Perchnogion Chwarel - Llinach y
Faenol
Datblygodd Stad
y Faenol o Faenoriaeth y Goron, ac fe'i gosodwyd ar les yn yr
unfed ganrif ar bymtheg i aelod o deulu Cochwillan. Ar farwolaeth
Syr William Williams yn ddi blant ym 1696, trosglwyddodd stad y
Faenol yn ei ewyllys i'r Goron. Yna, rhyw dro cyn 1723 cyflwynwyd
hi i John Smith, Tedworth, Swydd Hampshire Ar ei
farwolaeth ef yn 1762 etifeddwyd Tedworth a'r Faenol gan ei nai,
Thomas Assheton o Ashley, Sir Gaer. Cymerodd yntau'r enw
ychwanegol 'Smith' ym 1774.
Nid oes dadl mai'r Penrhyn oedd yn arwain y ffordd, ac ni
chymerodd Thomas Assheton Smith (1752-1828) ofal personol
am chwarel Dinorwig hyd 1809. Yn wir mae'n ddiddorol nodi'r
cyfeillgarwch a fodolai rhyngddo ef a George Hay Dawkins Pennant o'r Penrhyn,
gyda'r ddau yn gyd aelodau o'r 'Menai Pitt Club.' Yn dilyn
Pennant a Syr Watkin Williams-Wynn, Assheton-Smith oedd trydydd
tir feddiannwr Gwynedd. Cyfanswm ei renti ym 1806 oedd £42,000,
ond deuai'r mwyafrif mwyaf anferthol o Chwarel Dinorwig, oedd yn
y flwyddyn honno yn unig yn allfotrio 20,000 tunnell o lechi. Ei
stadau yn Lloegr oedd bwysicaf yn ngolwg ei dad, ac mor ddiweddar
a 1792, disgrifiwyd y Faenol fel once the mansion of
conviviality and mirth, now the the neglected seat of A. Smith
Esq. Ond yr oedd wedi sylweddoli gwerth gwleidyddol y Faenol,
oblegid daliodd y sedd seneddol sirol o 1774-1780 yn ogystal a
bod yn Uchel Siryf ym 1783-84. O 1796 ef oedd aelod seneddol
Swydd Hampshire. Yn raddol hefyd, dechreuodd sylweddoli fod i'r
tracts of bogs and rocks yma bosibiliadau economaidd.
O 1778 ymlaen dechreuodd osod ei ffermydd ar lesi hir i geisio
meithrin gwell ffermio gan ei denantiaid. Ond yr em yn y goron
oedd y garreg las ac nid amaethyddiaeth. (Deuai'r gwaith arloesi
gyda Gwartheg Du Cymreig ganrif yn ddiweddarach.) Ei ddylanwad
nerthol ef fu'n gyfrifol dros rwystro codi pont dros y Fenai ym
1801, ac yng ngwyneb gwrthwynebiad enfawr gan y bobl, rhaid fu
galw meirchfilwyr i amddiffyn ei eiddo pan amgauodd dir comin
Llanddeiniolen ym 1809, a thrwy hynny ychwanegu 2,692 erw yn
ychwanegol at ei eiddo.
'I'll be damned if I ever cross that
bridge....'
Olynwyd ef gan ei fab Thomas, (1776-1858.) Ganwyd ef yn
Llundain ym 1776 a'i addysgu yn Eton lle daeth i enwogrwydd fel
paffiwr. Tra yno, daeth i gredu'n gadarn mewn 'ffagio' ac if
you thrash a boy when young he most probably will not need it
once he grows up. Ond yn rhyfeddol fe ddysgodd lawer iawn yno
am y Clasuron cyn mynd i Rydychen ym 1794. Ei hoff bleser oedd
hela, a hynny ers blynyddoedd cyn dod yn feistr pac Swydd
Hampshire o 1806-16 Yn ystod y cyfnod yma talodd 1,000 gini am un
pac o gwn hela yn unig! Priododd ym 1827 efo merch William Webber
o Binfield Lodge, Swydd Berkshire. Flwyddyn wedi marwolaeth ei
dad fe ailadeiladodd y ty a stablau Tedworth i'w gynlluniau ei
hun. Yn Dori gyda'r glasaf o blant dynion, roedd yntau yn aelod
o'r Menai Pitt Club ac wedi dal y swydd o lywydd ym 1824 a 1830.
