Technegau yn y Chwarel - Y Gweithwyr
(Mae'n bwysig cofio fod gan bob ardal
chwarelyddol ei thermau ei hun. Termau Llanberis a ddefnyddiwyd
yn bennaf yma. Ond roedd termau cyfoethog ym mhob
ardal.)
Partneriaid oedd chwarelwyr yn draddodiadol. Gynt gellid dweud
fod dau ddosbarth yn gweithio yn y chwarel, un yn wastad mewn
clofar, a'r llall yn hogiau'r jac do am fod pethau mor
ddu arnynt. I gael bargen o werth, rhaid oedd mynd drwy'r
broses gwbl un ochrog o fargeinio gyda'r stiward gosod.
Wrth gwrs, roedd y pris wedi ei setlo yn y swyddfa'n barod, ac ni
allai'r chwarelwr ond ei dderbyn, neu roi ei waith i fyny. Term
gwbl gamarweiniol oedd bargeinio yn y chwarel.
Bargen oedd wyneb o graig tua 2m o led yn Ninorwig, ac
fe'i gosodid i griw i'w gweithio mewn partneriaeth a allai
amrywio o gyn lleied a dau hyd at ddeuddeg. Bob mis, fe ddeuai'r
stiward gosod heibio i brisio'r fargen yn ôl hyn a hyn y
bunt.
Staffio
Yn un ar ddeg neu ddeuddeg oed, byddai'r bachgen yn dechrau
gweithio fel rybelwr a dysgu'r grefft o
hollti a naddu. Dibynnai yn gyfangwbl ar ewyllys
da'r chwarelwr am ei ddeunydd, yr hwn a fyddai yn rhoi clytiau
man a chrawiau iddo fel cydnabyddiaeth. Erbyn iddo
gyrraedd rhwng un ar bymtheg ac ugain oed, dringai i fod yn
jermon. Ei waith rwan fyddai naddu cerrig i'r chwarelwr,
sef naddu wrth y dydd. Y cam olaf fyddai dod yn
chwarelwr.

Uchod: Dogfen Chwarter Sesiwn yn dangos bod cyn-chwarelwr o
Gaernarfon wedi ymuno a'r Llynges yn 1795.
|