryd poblogaidd fyddai
lobscows efo brechdan a the wedi hen stiwio.
Erbyn 1874, roedd J. Lloyd Williams yn fyfyriwr yn y Coleg
Normal, Bangor.
Un o brofiadau melysaf fy ngwyliau o'r Coleg y
flwyddyn hon oedd yr wythnos a dreuliais efo fy nhad yn y "Barics
Mawr" (chwarel y Llechwedd, Blaenau Ffestiniog.)...Yn y rhan o'r
adeilad lle'r oedd fy nhad yr oedd dwy ystafell-llawr a llofft,
ac nid oedd yr un o'r ddwy yn neilltuol o lân. Yn y rhain
yr oedd wyth o ddynion yn byw ac yn bod. Yn y llofft yr oedd
pedwar gwely. Y nos cysgai'r dynion a fu'n "gweithio'r dydd." Yn
y dydd byddai'r rhai a fu'n gweithio'r nos, yn eu tro, yn cysgu
yn yr un gwelyau. Fel hyn nid oedd yr un gwely yn cael cyfle i
oeri! Safai stôf ar ganol y "llawr," ond dim dodrefn namyn
cwpwrdd, a chlamp o fwrdd, gydag ychydig o gelfi coginio.
Atgofion Tri Chwarter Canrif III, tud 104,
John Lloyd Williams.
|
(O edrych yn frysiog dros lyfrau cownt Plasty
Glynllifon am 1893, roedd costau rhedeg y ty yn unig yn
£24,000!)
Cyflogau
Tynnid taliadau o gyflogau'r chwarelwyr fel 8d
(3½c) yr wythnos am bowdwr du, ffiws (a chanhwyllau lle
cloddid dan ddaear. Ffurfiwyd Clybiau Lles yn y Penrhyn mor
gynnar a 1781 a chafodd ei ail sefydlu ym 1825. O dalu 7d (3c) y
mis gallai chwarelwr hawlio tâl salwch neu ddamwain.
Perchennog y chwarel fyddai'n apwyntio'r doctor chwarel tra
gweinyddid y Clwb gan y rheolwr neu'r asiant.
Oherwydd safle ynysig llawer o'r chwareli
byddai'r perchnogion yn aml yn darparu cyflenwadau o rawn i'w
chwarelwyr, a gwbeid hyn yn aml ar golled yn Ninorwig a'r
Penrhyn. Ar y llaw arall, roedd rhai chwareli fel Chwarel y
Cilgwyn yn gwasgu'r system dryc i'w heithaf ar y chwarelwyr. Ym
1823 gwariwyd £13-1-10 ar brynu grawn i'r chwarelwyr, a
thynnu'r gost o'u cyflogau. Roedd hi'n system oedd yn gwbl agored
i gael ei cham-drin, ond roedd gweithrediadau perchnogion y
Cilgwyn yn y cyfnod yma ddim yn nodweddiadol o'r hyn a ddigwyddai
yn niwydiant llechi'r gogledd, o'i gymharu a beth oedd yn digwydd
yn y diwydiant copr ar Fynydd Parys. Cyflog chwarelwr ar
gyfartaledd ym 1845 oedd 15/-(75c) yr wythnos a gwelid llawer
efo'u teuluoedd yn ymfudo am yr America o Gaernarfon a neu Borthaethwy.
Cynyddodd y galw am lechi yn sylweddol yn ystod y cyfnod 1856-70.
Erbyn 1860 4/3 (21c) y dydd fyddai cyflog chwarelwr, ond erbyn
1870 gallai fod cyn gymaint a 5/6 (27½c) y dydd.
