* * * * * * * * * * * * *
* Gwasanaeth Archifau Gwynedd Safle AGOR English
*
* Tudalen Gartref Llechwefan Diwylliant Cymunedau Llechfaen Celf Oriel Map Safle Safleoedd Allanol Gwybodaeth am y Prosiect

Cyflogau, Streiciau a Safon Byw - Y Streic Fawr 1900-1903

cyflogau a safon byw streiciau streic penrhyn 1900-1903
datblygiad undebau llafur rheolaeth chwareli  

Y Streic Fawr 1900-03
Arweinwyr Streic Fawr Penrhyn 1900-1903 

Cyhoeddodd E.A. Young, y Rheolwr Cyffredinol, nad oedd taliadau'r undeb i'w casglu yn y chwarel o hyn allan.  Dechreuodd y crochan ffrwtian yn arw a'r diwedd fu ferwi drosodd ar Hydref 26, 1900 a throdd yn drais yn erbyn nifer o'r contractwyr.  Penderfynodd Arglwydd Penrhyn erlyn 26 o'i weithwyr, hyd yn oed cyn iddynt ymddangos cyn yr ynadon.

Gorymdeithiodd gweithwyr y chwarel i gyd i Fangor fel arwydd o gefnogaeth ar ddiwrnod yr achos a chael eu gwahardd o'u gwaith am bythefnos. Gohiriwyd yr achos, ac unwaith eto gorymdeithiodd pawb i Fangor fel arwydd o gefnogaeth. Dan orchymyn eu cyflogwr galwodd y prif Gwnstabl filwyr i mewn yn groes i deimladau nifer o gyrff cyhoeddus yn ogystal a'r Cyngor Sir ei hun. Dychwelodd y gweithwyr i'r chwarel ar Dachwedd 19fed, ond yn amheus iawn o'r ffaith fod 8 o'r ponciau ar gau. Ymhen dau ddiwrnod roedd yna awyrgylch afreal yno. Trodd pawb allan am y chwarel eto y diwrnod wedyn, ond ni weithiodd neb.

Rhyw dro yn ystod y bore, cododd E.A. Young ei deleffon i roi dewis syml i'r gweithwyr. 'Go on working or leave the quarry quietly.' Codasant fel un a gadael.  Roedd cadoediad 1897-1900 drosodd.  Roedd 'Chwalfa' y Streic Fawr ar gychwyn.  Fyddai pethau byth yr un fath eto i neb.

Erbyn Rhagfyr 22ain roedd gan Young gynigion eraill i'w rhoddi gerbron, oedd yn fwy esmwyth eu natur. Ond fel atebodd y Daily News:  "Heaven save our worst enemies from the infliction of the originals." Gyrrwyd papurau pleidleisio allan. Gyda lle i bob un arwyddo ei enw a nodi ei gyfeiriad arnynt. Ac o bawb, Young ei hun oedd yn cwyno yn erbyn hyn am y gellid defnyddio'r wybodaeth i greu blacklist! Beth bynnag fotiodd 77 am dderbyn ond gwrthodwyd hwy gan 1,707. Llosgwyd y papurau yn syth wedyn yn ôl y cytundeb. Erbyn canol Ionawr cafodd gweithwyr Porth Penrhyn eu hatal o'u gwaith. Roedd y cau yn gyfan.

Dechreuodd cymorth lifo i mewn mewn arian a charedigrwydd, ac yn anhygoel fel pwdin Nadolig 2½ tunnell oddi wrth gwmni yn Ashton-under-Lyne. Ac fel y canai plant Bethesda ddegawd yn ddiweddarach. 

Wele cawsom ym Methesda 
Y pwdin gorau gaed erio'd, Chlywodd Young nag Arglwydd Penrhyn Ddim amdano cyn ei ddod, Pwdin yw, du ei liw, 
Y gorau brofodd neb yn fyw.

Erbyn mis Mawrth gadawodd cannoedd Fethesda a'r ardal gan orfod gadael y mamau a'r plant i fyw ar grystiau a the. Dechreuodd adroddiadau wythnosol yn y Clarion yn darlunio Desolate Bethesda.

