Perchnogion Chwareli Llechi - Chwareli
Meirionnydd
Draw ym Meirionnydd
Nodweddir
perchnogion chwareli Meirionydd gan "entrepreneuriaid"
anturiaethus o Loegr yn hytrach na gan dirfeddianwyr lleol. Fodd
bynnag, fe agorwyd chwarel Lechi'r Cletwr gan R.J. Lloyd
Price (1842-1923 ) Rhiwlas ym 1903. Ond y prif dirfeddianwyr
bonheddig fu'n ymwneud a'r diwydiant chwareli yn y sir oedd
teulu'r Oakeley, Plas Tanybwlch.
Llinach yr Oakeley
Pan fu Robert Griffith (1715-1750) farw estynnai tir
stad Tanybwlch o Bwllheli i Lanelltyd. Evan Griffith ei
fab a etifeddodd yr holl eiddo. Priododd ei unig blentyn ef,
Margaret Griffith efo William Oakeley (1750-1811) o
Forton, Swydd Stafford ym 1789. Adnabyddid ef fel Oakeley Fawr.
Aeth ef i bartneriaeth gyda Thomas Assheton Smith ac eraill ym
1809 i redeg Chwarel Dinorwig oedd i ychwanegu at gyfoeth y
teulu. Ail adeiladodd Eglwys Maentwrog, stablau newydd i'r plas,
ffordd newydd o Faentwrog i Harlech ac hefyd adennill llawer o
dir. Dilynwyd ef gan ei fab, William Gruffydd Oakeley
(1790-1835) a fyddai yn cael breindal o bum mil ar hugain o
bunnau am 1824-25 yn unig fel ei ddegfed ran ef o'r holl lechi a
gynhyrchwyd y flwyddyn honno. Ac eto ymddengys i W.G. Oakeley fod
yn brin o arian hefyd oblegid ym 1832 fe werthodd lawer iawn o
dir ac eiddo. Yn wir efallai mai gorfod cyfreithio efo Nathan
Meyer Rothschild, (Y Barwn Rothschild cyntaf) a'r Goron am
hawliau Rhiwbryfdir, a symud yr achos o'r Bala i Lundain fu'r
achos am hyn. Ni fu plant o'r briodas, a William Edward
Oakeley, ar y dde, (1831-1912) mab ei gefnder a etifeddodd yr
eiddo. Addysgwyd ef yn Eton a Rhydychen cyn priodi ym 1860. Ond
ni chafodd afael ar etifeddiaeth Tanybwlch hyd 1868 a hynny dan
amgylchiadau rhyfedd iawn.
Fi yw'r perchennog... Fi...Fi...
Ei fodryb, Louisa Jane Oakeley oedd yn dal y stad ar ôl
marwolaeth ei gwr ym 1835 hyd at 1868. Doedd hi ddim yn
foneddiges hawdd ei thrin, ac erbyn y 1860'au trodd yn feudwy i
bob pwrpas. Nid oedd yn cydnabod nac ateb llythyrau ei nai
William Edward Oakeley ac roedd y busnes llechi yn
dioddef. Yna, diflanodd Louisa o Danybwlch ym 1868 a mynd i aros
mewn gwesty yn yr Amwythig gyda'i morwyn. Penderfynodd William
Edwrard fynnu ei hawliau ar yr etifeddiaeth, a galwodd ar feddyg
i mewn i archwilio cyflwr meddwl ei fodryb. Adroddodd yntau yn ôl
fod yr hen wraig yn gwbl normal. Y diwedd fu, gofyn yn syml iddi
a oedd hi'n fodlon i drosglwyddo etifeddiaeth Tanybwlch i'w nai?
Cytunodd yn syth!
Datblygu a chadarnhau
Ail adeiladodd yntau'r plas, a chymryd rheolaeth gadarn ar y
chwareli llechi, codi tai newydd ym mhentref Maentwrog, eglwys
newydd ac ysgolion newydd yn y pentref ac yn Nhy Nant,
Gellilydan. Bu hefyd yn Uchel Siryf y Sir ym 1874, yn is raglaw,
ustus heddwch, ac yn aelod a henuriad o Gyngor Sir Meirionnydd.
Cymerodd chwareli Holland a Rhiwbryfdir drosodd ym 1878, a rhedeg
yr holl chwareli dan ei enw ei hun hyd 1882 pan sefydlwyd Cwmni'r
Oakeley dan ei gadeiryddiaeth. Prynodd y cwmni fwy o chwareli
wedyn gan gynnwys Chwarel Cwm Orthin ym 1900.
Gwario, gwario, gwario
Edrychai popeth yn flodeuog dros ben, ond nid dyna oedd y gwir
ddarlun o bell ffordd. Un peth oedd cymryd chwareli trosodd,
mater arall oedd cael arian i'w gweithio, a bu raid i Oakeley
fenthyca trigain mil o bunnoedd i wella'r sefyllfa (cyfystyr â
£6miliwn heddiw.) Darganfuwyd yn fuan nad oedd digon o lechi yn
cael eu cynhyrchu i dalu llogau'r banciau. Aeth y sefyllfa'n fwrn
ar y teulu, yn enwedig erbyn dechrau'r ugeinfed ganrif. Rhwng
1900 a 1904, syrthiodd incwm y chwareli i ddeuddeg mil ar hugain
y flwyddyn i un fil ar bymtheg y flwyddyn. Ac ar ben hyn, roedd
'Teddy' y mab yn gwario prês fel dwr yn ei glwb yn Llundain ac ar
geffylau rasio. Nid allai pethau ddal fel hyn, a gosodwyd stad
Tanybwlch dan forthwyl yr arwerthwr ym 1910. Yn wir, doedd y
teulu heb fod ar gyfyl y lle ers 1904. Ond trodd yr arwerthiant
yn fethiant ac ni werthwyd ond un neu ddwy o ffermydd yn
unig.
Digwyddodd, darfu...
Edward de Clifford William Oakeley (1864-1919) a
etifeddodd stad Tanybwlch ym 1912. Prynwyd y plas a rhan
sylweddol o'r tir gan ei nith ef, Margaret Inge ym 1914. Bu
hithau farw o fewn misoedd i'w hewythr ym 1919 pan ddaeth ei
chwaer, Hilda Inge yn berchen y plas. Bu hithau farw ym 1953, a'i
mam oedd perchen gweddill y stad, oedd yn cynnwys cyfranddaliadau
yng nghwmni'r chwareli. Ar ei marwolaeth hi, dychwelodd yr
etifeddiaeth i ddwylo Mary Caroline Inge eu mam (1865-1961.)
Gwerthwyd Plas Tanybwlch ym 1962, daeth cysylltiad teulu'r
Oakeley i ben a chauodd y chwareli i gyd o un i un gan gynnwys
chwarel yr Oakeley ym 1971.
|