Diwydiant - Cymru a'r Diwydiant Llechi Gogledd
Amerig
Er
gwaethaf y ffaith fod llechfaen i'w
ddarganfod mewn llawer o ardaloedd yn yr
Unol Daleithiau, taleithiau'r dwyrain oedd y
prif gynhyrchwyr - Maine, Efrog Newydd,
Vermont, Pennsylfania, Maryland a Virginia.
Erbyn heddiw, fodd bynnag, cyfyngir cynhyrchu
llechi i Vermont a Phennsylfania. Dioddefodd
diwydiant llechi Gogledd America yr un
dynged a'r diwydiant yng Nghymru.
Cloddid llechi yn nhaleithiau
Quebec a Newfoundland yng Nghanada hefyd.
Ymfudo cynnar - y 18fed ganrif.
Ymddengys mai chwareli hynaf yr Unol
Daleithiau yw chwareli Peach Bottom ar y
ffin rhwng Maryland a Phennsylfania. Dau
Gymro, William a James Reese
ddechreuodd gloddio yma ym 1734. Ond anodd
iawn yw darganfod unrhyw gyfeiriadau cynnar
eraill am y diwydiant. Wedi Arddangosfa Fawr
Llundain 1851, ystyrrid llechi Peach Bottom
fel rhai goreuon y byd gan lawer.
Ymfudo - 19fed ganrif.
Yn dilyn terfyn y Rhyfeloedd Napoleonig
fe gynyddodd masnachu dros yr Iwerydd. Aeth
tair llong fawr yn cario llechi i Ogledd
America ym 1817, dwy o'r Felinheli a'r llall
o Borth Penrhyn, heb anghofio y naw a
hwyliodd o Gaernarfon hefyd. Defnyddid llechi
fel balast yn aml ar y mordeithiau hyn. Yn ystod y degawd
dilynol hwyliai llongau o Borthmadog a
Phwllheli am yr Unol Daleithiau hefyd.
Ond trodd yr ymfudo yn genllif yn y
1840'au ac amcangyfrifir fod 1,352 o bobl
wedi gadael ardaloedd Bethesda a Llanberis
rhwng 1845 a 1851 am dalaith Vermont.
Rhaid cofio hefyd i ymfudwyr Cymreig
ddatblygu'r diwydiant mewn nifer o
daleithiau Lloegr Newydd. Cynhyrchid llechi
yn Virginia cyn 1851 er na welwyd y
datblygiad mawr hyd ddiwedd y Rhyfel Cartref
(1861-65), a phan ddaeth chwarelwyr yno o
Vermont. Erbyn 1881 cyflogid 100 o weithwyr,
bron i gyd yn Gymry mewn un chwarel yn unig
yn 'Arvonia.' Agorwyd rheilffordd i'r ardal
ym 1885, ffactor arall a gyfranodd i
ddatblygiad y diwydiant gan gyrraedd ei
binacl rhwng 1900 a 1910. Derbyniodd y llechfaen yma fedal aur
yn Arddangosfa
Philadelphia, 1876 ac yn Ffair Fawr y Byd,
Chicago, 1893.
Dechreuodd y datblygiad Cymreig yn
Nhalaith Georgia hefyd erbyn y 1850'au
cynnar. Ugain mlynedd yn ddiweddarach
digwyddodd William Griffith Jones, genedigol
o Fethesda, daro ar lechfaen wrth
farchogaeth. Ni freuddwydiodd y byddai'n
darganfod rhan o welyau enfawr Llechfaen
Monson. Sylwodd ar ansawdd y garreg yn syth.
Prynodd y tir gan dafarnwr a chychwyn ei
Chwarel Eureka o fewn dyddiau. Erbyn 1885
cyhoeddid papur newydd The Monson Slate
ym Mangor, Maine.
Cymerodd tref arall o'r enw Bangor yn
nhalaith Pennsylfania ei henw o'r Old
Bangor Quarry a agorwyd gan Robert
Morris Jones, mewnfudwr o Fethesda.
Rhwng 1870 a 1917 cynhyrchid llechi o'r Snowdon
Quarry, sydd unwaith eto yn dangos y
cysylltiadau Cymreig.