Mewn cyfarfod mawr ar Ebrill 9fed, beirniadodd Ben Tillet yr Arglwydd Penrhyn ac mai ef oedd yn gyfrifol am yr holl ddioddef oedd yn yr ardal, gan ei ddisgrifio fel 'croesiad o Pharo a Nero,' ac iddynt beidio a rhoi'r bai ar Young, oedd ond 'yn siacal iddo yn y mater yma'. Dros yr wythnosau nesaf byddai'r farn yma yn newid, a chan mai enw E.A. Young a welid ar waelod pob poster gan awdurdodau'r chwarel, fe ddaeth yn berson y carai pawb ei gashau.

Ail agor y Chwarel

Erbyn dechrau Mai, roedd cynlluniau ar droed i ail agor y chwarel. Hyd yn oed os oedd Penrhyn yn graig o arian doedd chwarel ar gau ddim yn gwneud llawer o les i'w sefyllfa ariannol. Yn wir, fel ag y mae ymchwil ddiweddar wedi dangos, ni wnaeth y Streic Fawr lawer o les i'w gyfrif banc.

Daeth y poster disgwyliedig allan ar Fai 20fed yn cyhoeddi y byddai'r chwarel yn ail agor ar Fehefin 11eg, ac yn gwahodd cyn weithwyr a oedd eisioes wedi eu cymeradwyo gan y swyddfa i ddychwelyd ar Fehefin 11eg.Nid oes BRADWR yn y ty hwn.

Daeth y dydd. Ail agorwyd y Chwarel a dychwelodd tua 500 o ddynion, yn cynnwys 242 o chwarelwyr yn ôl i weithio. Dirywiodd y sefyllfa i un o fygythiadau a mân gynhyrfiadau. Dechreuodd cardiau ymddangos mewn ffenestri tai efo'r neges oer yn ysgrifenedig arnynt (gweler ar y dde).

Hyrddiwyd Bethesda a'r cyffiniau i ganol Rhyfel Cartref, oblegid pan ddiflannai poster o ffenest ty, gwyddai pawb fod rhywun a drigai yno wedi dychwelyd i'r Chwarel. Yn wir, cyhoeddwyd rhestrau o enwau'r 'Bradwyr' mewn papurau newydd fel Y Werin a'r Eco ym mis Mehefin, 1901.

Merched yn y streic

Anodd yw darganfod pa ran gymerai y merched yn y gweithgareddau. Ond mae cofnodion Llys Bach Bangor yn rhoi ychydig gymorth i ni. Ar Orffennaf 23ain, 1901 cyfeirir dri niwrnod ynghynt fod

Hundreds of people - young women paraded up and down the streets behaving badly.

Ymddengys mai'r unig achos a fu yn erbyn unrhyw ferch o Fethesda oedd yr un yn erbyn Ellen Jane Williams. Fe'i cyhuddwyd iddi fel rhan o dorf o tua 250-300, ar Awst 15fed, 1901 o waeddi 'Bradwyr, Cynffonwyr, Merch cynffon ydi hi' a 'hwtio' ar Ann, Jane a John Pritchard, plant John Pritchard, Penybryn a ddychwelodd i weithio i'r chwarel. Fe'i dirwywyd 20/- a chostau. Un o'r ynadon ar y fainc oedd W.J. Parry.

Mae'n bosib mai caledi bywyd a fu'n achos dros ddwyn dwy ferch o Fethesda o flaen y Fainc. Cyhuddwyd Margaret Morris ar Chwefror 3ydd, 1900 o buteindra yn Ffordd Farrar, Bangor. Ei phris oedd 3d. O'i chael yn euog fe'i dedfrydwyd i garchar am bythefnos.

Merch o Fethesda oedd Catherine Roberts hefyd a ddedfrydwyd yn yr un modd ar Fedi 5ed am buteindra, unwaith eto ar Ffordd Farrar. Ei phris hi oedd 1/-. Dedfrydwyd hithau yr un modd.

Cartwnau

Mae cartwnau gan J.R. Hughes, o Bapur Pawb,  wedi eu darganfod sydd yn rhoi mewnwelediad i'r anghydfod.  

