Perchnogion Chwareli Llechi - Rhanbarth
Môn
Rhanbarth Môn
Bychan iawn oedd y diwydiant llechi ym Môn. Rhan o stad y
Faenol oedd chwarel Trefarthen, Brynsiencyn a oedd yn gweithio yn
y ddeunawfed ganrif. Rhan o stad Baron Hill oedd y chwareli
bychain ar ffin plwyf Llangefni a Llangristiolus. Rhan o stad
Baron Hill hefyd oedd Chwareli Llanfflewyn (gweler map isod) a
Bodegri.
Roedd hon yn cynhyrchu cerrig mwsog ym 1864 a chymerwyd les
newydd allan arni a'r tir ffiniol ym 1875 gyda chaniatad i
adeiladu cwt injian, stordai, bythynnod i'r chwarelwyr, ffyrdd
haearn, siafftiau, lefelau ac aditiau. Ni sylweddolwyd y
breuddwydion.
Rhan o stad Llys Dulas oedd chwarel Llaneilian, a ddechreuodd
gynhyrchu ym mis Chwefror 1870 gan gwmni wedi ei sefydlu gan wyr
o Swydd Efrog a Manceinion. Er cael rhagolygon disglair gan ddau
archwilydd o chwareli llechi Sir Gaernarfon a chyflogi John
Hughes, o Chwarel Dinorwig yn rheolwr, ni sylweddolwyd y
breuddwydion. Rhoddwyd heibio'r cynllun i greu 'Porth Dinorben' i
allforio'r llechi erbyn 1872 gan ddefnyddio troliau i gario'r
cerrig i Borth Eilian.
Darganfuwyd gwythien o gopr yn yr un flwyddyn ac ym 1873
cychwynwyd ar gloddio lefel arall. Erbyn hyn daeth y gwerthu
cyfranddaliadau i ben. Gofidid hefyd nad oedd lle cyfaddas i
adeiladu siediau a pheiriannau i drin y llechfaen. Hyd at Fehefin
1873 cynhyrchwyd:
1,940 o lechi o'r ansawdd gorau, 480 o lechi ail
ddosbarth, 2,700 o gerrig mwsog
Erbyn Mehefin 1875 roedd y banc yn gwasgu am arian ac o weld y
sefyllfa yn ddu cyhoeddodd y banc y dylid dirwyn y cwmni i ben.
Gyda rhyw ychydig o ffydd yn aros caniatawyd i'r cyfarwyddwyr
fenthyca £3,000. Gwastraff arian llwyr oedd hyn oblegid daeth yr
holl weithio i ben ym mis Mehefin 1877 a dirwynwyd y cwmni i ben
ym mis Awst 1878.
![Map o ardal Llanfflewyn, lleoliad chwarel lechi ar Sir Fôn. [Prifysgol Cymru, Bangor]](images/T0000397.gif)
|