Ar y llaw arall prin y gellid honni fod safon byw
chwarelwr a'i deulu ym 1873 yn uchel iawn, sobor yw'r unig
ansoddair i'w ddisgrifio. Amcangyfrifwyd cyllideb fisol i
chwarelwr, ei briod a'u pum plentyn fel hyn:
Taliadau |
|
£ |
s |
d |
|
Rhent
2/6 (12½c) yr wythnos |
|
|
10 |
0 |
(50c) |
Bara |
|
2 |
0 |
0 |
|
Glo |
|
|
12 |
0 |
(60c) |
Cig |
|
|
8 |
0 |
(40c) |
Tatws |
|
|
7 |
0 |
(35c) |
Dillad |
|
|
12 |
0 |
(60c) |
Menyn
3 phwys @ 1/6 (7½c) yr wythnos |
|
1 |
0 |
0 |
|
Llefrith |
|
|
2 |
0 |
(10c) |
Siwgwr
3 phwys @ 4d(2c) yr wythnos |
|
|
4 |
0 |
(20c) |
Te
1½ lbs |
|
|
4 |
6 |
(22½c) |
Canhwyllau pwys a hanner @ 4d (2c) yr
wythnos |
|
|
1 |
4 |
(7c) |
|
|
Cyfanswm |
|
6 |
0 |
10 |
|
Honnid mai dyma'r isafswm y gallai teulu o'r
maint yma fyw yn dderbyniol arno, ond roedd llawer iawn iawn o
chwarelwyr a'u teuluoedd yn gorfod bodoli ar lai na £3.00 y
mis. Mae'n wir y gallai gweithiwr eithriadol ennill tua
£4.20 y mis ym 1865, ond roedd y cyflog ar gyfartaledd wedi
codi i tua £6.00 y mis erbyn 1888. Pa ryfedd fod pwysau
rheidrwydd ar fechgyn i adael yr ysgol gynted ag y gallent a mynd
i'r chwarel i weithio. Roedd ei gyflog yn hanfodol!
Mewn arolwg a wnaed i'r nifer uchel oedd yn marw
o'r diciâu mewn rhannau o ogledd Cymru ym 1933, darganfuwyd
bod safon lluniaeth plant Meirionnydd yn isel iawn o hyd ac heb
ddatblygu fawr ddim mewn hanner can mlynedd a mwy. Gweler y manylion isod am feibion chwarelwyr:
Unigolyn |
Prydau |
Bwyd a Diod |
Bachgen 12 oed. |
|
|
|
Brecwast |
bara, menyn,
llefrith |
|
Cinio |
bara, oxo,
te |
|
Te |
bisgedi, bara,
menyn, te |
|
Swper |
bara, menyn,
tomato, te |
|
|
|
Bachgen 12 oed. |
|
|
|
Brecwast |
cig moch, bara
te |
|
Cinio |
sgodyn, bara
menyn, te |
|
Swper |
cig dafad,
moron, tatws, te |
|
|
|
Bachgen 12 oed. |
|
|
|
Brecwast |
oxo,
te |
|
Cinio |
bara, menyn,
te |
|
Te |
cawl |
|
|
|
Bachgen 11 oed. |
|
|
|
Brecwast |
bara, menyn,
wy, te |
|
Cinio |
lobsgows,
te |
|
Te |
pennog,
te |
|
Swper |
bara, menyn,
llefrith |
|
|
|
Dillad Gwaith
A beth am wisg y chwarelwr? Trowsus
melfaréd, (ffustian gwynion) esgidiau hoelion mawr a chap
fflat oedd gwisg nodweddiadol chwarelwr yr ugeinfed ganrif. Ond
yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg ei wisg arferol fyddai siaced o
ffustian gwyn efo fest wlanen, dew, crys gwlanen wedi ei leinio a
thrywsus gwlanen gyda'r defnydd yn ddwbwl am ei ganol. Gwisgai
felt gwlanen neu ledr, het galed am ei ben a chariai
ymbarél.
Iechyd a marwolaeth
Gwael oedd ei iechyd, a dioddefai yn aml oddi
wrth stwmp ar y stumog, torgest, clwy'r marchogion ac
anhwylderau'r ysgyfaint fel silicosis neu'r diciâu.