Talaith Vermont
Dywediad cyffredin yn yr Unol Daleithiau
oedd: 'lle bynnag mae Cymry, mae capel.'
Sefydlwyd yr ysgol Sul Gymraeg gyntaf yn
Vermont erbyn 1850. Yna daeth y capeli,
cyfarfodydd pregethu, ac erbyn 1858 (blwyddyn
sefydlu Y Cenhadwr Americanaidd), yr
Eisteddfod.Sefydlwyd papurau newydd Cymraeg
hefyd gan gychwyn efo'r Drych yn
Efrog Newydd ym 1851, Baner America
yn Scranton ym 1868, Y Wasg ym
Mhittsburgh ym 1871 a'r Columbia yn
Chicago ym 1888.
Erbyn y 1860'au roedd gwasg T.J.
Griffiths yn Utica yn argraffu llyfrau
Cymraeg. Yn wir, doedd y cefnfor yn amharu
dim ar gysylltiadau argraffu. Ysgrifennodd
Thomas Levi, Aberystwyth fywgraffiad o'r
Parch. Howell Powell, Efrog Newydd.
Argraffwyd y llyfr yn Llundain a'i gyhoeddi
gan feibion Powell o 204, East 16th Street,
Efrog Newydd.
Erbyn 1868 gwelid prif artistiaid
cynherdd Cymru, fel Lewis William Lewis,
(1831-1901), Llew Llwyfo yn dod
drosodd i gadw cyngherddau yn yr ardaloedd
Cymreig. Roedd yn Fair Haven ym 1868 lle
cyfarfu efo un o'i hen gyfeillion, John
Owen o Lanberis Glanmarchlyn. Bum
mlynedd yn ddiweddarach roedd y prima
donna fawr Gymreig, Edith Wynne,
(1841-97) yn performio yn ninas Boston.
Cryfhawyd y cysylltiadau efo'r hen wlad gydag
ymweliadau corau. Yn dilyn eu buddugoliaeth
yn Eisteddfod Ffair y Byd, Chicago, 1893,
dychwelodd y Côr Merched Brenhinol Cymreig
drosodd ym 1895. Ac er iddynt ddod yn ail i
Gôr Meibion y Rhondda yn yr un eisteddfod,
cadwodd Côr Meibion y Penrhyn nifer o
gyngherddau cyn hwylio gartref. Yna, rhwng
1909 a 1914 daeth Côr Meibion Brenhinol y
Moelwyn drosodd dair gwaith gan ymweld â Granville a Fair Haven. Ac yn union fel ag
yn yr ardaloedd llechi draw yng Nghymru,
roedd traddodiad y bandiau pres eisioes wedi
ei sefydlu gyda band yn Fair Haven ym 1868
fel ag y canodd Rowland Walter (m.
1884) Ionoron Glan Dwyryd y bardd
cyntaf o froydd llechi'r Unol Daleithiau i
gyhoeddi ei waith, iddo.
'Swn y cyrn sy'n
swyno carnau-'r awen
I dreio ei doniau
A swn gwych eich lleisiau'n gwau,
Rhwygwch yr awyr hogiau.'
|
Ddim yn aruchel, ond....
Yn ddiwylliannol, gellir dadlau fod
pinacl y gweithgareddau wedi cyrraedd
Vermont rhwng 1870 a 1914. Gyda bri mawr ar
yr eisteddfod cystadleuai corau West Pawlet
a Poultney yn ffyrnig am fuddugoliaeth bob
tro. Yn wir, erbyn 1884 roedd mynd mawr ar
Undeb Corawl ac ar Gôr Meibion Fair Haven
hefyd.
Daeth yr eisteddfod yn ddigwyddiad mor
bwysig nes i un siopwr o Granville, G.
Parker ddechrau gwerthu sigar 5 sent o'r enw
The Eisteddfod. O gofio fod tyrfa o
rhwng 2,500 a 3,000 yn eisteddfod Granville
ym 1907 ni allai'r fenter fethu. Yn wir yn
union fel ag yng Nghymru cynhelid
cystadleuthau hollti llechi yn yr eisteddfodau
hefyd.