Ac eto fel ei dad, roedd yn gwbl wrthwynebus i unrhyw gynllun i
godi pont dros y Fenai, ac wedi ei chodi a'i hagor ym 1826,
addunedodd na wnai ei defnyddio byth. Daliodd i groesi'r Fenai
o'r Faenol mewn cwch hyd ddiwedd ei ddyddiau! Yn wir, efallai ei
fod yn ffodus fod ganddo ddiddordeb mor fawr mewn hwylio beth
bynnag.
Popeth modern i'r plas
Hanner addolai ei frenhines, gan alw'r gwesty a gododd yn
Llanberis yn Victoria Hotel. Victoria Slate oedd yr enw a
roddodd ar y lechen wyrdd arbennig a ddeuai o chwarel Ddinorwig A
phan gafodd ei iot ager gyntaf, galwodd hi'n Fire Queen.
Ac nid rhyw gychod bach o bethau oedd ei gychod ychwaith.
Costiodd ei iot gyntaf £20,000 ym 1829. Ar ben hyn, roedd ganddo
ddiddordeb mawr mewn peirianwaith a chynlluniodd reilffordd yn ei
dai yn Llundain, Tedworth a'r Faenol i gario'r bwyd yn ôl a blaen
rhwng y ceginau a'r ystafelloedd bwyta. Credai hefyd yn ei
foddion unigryw at wella'r cyfansoddiad, sef dowcio'r pen am gyn
hirred a phosibl mewn dwr oer bob bore. Defnyddiai'r Faenol fel
ty haf, ac yn Ddoctor Cwac neu beidio, byddai'n mynd i lawr i
swyddfa'r porthladd bob bore i sicrhau fod y cyfrifon yn gwbl,
gwbl gywir. Ym 1856 gwnaeth chwarel Dinorwig elw clir o £30,000
oedd yn ddwbl yr hyn a dderbyniai fel rhenti tir y Faenol. Credai
yn gryf yn sancteiddrwydd y Sabath a mynnai gerdded i'r eglwys.
Ni chaniateid defnyddio cerbyd o unrhyw fath. Bu farw ym 1858 yn
y Faenol a'i gladdu yn Tedworth.
Nid oedd ganddo blant ac etifeddwyd ei diroedd gan ei or-nai
George William Duff. (1848-1904.)
Fy eiddo yw fy eiddo
Derbyniodd ef ei addysg yn Eton a Rhydychen a phan ddaeth i
lawn oed ym 1859 ychwanegodd yr enw Assheton-Smith at ei
enwau eraill. Bu wythnos o ddathliadau ar yr amgylchiad yma gyda
phabell fawr wedi ei chodi lle ceid gwleddau a dawsfeydd, heb son
am gemau, rasus a than gwyllt. Doedd ganddo fawr ddim diddordeb
mewn bywyd cyhoeddus arwahan i hela a hwylio ar ei iot,
Pandora. Bu'n Uchel Siryf Môn ym 1872 ac yn Uchel Siryf
Sir Gaernarfon ym 1878. Priododd ym 1888 gyda Laura Alice
Stanhope Jones, Tilston, Sir Gaer ac i ddathlu'r amgylchiad
cyflwynodd hanner rheni ei denantiaid amaethyddol am y flwyddyn
honno yn ôl iddynt. Ceidwadaeth oedd ei wleidyddiaeth, a lletyai
Arglwydd Salisbury, y prif Weinidog dan nenbren y Faenol pan ar
ymweliad â Chaernarfon yn yr un flwyddyn. Arhosodd rhai o'r Teulu
Brenhinol yno hefyd yn eu tro dros y blynyddoedd.
