Perchnogion Chwareli Llechi - Llinach
Oakeley
Pan fu Robert Griffith (1715-1750) farw estynnai tir
stad Tanybwlch o Bwllheli i Lanelltyd. Evan Griffith ei
fab a etifeddodd yr holl eiddo. Priododd ei unig blentyn ef,
Margaret Griffith efo William Oakeley (1750-1811) o
Forton, Swydd Stafford ym 1789. Adnabyddid ef fel Oakeley Mawr.
Aeth ef i bartneriaeth gyda Thomas Assheton Smith ac eraill ym
1809 i redeg Chwarel Dinorwig oedd i ychwanegu at gyfoeth y
teulu. Ail adeiladodd Eglwys Maentwrog, stablau i'r newydd i'r
plas, ffordd newydd o Faentwrog i Harlech ac hefyd adennill
llawer o dir. Dilynwyd ef gan ei fab, William Gruffydd
Oakeley (1790-1835) a fyddai yn cael breindal o bum mil ar
hugain o bunnau am 1824-25 yn unig fel ei ddegfed ran ef o'r holl
lechi a gynhyrchwyd y flwyddyn honno. Ac eto ymddengys i W.G.
Oakeley fod yn brin o arian hefyd oblegid ym 1832 fe werthodd
lawer iawn o dir ac eiddo. Yn wir efallai mai gorfod cyfreithio
efo Nathan Rothschild, (Y Barwn Rothschild cyntaf) a'r
Goron am hawliau Rhiwbryfdir, a symud yr achos o'r Bala i Lundain
fu'r achos am hyn. Ni fu plant o'r briodas, a William Edward
Oakeley, (1831-1912,) mab ei gefnder a etifeddodd yr eiddo.
Addysgwyd ef yn Eton a Rhydychen cyn priodi ym 1860. Ond ni
chafodd afael ar etifeddiaeth Tanybwlch hyd 1868 a hynny dan
amgylchiadau rhyfedd iawn.
Fi yw'r perchennog... Fi...Fi...
Ei fodryb, Louisa Jane Oakeley oedd yn dal y stad o farw ei
gwr ym 1835 hyd 1868. Doedd hi ddim yn foneddiges hawdd ei thrin,
ac erbyn y 1860'au trodd yn feudwy i bob pwrpas. Nid oedd yn
cydnabod nac ateb llythyrau ei nai William Edward Oakeley
ac roedd y busnes llechi yn dioddef. Yna, diflanodd Louisa o
Danybwlch ym 1868 a mynd i aros mewn gwesty yn yr Amwythig gyda'i
morwyn. Penderfynodd William Edwrard fynnu ei hawliau ar yr
etifeddiaeth, a galwodd ar feddyg i mewn i archwilio cyflwr
meddwl ei fodryb. Adroddodd yntau yn ôl fod yr hen wraig yn gwbl
normal. Y diwedd fu, gofyn yn syml iddi a oedd hi'n fodlon i
drosglwyddo etifeddiaeth Tanybwlch i'w nai? Cytunodd yn syth!
Datblygu a chadarnhau
Ail adeiladodd yntau y plas, rhoi trefn ar y daliadau llechi,
codi tai newydd ym mhentref Maentwrog, eglwys newydd ac ysgolion
newydd yn y pentref ac yn Nhy Nant. Bu hefyd yn Uchel Siryf y Sir
ym 1874, yn is raglaw, ustus heddwch, ac yn aelod a henuriad o
Gyngor Sir Meirionnydd. Cymerodd chwareli Holland a Rhiwbryfdir
drosodd ym 1878, a rhedeg yr holl chwareli dan ei enw ei hun hyd
1882 pan sefydlwyd Cwmni'r Oakeley dan ei gadeiryddiaeth. Prynodd
y cwmni fwy o chwareli wedyn gan gynnwys Chwarel Cwm Orthin ym
1900.
Gwario, gwario, gwario
Edrychai popeth yn flodeuog dros ben, ond nid dyna oedd y gwir
ddarlun o bell ffordd. Un peth oedd cymeryd chwareli trosodd,
mater arall oedd cael arian i'w gweithio, a bu raid i Oakeley
fenthyca trigain mil o bunnoedd i hyn (cyfystyr â chwe miliwn
heddiw.) Darganfyddwyd yn fuan nad oedd digon o lechi yn cael eu
cynhyrchu i dalu llogau'r banciau. Aeth y sefyllfa'n fwrn ar y
teulu, yn enwedig erbyn dechrau'r ugeinfed ganrif. Rhwng 1900 a
1904, syrthiodd incwm y chwareli i deuddeg mil ar hugain y
flwyddyn i un fil ar bymtheg y flwyddyn. Ac ar ben hyn, roedd
'Teddy' y mab yn gwario prês fel dwr yn Llundain yn ei glwb yn
Llundain ac ar geffylau rasio. Ni allai pethau ddal, a gosodwyd
stad Tanybwlch dan forthwyl yr arwerthwr ym 1910. Yn wir, doedd y
teulu heb fod ar gyfyl y lle ers 1904. Ond trodd yr arwerthiant
yn fethiant ac ni werthwyd ond un neu ddwy o ffermydd yn
unig.
Digwyddodd, darfu...
Edward de Clifford William Oakeley (1864-1919) a
etifeddodd y Tanybwlch ym 1912. Prynwyd y plas a rhan sylweddol
o'r tir gan ei nith ef, Margaret Inge ym 1914. Bu hithau farw o
fewn misoedd i'w hewythr ym 1919 pan ddaeth ei chwaer, Hilda Inge
yn berchen y plas. Bu hithau farw ym 1953, a'i mam oedd perchen
gweddill y stad, oedd yn cynnwys cyfranddaliadau yng nghwmni'r
chwareli. Ar ei marwolaeth hi, dychwelodd yr etifeddiaeth i
ddwylo Mary Caroline Inge eu mam (1865-1961.) Gwerthwyd Plas
Tanybwlch ym 1962, daeth cysylltiad teulu'r Oakeley i ben a
chauodd y chwareli i gyd o un i un gan gynnwys chwarel yr Oakeley
ym 1971.
|