Perchnogion Chwarel - Llinach y
Penrhyn
Caethweision, Siwgwr a Llechi
Richard Pennant, (1737?-1808), llun ar y dde, oedd y
cyntaf i gychwyn y diwydiant ar ei lwybr entrepreneuraidd. Er fod
ei deulu yn hannu o Sir y Fflint, un o dywysogion masnach Lerpwl
oedd Pennant gyda'i gyfoeth wedi ei sylfaenu yn solet ar y
fasnach gaethweision a thiroedd ar ynys Jamaica. Priododd efo Ann
Susannah, merch ac aeres Hugh Warburton (1695-1771) ar
Ragfyr 6ed, 1765. Daliai Hugh Warburton hanner stad y Penrhyn fel
y cyfeiriwyd eisioes. Dyrchafwyd Pennant gydag arglwyddiaeth
Wyddelig ym 1783, yn Farwn Penrhyn o'r Penrhyn yn Swydd
Louth. Gan mai arglwyddiaeth Wyddelig a gafodd, cai barhau i
eistedd fel aelod seneddol.. Dyma esiampl wych o gynllwynio
gwleidyddol y cyfnod. Bu'n aelod seneddol dros Peterfield o
1761-1767, a thros Lerpwl o 1768-1780 a thrachefn dros y ddinas o
1785-1790.
Un o'i stiwardiaid pwysicaf oedd William Williams*, (1738-1817), llun ar y dde isod,
ac fe ymddengys mai ef sy'n haeddu'r clod am weithio Chwarel y
Penrhyn yn bonciau, a'i rhedeg ar linellau llwyr gyfalafol gan
newid strwythuriaeth y diwydiant yn llwyr yn y fargen. Cyn
ymddeol yn 1803 ar bensiwn sylweddol a dderbyniodd drwy
ddiolchgarwch Arglwydd Penrhyn, bu'n gweinyddu'n effeithiol
ddulliau cynhyrchu, allforio a gwerthu llechi a llawer o
gyfrifoldebau eraill. Ni ellir bychanu ei gyfraniad enfawr.
* Gweler Un o Wyr y Medra
- Bywyd a gwaith William Williams, Llandygai, gan
Dafydd Glyn Jones(1999).
Codi 'castell'.
Ar farwolaeth Arglwydd Penrhyn ym 1808 a'i weddw ym 1816,
etifeddwyd holl stad y Penrhyn a thiroedd bras Jamaica, gan ei
gefnder, George Hay Dawkins (1763-1840). Dechreuodd ar
bolisi o eangu'r stad gan brynu hefyd nifer o westai ym Mangor.
Ef hefyd oedd yn gyfrifol am adeialadu'r Castell Penrhyn presennol rhwng 1821 a 1836
i gynlluniau Thomas Hooper.
Llinach y Penrhyn
Ar ei farwolaeth, enwodd ei ferch, Juliana, i etifeddu
ei holl eiddo, ac yna i'w fab yng nghyfraith, Cyrnol Edward
Gordon Douglas, (1800-86), llun ar y dde, ar yr amod ei fod
yn mabwysiadu yr enw Pennant a'i arfbais. Bu farw Juliana yn
ninas Pisa ddwy flynedd yn ddiweddarach. Cynrychiolodd y Cyrnol
Sir Gaernarfon yn y Senedd o 1841-66. Yn dirfeddiannwr llawn
ynni, ehangodd yntau'r stad a hynny nid yn unig yng Nghymru ond
yn Lloegr hefyd. Croesawodd Brenhiness Victoria i Gastell y
Penrhyn ym 1859 a chwe mlynedd yn ddiweddarach fe'i dyrchafwyd i
arglwyddiaeth yn y Deyrnas Unedig, gyda'r teitl Barwn Penrhyn o
Landygai.. Etholwyd George, ei fab yn ddiwrthwynedbiad i'r Senedd
yn ei le. Ar ei farwolaeth ym 1886, etifeddwyd ei holl eiddo yng
Nghymru, Lloegr a Jamaica gan ei fab hynaf, George Sholto
Douglas-Pennant, (1856-1907.)
