* * * * * * * * * * * * *
* Gwasanaeth Archifau Gwynedd Safle AGOR English
*
* Tudalen Gartref Llechwefan Diwylliant Cymunedau Llechfaen Celf Oriel Map Safle Safleoedd Allanol Gwybodaeth am y Prosiect

Cyflogau, Streiciau a Safon Byw - Rheolaeth Chwareli 

cyflogau a safon byw streiciau streic penrhyn 1900-1903
datblygiad undebau llafur rheolaeth chwareli  

Trosglwyddo grym yn y Penrhyn

Arglwydd Penrhyn yn cyfarfod cynrychiolwyr y ChwarelwyrCyflwynodd yr 'hen lord' weinyddiaeth Chwarel y Penrhyn i'w fab ym 1885. Cychwynodd helbul yno oherwydd cyfarfod i alw am Ddatgysylltiad yr Eglwys Wladol. Bu helynt yn y cyfarfod a phenderfynodd aer y Penrhyn drwy ei gyfreithwyr geisio darganfod pwy o'i weithlu oedd yn cymryd rhan. Ni lwyddwyd i adnabod neb ond hysbyswyd y gweithwyr gan yr aer y byddai unrhyw weithgaredd o dor-cyfraith yn arwain i ddiswyddiad yn syth. Dilynwyd hyn gan lythyr pellach yn ymwrthod a chytundeb Pennant Lloyd a ddyddiai yn ôl i 1874, dan yr esgus fod  cyflwr y fasnach lechi yn ei gwneud yn amhosibl i dalu yr isafswm cyflog a gytunwyd arno y flwyddyn honno. Ar ben hyn, cyhoeddodd fod pob cwyn sylweddol i'w gwneud i'r prif reolwr, a'i fod hefyd yn gwrthod derbyn yn llwyr hawl neb, boed unigolyn na gynrychiolwyr i ddod rhwng y perchennog a'i weithwyr. Ei esgus dros hyn oedd i sicrhau fod hawliau unrhyw weithiwr nad oedd yn undebwr yn cael eu parchu. Anfonwyd llythyr o brotest ato gan dri undebwr a thri nad oedd yn undebwyr. Ei ymateb oedd diswyddo y tri undebwr. Gwir iddynt gael eu hail gyflogi ddeufis yn ddiweddarach, ond roedd y drwg deimlad a fyddai'n deor am flynyddoedd eisioes wedi cychwyn.

Dyfodiad y dyn o Lundain - 1886

Wrth i'r hen Lord heneiddio mae'n amlwg ei fod yn colli gafael ar reoli'r chwarel yn effeithiol. Cymerwyd lle Arthur Wyatt fel prif reolwr gan Emilius Alexander Young. Aelod o gwmni Turquand, Young a'u Cwmni oedd E.A. Young, cwmni o fenthycwyr arian a'i dad, Alexander Young,  yn un o'r cyfarwyddwyr. Nid oes unrhyw amheuaeth am ei allu fel cyfrifydd. Ar ben hyn, roedd ef a'i feistr ar yr un donfedd. Sicrhau ei hawliau dros ei chwarel a'i weithwyr oedd dymuniad yr ail Arglwydd Penrhyn, ac i Young roedd hyn yn mynd law yn llaw efo busnes llwyddiannus. Seliwyd partneriaeth a fyddai yn gwneud Bethesda a Chwarel y Penrhyn yn faes brwydr  Waterloo y byd chwarelyddol. Ac am gyfnod byr fe ddaeth gair newydd i'r iaith Saesneg Penrhynism cyn iddo gael ei ddisodli gan Kaiserism ac yna gan Hitlerism. Ond gan mai enw E.A.Young a welid ar ddiwedd pob poster yn streic 1895-96 a'r Streic Fawr o 1900-03, ef oedd yr un a gasheid mewn dull calonog a thrylwyr. Ac yn y pen draw, ni ellir ond dod i'r casgliad i'r ail Arglwydd Penrhyn gael clust astud, yn llawn cydymdeimlad yn Emilius Alexander Young. Ond a yw'r sefyllfa mor glir tybed? Oblegid erbyn heddiw, mae tystiolaeth yn dod i'r amlwg mai Young oedd y tu ôl i lawer o'r hyn a ddigwyddodd, a bod ganddo 'afael' dros yr ail Arglwydd Penrhyn.

Deil cof gwlad ym Methesda iddo gael ei gladdu ganol nos. Nid yw hyn yn gywir, oblegid fe gariwyd Young ar ei daith olaf ar brynhawn Sadwrn heulog ym mis Medi. Swyddogion Porth Penrhyn a'r Chwarel, ynghyd a chlerigwyr Anglicanaidd (ac ambell Ryddfrydwr Chwigaidd) oedd y galarwyr. Ni adroddwyd yn y wasg fod chwarelwyr y Penrhyn yno yn galaru. Ac yn rhyfedd iawn ymddengys na roddwyd carreg ar ei fedd ychwaith. Ganrif a mwy yn ddiweddarch, rhaid gofyn pam mai enw E.A. Young fel prif reolwr oedd ar derfyn pob poster a ddeuai o'r chwarel ar ôl 1885?

Chwarel Penrhyn: Hysbyseb am weithwyr, 1897

 

 
ORIEL ADNODDAU
Cyngor Gwynedd
Amgueddfa Lechi, Llanberis
Ymgynghorwyr Cynefin Cyllidwyd gan Enrich UK Y Gronfa Cyfleoedd Newydd
© Hawlfraint Cyngor Gwynedd 2003