Erbyn 1914 roedd clybiau drama Cymraeg yn
ffynnu.
Rhai o bendefigion Cymreig y
chwareli llechi oedd:
William Rowland Williams (1821-83)
Yn enedigol o Gaernarfon fe ymfudodd i
Vermont ym 1842. Afraid dweud mai hawdd oedd
darganfod llechfaen yn ardaloedd Castleton,
Poultney a Fair Haven, y gamp oedd darganfod
y garreg orau. Ymddengys fod y ddawn yma gan
W.R. Williams cyn belled ag yr oedd
carreg Rutland County yn bod beth bynnag.
Mor gynnar a 1850 roedd ei frawd John
Rowland, a'u cyfaill John Humphrey
eisioes wedi agor chwarel yno. Ym 1866
agorodd W.R. Williams Green
Mountain Quarry i'r de o Poultney ar
dir Aaron Lewis.
Ymfudo o'r Bala i Fair Haven yn wreiddiol
a wnaeth John Humphrey. Gadawodd
Vermont am chwareli Virginia ym 1870 a
dychwelyd ymhen tua naw mlynedd i ddod yn rheolwr cyffredinol Cwmni'r Great Western
Slate.
Hugh Griffith Hughes (1844-84) 'Brenin
Llechfaen Vermont.'
Ychydig a wyddom am ei fywyd cynnar, dim
ond iddo ddod i'r Unol Daleithiau ym 1863, a
phrynu'r Hooker Quarry gan Daniel
ac S.E. Hooker yn y 1870'au. Agorodd yr Eureka
Quarry yn ddiweddarach. Lladdwyd ef
mewn cwymp yn y chwarel ym 1884.
Thomas Edwards (1829-97)
Wedi ei eni yn Llangollen, ardal o
chwareli bychain, erbyn 1857 roedd wedi agor
yr Eagle Quarry yn ogystal a
chwarel arall i deulu'r Hooker, Poultney.
Prynodd fferm yn Ne Poultney ym 1873 lle'r
oedd llechfaen rhagorol. Erbyn 1884 roedd yn
ddigon cyfoethog i dreulio'r gaeafau yn
Florida. Er nad oedd ganddo fawr o grap ar
Saesneg, prifiodd ei fusnes a gadawodd stad
gwerth $25,000 ar ei ôl.
William Griffith (1832-1914?)![William Griffith, Poultney, Vermont [Prifysgol Cymru, Bangor]](images/PT0000252.jpg)
Yn enedigol o Dregarth, un ffaith unigryw
amdano yw iddo dderbyn peth addysg yng
Nghymru, a hynny yn Ysgol Caerllwyngrydd ac
yna ym Mhenygroes dan Edward Richard.
Gweithiai yn Chwarel y Penrhyn erbyn 1849 ac
ymfudodd i'r Unol Daleithiau yn ystod y
1850'au. Ymunodd efo cwmni Eleazar Roberts,
y Penrhyn Slate Company ym Middle
Granville ym 1860. Ym 1884 roedd gan y cwmni
yma bum chwarel yn gweithio.
Dychwelodd i Fethesda i briodi Catherine
Williams, Ty'n y maes ym 1865 a dod a'i
wraig yn ôl i Middle Granville. Symudasant
i Poultney ym 1870 ac aeth i bartneriaeth
efo Cymro arall, William Nathaniel
efo dau gyfaill, ac agor chwarel ym maes y llechen
forlas ar fferm Asa J. Rogers.
Manteisiodd ar y trafferthion yn Chwarel y
Penrhyn yn ôl yng Nghymru ym 1874 a lledu
ei farchnadoedd. Erbyn 1881 amcangyfrifid ei
fod yn gwerthu gwerth $250,000 yn
flynyddol
Ond cafodd broblemau efo'i weithwyr â arweiniodd i dair streic - 1860, 1894 a 1898
oherwydd gostyngiadau mewn cyflogau.