Digwyddai damweiniau yn aml, ond ddim mor aml ag yn y diwydiant
glo.
'...Neithiwr daeth tri gwr o'r gwaith yn
gynnar;
Soniwyd am y graig yn torri'n ddwy;
Dygwyd rhywun tua'r ty ar elor,
Segur fydd y cyn a'r morthwyl mwy.
(Cerdd yr Hen Chwarelwr, W.J. Gruffydd)
|
Amrwd oedd Cymorth Cyntaf, nid oedd cymorth
meddygol wrth ymyl, tra yn y mwyafrif o'r chwareli, elor oedd yr
unig ambiwlans. Fodd bynnag, yr oedd y chwareli mwyaf fel
Penrhyn, Dinorwig, Llechwedd a'r Oakeley wedi agor eu hysbytai eu
hunain. Perthynai ysbyty'r Penrhyn i'r 1840'au, ysbyty'r Oakeley
i 1848 ac ysbyty Dinorwig i 1876, er nad apwyntiwyd meddyg iddi
hyd 1883. Yn wir mae lle i Ysbyty Chwarel y Penrhyn yn hanes
meddygaeth. Defnyddiwyd ether fel modd i ladd poen yn
llwyddiannus am y tro cyntaf yn yr Unol Daleithiau ym 1846. O
fewn blwyddyn bron i'r diwrnod, ac o fewn pedwar mis iddo gael ei
ddefnyddio yn Ewrop am y tro cyntaf, roedd anaesthetig yn cael ei
ddefnyddio yma pan fu rhaid torri coes chwarelwr i ffwrdd.
Isel oedd oedran marwolaeth ar gyfartaledd yn y
chwareli. Y sied lifio oedd safle mwyaf llychlyd chwarel, a
chyfartaledd oedran marwolaeth gweithwyr yno ym Mlaenau
Ffestiniog ym 1893 oedd 47.9 mlynedd. Ond i yrwyr periannau nad
oeddynt mewn awyrgylch lychlyd iawn roedd yn 60.3. Ar y llaw
arall, 45.3 oedd cyfartaledd oedran marw labrwr ac ni allai
gweithwyr tan ddaear ond disgwyl am fywyd ar gyfartaledd o 48.1
blwyddyn.
Roedd y chwarelwyr yn gwybod yn iawn fod y llwch
yn eu lladd, yn union fel rhai o'r meddygon. Ar y llawr arall
daliai meddyg ysbyty Chwarel Dinorwig o 1893-1914, R.H. Mills Roberts (1862-1935) fod y gwaith
yn iachusol dros ben, ac nad oedd digon o lwch yn Ninorwig i beri
afiechyd i neb. Dywedai hyn er ei fod yn gwybod yn iawn mai'r
gwrthwyneb oedd yn wir. Ond aeth J. Bradley Hughes, meddyg Ysbyty
Chwarel y Penrhyn ers 1918, mor bell a chyhoeddi ym 1922.
Nid oes gennym achosion o silicosis
yn y chwarel yma hyd y gwn, ac ar ôl pedair mlynedd o
brofiad yma, fe'm perswadiwyd nid yn unig fod y llwch yn
ddiberygl ond ei fod yn llesol... a heriwn unthyw un i brofi i'r
gwrthwyneb. |
Yn wahanol i weithwyr y diwydiant glo, ni chafodd
chwarelwyr y gogledd unrhyw iawndal am eu dioddefaint gan
lywodraeth Llundain hyd fis Mai, 1979, ar drothwy etholiad
cyffredinol. Daeth yn rhy hwyr i'r mwyafrif!
Clefyd y Llwch.
Gwyr heini, hwy a grinant - gan y llwch,
Ac yn llesg yr aethant;
I'r chwarel ni ddychwelant;
Henwyr caeth yn hanner cant.
Meirion Hughes
|
|
|
|
|
|