Adroddodd W.J. Parry, (1842-1927) stori
anecdotaidd am ddigwyddiad ym 1865 sydd yn allwedd bwysig i
ddechrau deall cymeriad yr ail Arglwydd Penrhyn.
Yn y fan, clywn Colonel Pennant yn
galw arnaf,- "Parry, come back. Call the men back...Tell them
that he is my son and heir, George." Wedi cyfieithu hyn iddynt,
ychwanegodd,-"Tell them to beware not to offend George, for if
they do he will never forgive, he can never forgive." Wedi i mi
gyfieithu hyn drachefn i'r dynion, troes Colonel Pennant at y
mab, yr hwn oedd yn edrych allan drwy y ffenestr, a'i gefn atom,
a dywedod,- "It is so George, is it not?. Edrychodd ytau dros ei
ysgwydd, heb droi ac atebodd, "Let them try, and they will
see"... Yr oedd yr un peth yma ynddo yn cuddio llawer o'i
rinweddau eraill.
(Hanes fy Mywyd a’m Gwaith, W.J. Parry.)
|
Wedi ei eni ym 1836, etifeddodd George Sholto Gordon
Douglas-Pennant sedd seneddol Sir Gaernarfon gan ei dad ym
1866, a'i cholli wedyn ddwy flynedd yn ddiweddarach i'r
Rhyddfrydwyr. Enillodd hi yn ôl ym 1874 i'w cholli drachefn ym
1880. Ag edrych ar y dystiolaeth, ymddengys ei fod yn
dirfeddiannwr tra chydwybodol, ond plymiodd ei berthynas efo'i
chwarelwyr i ddyfnder mawr, a chan suddo i'r dyfnderoedd eithaf
gyda'r Streic Fawr 1900-03. Credai fod unrhyw
fygythiad i'w awdurdod personol ef i'w herio ben ben ar bob
cyfrif. Gweinyddid ymerodraeth ariannol enfawr o Gastell Penrhyn.
Nid yn unig ei fod y trydydd tirfeddiannwr mwyaf yng Nghymru, ond
ef oedd perchennog chwarel lechi fwyaf y byd. Ym 1899 gwnaeth y
chwarel elw o £133,000, sef dwy waith yr hyn a dderbyniodd fel
rhenti o'i diroedd eraill y flwyddyn honno. Ym 1890 treuliodd Carmen Sylva, brenhines
Rwmania, llun ar y dde, wyliau ar ei aelwyd, gan blannu coeden yn
yr ardd i ddathlu'r amgylchiad. Bedair mlynedd yn ddiweddarach,
wrth ymweld ag Eisteddfod Genedlaethol Caernarfon arhosodd Albert
Edward, Tywysog Cymru, ei briod, a'u merched rai dyddiau dan ei
gronglwyd.
Ar ei farwolaeth ym 1907 fe'i olynwyd gan ei fab Edward
Sholto Douglas-Pennant 1864-1927, y trydydd Arglwydd Penrhyn.
Gyda gwerthu rhannau o gyrion y stad i dalu toll farwolaeth
dechreuodd yr etifeddiaeth grebachu. Yn wir, fe werthwyd mwy
wedyn ym 1910, 1912 a 1925. Felly, etifeddiaeth wedi crebachu
gryn dipyn a ddaeth i ddwylo Hugh Napier Douglas-Pennant,
y pedwerydd Arglwydd Penrhyn ym 1927. Gwerthwyd yr eiddo yn
Jamaica ym 1933 a mwy o eiddo yn Sir Gaernarfon ym 1939. Ar ei
farwolaeth, ddegawd yn ddiweddarach, gwahanwyd y teitl oddi wrth
yr eiddo.
|