Technegau yn y Chwarel - Y Chwarel a
Ffrwydro
(Mae'n bwysig cofio fod gan bob ardal chwarelyddol
ei thermau ei hun. Termau
Llanberis a ddefnyddiwyd yn bennaf yma. Ond roedd termau
cyfoethog ym mhob ardal.)
Dywedir mai Richard Pennant, yr Arglwydd Penrhyn cyntaf
o'r greadigaeth gyntaf a gafodd, diolch i'w stiward, y syniad o
weithio'r chwarel yn bonciau gyda bariau yn rhedeg
i lawr y gelltydd o'r naill bonc i'r llall ar gyfer
y car cyrn a ddefnyddid i gludo slediad o gerrig.
Gelwid ef yn gar cyrn am fod iddo ddau 'gorn' o haearn ar
y blaen i gadw'r pileri a'r clytiau llechi rhag
llithro ymlaen. Mewn rhai chwareli defnyddid blondin neu
wins, sef rhaff awyr wedi ei gosod uwchben y twll neu'r
sinc i godi llwythi o rwbel neu gerrig. Peiriant ager a
ddefnyddid i'w weithio cyn oes y trydan. Rhoddid enwau ar y
ponciau i gyd, a'r rhain yn enwau diddorol a rhyfedd yn aml.
Defnyddid enwau fel Abyssinia, California,
Giarat, New York, Edward Jones, Robin
Dre, Ruban Glas a Wembley i nodi ond
ychydig.
Tanio'r graig
Defnyddir powdwr du i chwythu'r
graig bob amser gan y byddai deinameit neu jeligneit yn ei
malurio. Cedwid y powdwr du yn y cwt neu'r ty powdwr a rhaid
fyddai gwisgo clocsiau arbennig yn y cwt gyda gwadnau o gopr
iddynt i osgoi y perygl o wreichionyn. Cludid y powdwr du yn ôl
yn y bag powdwr oedd wedi ei lunio o gadach neu rwber. Wrth gwrs,
defnyddid deunydd ffrwydro cryfach i glirio rwbel a chyrraedd y
llechfaen. Cyn oes y peiriant niwmatig defnyddid jympar i dyllu'r
graig. Math o ebill mawr yw hwn a'r ddau ben wedi eu pwyntio, a
thua 15cm o un pen iddo mae chwydd fel pelen er mwyn y pwysau.
Gweithir y jympar i fyny ac i lawr yn y twll efo'r pen
byrraf i gychwyn nes cyrraedd y `clap', sef y belen bwysau. Yno
troir ef drosodd a defnyddio'r pen arall nes cyrraedd y clap am
yr ail dro. Weithiau gosodir y powdwr mewn agennau hollt yn y
graig.
Rhaid wrth brofiad hir a gofal mawr i bowdro yn
llwyddiannus, gan wybod faint yn union o bowdwr i'w ddefnyddio ac
hefyd faint o stamping sydd ei angen i ryddhau'r graig yn
ddiogel heb ei niweidio hi na neb arall ychwaith. Os na chymerir
y gofal priodol gallai'r twll danio gan beri niwed
difrifol. Bydd saethu yn digwydd bum neu chwe gwaith y
dydd ar oriau penodedig. Pan genir y corn, cilia'r dynion
i gyd i'r caban mochal ffiar. Dri munud yn
ddiweddarach fe genir y corn eto a dyma'r arwydd i danio'r ffiws
naill ai efo sigaret neu fatsen ond byth efo trydan. Wedi
tanio, rhed y tanwyr i gyd am y cwt mochal at eu cyd
weithwyr i gael mygyn neu sgwrs. Yna, am gyfnod o dri neu bedwar
munud atsain y ffrwydradau drwy'r chwarel a chlywir swn tunelli o
graig yn cwympo i waelod y bargeinion a gorchuddir pob man gan
fwg glas - mwg cur yn y pen. Meddai'r chwarelwr ar ryw
ddawn oruwchnaturiol i adnabod ei ffiar ei hun a mesur ei
lwyddiant hyd yn oed cyn gadael y cwt. Wyth munud wedi'r caniad
cyntaf fe seiniai'r corn heddwch i roi'r arwydd fod y
saethu heibio.
|