Bradwr

 

'Bradwr' 'Ac yno (mynwent Glanogwen,) roedd bedd fy Nhad a'r rheilings gwyn o'i gylch wedi rhydu a'r chwyn yn crafangu weiar netin oedd yn gwarchod y cas gwydyr oedd dros y blodau artiffisial. Mae'n rhaid bod rheini wedi bod ar y bedd ers diwrnod y cnebrwng erstalwm. Byddwn weithiau'n mynd ar bererindod i weld y bedd ym mhen draw'r fynwent....a gwneud wyneb difrifol wrth ddarllen yr ysgrif fwsoglyd ar y garreg las. ER COF AM JOHN PRITCHARD A LADDWYD DRWY DDAMWAIN YN CHWAREL Y PENRHYN EBRILL 4YDD 1905. YNG NGHANOL EIN BYWYD YR YDYM MEWN ANGAU. Yna mynd i edrych tu ol i'r garreg lefn. Yr oedd rhywun rhyw dro wedi bod a brwsh a chol tar ac wedi paentio tri new bedwar cylch du ar gefn y garreg. Mi fum i'n pendronni llawer ynghylch hyn, ond heb ddweud na gofyn dim i neb...

'Dwedwch i mi, John Jones... oedd fy nhad yn Fradwr?'

Sythodd corff talgryf John Jones a daeth mellt i'w lygaid. 'Yr argian fawr, nagoedd,' meddai. 'Roedd dy dad a finna i fyny acw yn Nhy'n y Maes hefo caib a rhaw yn torri metlin yn hytrach na mynd yn ol. Paid di a gwrando ar neb sy'n siarad ffasiwn lol.'

Dro byd ar ôl hyn, ar fore Sul arall, roeddwn i a Hywel fy mrawd yn eistedd mewn gwesty ym Mangor yn rhannu stgofion uwch potel o Scotch... Yna dweud wrth Hywel y stori am John Jones yn y Capel a gofyn iddo yntau, oedd bedair blynedd yn hyn na mi: 'Oedd Tada'n Fradwr?' Syllodd Hywel i'w wydryn am ennyd ac yna meddai yn drist a distaw: 'Oedd.'

(Afal Drwg Adda, Caradog Prichard, tud 12-13)

Gwrthwynebiad i'r streic

Cauwyd swyddfa'r chwarel ym Mhorth Penrhyn ym mis Ebrill 1967 a llosgwyd llwythi o hen lyfrau a llythyrau ar y cei . Achubodd un o'r gweithwyr ddogfen hynod, sydd heb weld golau dydd ers canrif. Ni oroesodd y gwreiddiol, ond placard ydoedd a osodwyd i fyny ger Gwesty'r Douglas Arms, Bethesda ddechrau Awst, 1902. Cyfieithwyd y ddogfen wreiddiol i'r Saesneg, a dyma'r unig fersiwn sydd wedi goroesi.

Ond mae hi'n ddogfen sy'n llawn ensyniadau dadlennol yn arbennig at Henry Jones, llywydd Pwyllgor y Streic ac i raddau llai at Griffith Edwards yr ysgrifennydd. Mae'n amlwg mai adwaith i gyfarfod nos Sadwrn diwedd Gorffennaf, 1902 oedd y placard yma, ac mae'n dangos am y tro cyntaf ers canrif ac yn cyfleu'r anfodlonrwydd a fodolai ymysg carfan o'r streicwyr at y pwyllgor, oblegid gellid dadlau, erbyn haf 1902, nad oedd pwrpas ymarferol i sefyll allan.

It is time for us quarrymen to know clearly what is our fate, and so, will the committee answer what follows.
· So as to be allowed to vote fairly for workmen, will Mr W.H. Williams urge voting by ballot?
· Will Henry Jones explain his pretensions to "lifting the curtain?"
· Had Henry Jones a prominent share in abolishing the Agreement in the time of Owens the clerk?
· Is it because that he failed to get an office that Henry Jones turned his back on the Blaid Fain?*
· Does being members of the Committee pay Henry Jones, Griffith Edwards and others better than working?
· Would it not be better for the Committee to resign so as to select more suitable men?
  Would it not be better for the Committee to make an application to Lord Penrhyn based on the terms offered in 1900?
  Is it not time to put the rope of the curtain round the necks of Henry Jones and Griffith Edwards?


Let us do it earnestly tonight boys
  I am,

"One suffering for want of food"
 
August 1902.

 

(*Blasenw yn y chwarel at y Blaid Doriaidd.)

 
Cyngor Gwynedd
Amgueddfa Lechi, Llanberis
Ymgynghorwyr Cynefin Cyllidwyd gan Enrich UK Y Gronfa Cyfleoedd Newydd
© Hawlfraint Cyngor Gwynedd 2003