Roedd ganddo ddiddordeb mewn barddoniaeth,
ac wedi derbyn yr enw barddol Gwilym
Caledffrwd mewn eisteddfod yn
Llanfachraeth, Môn, ym 1855. Roedd ganddo
amser hefyd i arwain nifer o gorau. Dan ei
arweiniad bu Côr Granville yn canu yn
Jiwbili Heddwch Dinas Boston, 1869 a Gwyl
Gerdd Boston dair mlynedd yn ddiweddarach.
Cyhoeddodd gylchgrawn Y Canigydd Cymreig.
Cyfansoddodd nifer o anthemau a beirniadu
mewn nifer o eisteddfodau.
Hugh William Hughes (1836-1890.)
Fe'i ganwyd ef ym mhentref bychan
Nazareth ger Llanllyfni ac ymfudo i'r Unol
Daleithiau yn y 1850'au efo dim ond $3.00 i'w
enw. Rhwng 1859 a 1863 bu'n gweithio yng
ngweithfeydd plwm Dodgeville, Wisconsin, y
gweithfeydd copr ger Llyn Superior a
chwareli llechi Fair Haven. Symudodd oddi
yno i dalaith Georgia a gorfodwyd ef i
ddianc oddi yno heb sentan i'w enw ym 1863
neu gael ei orfodi i ymuno â Byddin y De.
Erbyn 1866, roedd ei fil cyflog misol i'w
weithwyr yn $13,000 a'i werthiant misol o
lechi yn $200,000. Ym 1884 roedd yn berchen ar bedair chwarel. Prynodd un
o gartrefi crandiaf Granville ym 1888 am
$10,000. Talai ymweliad â phob un o'i
chwareli bob dydd mewn coits a phedwari.
Wrth i'w iechyd dorri dechreuodd dreulio
cyfnodau hirion yng Nholorado a Bermuda ym
1889. Bu farw o'r diciâu ym 1890 gan adael
eiddo gwerth $500,000.
Ddim yn ddrwg i ddyn na fedrai ddarllen
nac ysgrifennu yr un gair ond am ei enw!
William Hugh Hughes (ei fab)
1864-1903.
Gwelodd ef gynnyrch llechi Vermont yn
cynyddu yn ddirfawr yn ystod Streic Fawr y
penrhyn ym 1900-03. Yn ddyn llawn o'r byd
fe'i etholwyd yn Faer Granville, ac yn aelod
o Cynulliad Efrog Newydd ym 1901 i 1902 yn
ogystal a gweithredu fel cyfarwyddwr dau
fanc yng Ngranville.
Ac yna, yng nghanol yr holl lewyrch
masnachol yn y chwareli fe'i cyhoeddwyd yn
fethdalwr gyda dyledion o $337,763 ac
asedau o ddim ond $252,425. Ychydig cyn
ei ail ethol i'r cynulliad ym 1903 fe
grogodd ei hun.
Roedd ei garedigrwydd i bawb yn chwedl a
daeth rhwng 3,000 a 4,000 o alarwyr i dalu'r
deyrnged olaf iddo. Ar ôl ei farwolaeth
darganfuwyd na wnaeth erioed gadw cyfrifon
o'i holl fusnesau
Gwir i eraill fel Benjamin Williams o
Fair Haven a Middle Granville a'i fab o'r un
enw (a ddaeth yn Ddirprwy Lywodraethwr
Virginia) wneud bywyd cyfforddus i'w
teuluoedd.
Ond cyrhaeddodd y mwyafrif Vermont fel
chwarelwyr cyffredin a gorffen eu bywydau
yno yr un fath.
Y dirywiad
Blynyddoedd llewyrchus olaf y Diwydiant
Llechi yn Vermont oedd 1908-10. Gwelwyd mwy
a mwy o ddefnyddiau toi rhad yn llifo i'r
farchnad wedyn. Erbyn 1918 gweithiai llawer
o'r chwarelwyr oriau byrion. Llifodd
gweithwyr allan o'r diwydiant fel canlyniad
i Ryfel 1917-18. Ychydig iawn a ddychwelodd
a bu'r ffaith yma yn hoelen ychwanegol yn
nirywiad a marwolaeth y diwylliant Cymraeg.
Nychodd yr eisteddfod a chauodd y capeli
o un i un. Eto daliodd Côr Meibion Poultney
i ganu ymlaen hyd y 1950'au.
|