Pan ddathlodd Victoria ei Jiwbili Diamwnt ym 1897, rhoddodd
bedwar niwrnod o wyliau yn Llundain i'r holl weithwyr a'u
gwragedd i ddathlu'r sbloet yn ogystal a rhodd o ghoron (25c) i
bob gweithiwr. Ac fel nad oedd hyn yn ddigon, planwyd y
Jubilee Hill, sef coed a phlanhigion i ffurfio nid yn unig
y gair JUBILEE, ond hefyd briflythrennau ei enw a'r
flwyddyn. Am rai blynyddoedd bu ganddo sw ym Mharc y Faenol
yn llawn o anifeiliaid ecsotig a pheryglus, ond erbyn 1900 cafodd
fadael a'r mwyafrif ohonynt gan adael ond gwartheg, ceirw a bison
i bori erwau'r parc. Gwariodd tua £307,000 ar wella'r stad dros y
blynyddoedd. Ei maint ym 1904 oedd 36,660 erw gyda 1,600 o
denantiaid. Hoffai frolio y gallai gerdded y pymtheg milltir o'r
Faenol i gopa'r Wyddfa heb gamu unwaith oddi ar ei eiddo ef ei
hun.
Steil ar bob cyfrif
Etifeddwyd stad y Faenol gan ei frawd Charles Garden
Duff, (1851-1914.) Addysgwyd ef yn Harrow, a bu'n byw am
flynyddoedd hyd 1904 yn Nhrefarthen, ger Brynsiencyn, gyferbyn
a'r Faenol fwy neu lai. Dewiswyd ef yn Uchel Siryf Môn ym 1885.
Gwr tawel iawn ei natur ydoedd a'i brif hoffter oedd rasio
ceffylau. Yn wir enillodd ras y Grand National deirgwaith;
ym 1893 gyda Cloister, ym 1912 gyda Jerry M ac ym
1913 gyda Covercoat. Ond diddorol yw sylwi fod rhannu
pellaf y stad wedi dechrau cael eu gwerthu ym 1907, yr union
batrwn ag oedd yn digwydd ar stad y Penrhyn. Dewiswyd ef yn Uchel
Siryf Sir Gaernarfon ym 1908, a daeth pymtheg o'i weithwyr talaf
o'r chwarel i ffurfio gosgordd adeg agor y Seisus yng
Nghaernarfon y flwyddyn honno. Cyflwynwyd llestri arian ac
anerchiad goreuredig iddo gan y chwarelwyr ym 1912 i ddathlu'r
ffaith iddo gael ei ddyrchafu yn Farwnig. Bu farw yng ngwesty
Claridge's yn Llundain ddiwedd Medi 1914.
Drosodd cyn y Nadolig
Ei fab, Richard George Vivian Duff, (1876-1914)
etifeddodd y stad. Fel cynifer o'i ddosbarth, yr oedd ar dân dros
fynd i ryfela ac ail ymunodd efo' hen gatrawd, y 2nd Life Guards.
Gadawodd am Ffrainc ar Hydref 6ed, a lladdwyd ef cyn diwedd y mis
yn y ffoi o Mons.
Diwedd y llinach
Ei unig fab, Michael Robert Vivian Duff (1907-1980) a
etifeddodd y stad. Gwerthwyd rhannau ohoni drachefn ym 1919 fel
rhan o'r patrwm mawr a effeithiodd ar stadau yn gyffredinol.
Mabwysiadodd y cyfenw Duff Assheton-Smith ym 1928, gan ei ollwng
drachefn ym 1945. Gwasanaethodd fel Maer Bwrdeisdref Caernarfon, Uchel Siryf ac
Arglwydd Raglaw a chadw'r cysylltiad clos efo'r Teulu Brenhinol Gyda chau
chwarel Dinorwig a'i gwerthu gyda gweddill y stad, a'i farwolaeth ef, daeth y
teulu i ben.
|