Perchnogion Chwareli Llechi - Llinach
Glynllifon
Yr oedd rhai eraill o'r hen deuluoedd bonheddig traddodiadol efo
bysedd yn y diwydiant, ond ddim i'r un graddau o bell ffordd a
theuluoedd Castell Penrhyn a'r Faenol. Y pwysicaf o'r dosbarth
yma oedd y Wynniaid, Glynllifon, ac yn enwedig Syr Thomas
Wynn, ar Arglwydd Newbrough cyntaf, fel y gwelsom yn ei
helyntion efo hawliau'r Goron, ei fab, Thomas John Wynn
(1802-1852) yr ail Arglwydd a'i frawd Spencer Bulkeley
Wynn (1803-88) y trydydd Arglwydd. Roedd eu diddordebau cloddi llechi hwy yn
Nyffryn Nantlle, Dyffryn Conwy, Blaenau Ffestiniog a Chorwen yn bennaf.

|