Diwydiant - Yr Ardaloedd Llechi
Rhanbarth Arfon
Felly, mae llechfaen Caernarfon, sy'n ymestyn o Fethesda, drwy
Lanberis, Moel Tryfan a Dyffryn Nantlle, wedi ei ffurfio yn y
cyfnod Cambriaidd, ac yma roedd dwy o chwareli mwyaf y byd, sef
Dinorwig a'r Penrhyn. Lleolid hwy ar lethrau cyferbynniol yr
Elidir Fawr. Ar ochr arall y dyffryn, gyferbyn a chwarel Dinorwig
gwelir chwareli Glynrhonwy. Chwe milltir i'r de orllewin o
Lanberis fe welir chwareli Dyffryn Nantlle, lle mae'r llechfaen
yn torri drwy lawr y dyffryn. Gweithir y garreg yn Ninorwig a'r
Penrhyn o bonciau agored, ond o dyllau dyfnion yn Norothea a
Phenyrorsedd.
Rhanbarth Meirionnydd
Gorwedd y llechfaen Ordofigaidd bwysicaf fodd bynnag yn ardal
Blaenau Ffestiniog, a chan fod y gwely llechfaen yma yn gwyro yn
isel dan y mynyddoedd, fe'i cloddir o'r dyfnderoedd. I'r gogledd
ddwyrain o'r Blaenau, fe welir hen chwareli Penmachno a
Dolwyddelan.

Lleolir ardaloedd eraill o bwys economaidd i'r de
ddwyrain, yn ardaloedd Cricieth a Phorthmadog, dde, gan redeg ymlaen
tuag at Drefriw yn Nyffryn Conwy.
Rhanbarth Môn
Cloddiwyd llechi hefyd yn y gorffennol yn Sir Fôn yn ystod y
1870'au yn Chwarel Sglaets (Llaneilian) a Chwarel Baron Hill ger
Llanfechell. Roedd hyd yn oed chwarel fechan ar ffiniau plwyf
Llangefni a Llangristiolus.
Ardaloedd eraill
Cloddiwyd hefd yn Nyffryn Conwy yn Chwareli Cedryn a Cwm
Eigia, Chwareli'r Clogau, Y Foel Faen a Glyn Ceiriog yn Sir
Dinbych. Beil Chwarel Y Berwyn neu'r Clogau yn Llangollen i
gloddio hyd heddiw. Mae'r chwarel yma yn gweithio ers y
1770'au.
Diwydiant Llechi y De Orllewin.
I'r mwyafrif o bobl mae'r diwydiant llechi yng Nghymru yn
gyfystyr â gogledd y wlad, yr ardaloedd oedd ar eu pinacl yn
cynhyrchu rhwng 80%-90% o lechi holl wledydd Prydain. Ond rhaid
cofio hefyd am fodolaeth y diwydiant yng Ngogledd Penfro, yn y
presealau, ar y ffin gyda Sir Gaerfyrddin ac hefyd yn ardal
Cilgerran yn Nyffryn Teifi.
Yn ystodail hanner y bedwraedd ganrif ar bymtheg darllenwn
gyfeiriadau am tua cant o chwareli a rhai cannoedd o weithwyr
yma.
Mae'r hanes yn ymestyn yn ôl i gyfnod y Rhufeiniaid ac fe'u
defnyddiwyd ganrifoedd yn ddiweddarach i doi eglwysi.Honnir fod
llechi o' chwareli i ddwyrain yr afon Cleddau wedi eu defnyddio
yn y ddeuddegfed ganrif i doi abaty Hendy-gwyn.
Allforid llechi i Fryste ac i Iwerddon ym 1566 a chyfeiria
George Owen ym 1603 fod allforio yn digwydd o Hwlffordd,
Dinbych y Pysgod a Phenfro. Datblygwyd y cysylltiadau Gwyddelig
gydag allforio 40,000 o lechi i Iwerddon ym 1616 a amryfal
borthladdoedd..Tra ym 1639 fe allforiwyd 30,000 o lechi o
borthladd Abergwaun yn unig.
Erbyn y ddeunawfed ganrif dechreuodd chwareli Dyfnaint a
Chernyw hawlio mwy ar fasnach Môr Hafren. Ond yr her fwyaf
difrifol i'r diwydiant oedd lechi gogledd Cymru yn llifo i mewn
i'r Ynys Werdd.
Ond er gwaethaf hyn a'r ffaith fod y chwareli ymhell o
ardaloedd poblog Lloegr datblygodd y diwydiant yn bennaf yn y
bedwaredd ganrif ar bymtheg yn dilyn twf diwydiannol cymoedd y
de.
Nid oedd y ffyniant i barhau ac erbyn 1876 dechreuodd y
diwydiant ddihoeni. Erbyn 1884 roedd y prisiau wedi syrthio i
lefelau y 1860'au ac aeth llechen penfro yn annerbyniol. Trodd
pethau ar wella ychydig erbyn y 1890'au ond ychydig o chwareli
oedd wedi goroesi'r dirwasgiad.
Ar y llaw arall fe lwyddodd chwareli'r lechen wyrdd i oroesi'n
well i mewn i'r ugeinfed ganrif.
Cynlluniwyd adeilad newyd Coleg Prifysgol Cymru,
dde, gyda tho o
lechi gwyrdd. Nid oedd chwareli llechen wyrdd Dyffryn Nantlle yn
cynhyrchu ym 1907 ac felly defnyddiwyd llechi o Sir Benfro.
Penderfyniad nad oedd yn boblogaidd iawn yn ardaloedd y gogledd
ar y pryd. Erbyn y 1920'au a'r 1930'au gwrthodwyd y lechen las
gan ffasiwn bensaerniol y cyfnod hefyd. Yn wir roedd cwmni Davies
Bros. O Borthmadog yn gwerthu'r lechen yn y gogledd. A daliodd
Chwarel y Gilfach, i'r dwyrain o'r afon Cleddau i gyhyrchu hyd
1987.
|