Perchnogion Chwareli
Roedd dau fath o
berchennog yn y diwydiant llechi. Ar y naill law roedd teuluoedd
bonheddig traddodiadol fel Pennant ac
Assheton-Smith ac ar y llall, nifer o entrepreneuriaid
anturiaethus oedd yn berchnogion a lawer o chwareli ardaloedd
Nantlle a Blaenau Ffestiniog. Daliodd y gwahaniad yma hyd
flynyddoedd y Rhyfel Byd Cyntaf. Roedd y gwahaniaeth yn
wleidyddol hefyd gyda Thorïaeth y Penrhyn a'r Faenol a
Rhyddfrydiaeth Samuel Holland. Ond ni ellir gwadu'r ffaith mai
teuluoedd y Penrhyn a'r Faenol oedd teuluoedd mwyaf pwerus y
diwydiant. Roedd y diddordebau yma yn holl bwysig i'r diwydiant i
gyd, a thrwy eu polisïau prisio yn rheoli nid yn unig y farchnad
lechi yn gyffredinol ond hefyd ddyfodol chwareli bychain. Yn aml
iawn byddai sindicet o ddynion lleol yn cymeryd chwareli ar
les.
Un o bregethwyr mwyaf dylanwadol Cymru ganol y bedwaredd
ganrif ar bymtheg oedd John Jones (1796-1857). Ystyrid
"John Jones, Talysarn" yn radical peryglus gan John Elias
(1774-1841), ond a bod yn wrthrychol, bron na fyddai rhywun a
fentrai anghytuno ag ef ar ragolygon tywydd y dydd, yn elyn i
wareiddiad yng ngolwg Elias! Diddorol yw cofnodi hefyd fod John
Jones yn un o arwyr mawr David Lloyd George, gyda phortread
ohono yn cael lle amlwg yn
Stryd Downing pan oedd Lloyd George yn Ganghellor y Trysorlys ac
yna yn Brif Weinidog. Nodwedd o fywyd pregethwyr y cyfnod, ac yn
enwedig pregethwyr Methodistaidd oedd yr arferiad i'w gwragedd
gadw siop tra'r elent hwy ar deithiau pregethu. Gan fod cyfnither
John Jones wedi priodi efo Griffith Williams, un o
oruchwylwyr Chwarel Talysarn cafodd swydd yno ym 1822. Priododd y
flwyddyn wedyn efo Fanny, merch Thomas Edwards
goruchwyliwr Chwarel Cloddfa'r Lôn. Gadawodd y chwarel ac aeth
Fanny i gadw siop y drws nesaf i'r capel ac wrth ymyl y chwarel
hefyd. Gwerthid popeth o duntur rwibob i arfau chwarel!
Ym 1848 daeth y les ar Chwarel Dorothea i ben a ffurfiodd John
Jones ac eraill gwmni lleol i'w rhedeg. Ond er ei fod ef a'i
bartneriaid yn deall y graig dechreuodd y fasnach lechi ddirywio
yn gyffredinol. Gostyngwyd cyflogau a daeth yntau dan lach y
gweithwyr. Aeth pethau yn waeth arno pan gyhuddwyd ef o fod yn
annheg drwy ddiswyddo ei weithwyr gorau. Cyfiawnhai yntau hyn am
ei fod yn ceisio sicrhau gwaith i'r chwarelwyr tlotaf, oedd efallai yn llai o grefftwyr.
Ym 1852 bu ond y dim iddo gael damwain angeuol yn y chwarel
ac o ganlyniad penderfynodd dorri ei gysylltiad efo'r diwydiant a
gwerthodd ei holl gyfranddaliadau. Pan fu farw bum mlynedd yn
ddiweddarach rhoddwyd ei gorff yn ddiddos mewn tair arch, arch
dderw, arch fahogani ac i goroni'r cwbl, arch lechen. Ac i
selio'r diddosrwydd rhoddwyd maen coffa enfawr ar ei fedd ym
mynwent Eglwys Llanllyfni. Daeth John Lloyd Jones, (1826-93) ei
fab hynaf, o Blas y Bryn, Bontnewydd yn un o brif reolwyr
Chwareli Dorothea a Phenyrorsedd. Bu Fanny Jones farw ym 1877. Ni
ddylid anghofio ychwaith fod John Jones yn daid i'r heddychwr
George M. Ll. Davies (1880-1949.)
|