Diwydiant - Ardaloedd Llechi y Tu Allan i
Gymru
Diwydiant Llechi'r Alban.
Ym 1913 cynhyrchid llechi yn ardaloedd
Caithness, Aberdeen, Perth, Argyll a Dumbarton yn yr Alban.
O ran ei fecaneiddio ni ddaeth diwydiant llechi'r Alban yn
agos i ddiwydiant Cymru. Arhosodd dulliau cynhyrchu'r Alban yn
llawer mwy sylfaenol. Er mwyn torri i lawr ar y gwastraff
cynhyrchid ystod amrywiol o lechi yn ôl eu maint. Nodwedd o
ddulliau toi yr Alban felly oedd defnyddio llechi llai a llai fel
y deuir at grib y to. Gallai'r llechi amrywio yn eu trwch hefyd
o 6mm i 15mm.
Arferid nodi pob 1000fed llechen a gynhyrchid mewn rhai
chwareli gyda stamp y chwarel. Roedd hon yn nodwedd unigryw i'r
diwydiant Albanaidd.
Gwerthid y llechi yn ôl yr hen draddodiad yn rhai chwareli,
sef wrth y dunnell yn hytrach na fesul nifer.
Ymddengys bod y diwydiant yn yr Alban yn dyddio'n ôl i'r
cyfnod Rhufeinig. Yn ddiweddarach, ac erbyn 1600'au cynhyrchid
llechi ar raddfa ehangach, megis yn chwarel Craiglea ger
Perth, o Aberfoyle, o Birnam ac hefyd o Ynysoedd
y Llechi.
Ynys Easdale
Gorwedd Ynysoedd y Llechi (neu Ynysoedd Argyll) yng Nghulfor
Lorn, ychydig filltiroedd i'r de o Oban. Easdale yw un o'r
ynysoedd lleiaf, ond a ddaeth yn ganolfan i un o ddiwydiannau
mwyaf yr Alban yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg.
O'r cyfnodau cynharaf ymddengys fod llechi wedi eu cymryd o
arfordir Easdale i doi, i lunio cerrig aelwyd a cherrig beddau.
Yn wir, mae'n ddigon posibl i'r Llychlynwyr eu defnyddio. Ond
mae'r cofnod cynharaf a phendant yn dyddio'n ôl i 1574.
Gyda threigl amser datblygodd y dechneg o hollti llechi ac
fe'u defnyddiwyd i doi adeiladau Albanaidd pwysig fel Castell
Stalker, ger Appin (1631), Castell Armaddy yn Lorn (1676),
Castell Cawdor yn Swydd Inverness a Chadeirlan Glasgow.
Oherwydd y cysylltiadau gyda thalaith Nova Scotia nid yw'n
syndod gweld nifer o adeiladau cyhoeddus mwyaf dwyrain Canada yn
gwisgo llechi Easdale.
Problem oesol i chwareli Easdale oedd dwr y môr, ac fel y
cloddidd fwyfwy ar yr arfordir daeth yn sialens i gadw'r chwareli
yn sych ar lanw isel hyd yn oed. Codwyd muriau a lluniwyd
sianelau i gadw'r gweithfeydd yn sych am ychydig oriau yn
ddyddiol. Ond gyda'r gweithfeydd yn datblygu o hyd bu rhaid codi
morfuriau i gadw'r dyfroedd allan yn barhaol. Pwrcaswyd peiriant
atmosfferig i bwmpio'r dwr allan yn y 1780'au a chodwyd melin
wynt i weithio pympiau ym 1800. Ond ar ôl storm fawr Tachwedd
23ain, 1881 dinistriwyd y morfuriau a gorfodwyd llawer o'r
chwareli i gau am byth. Llwyddwyd i ail agor rhai a chodwyd
morfuriau newydd o goncrit atgyfnerthol. Cauodd y chwarel olaf ym
1911 er fod peth gwaith yn dal ymlaen i gynhyrchu llechi ar gyfer
cofebau a chrefftau.
Diwydiant Chwareli Lloegr.
Ym 1913 fe gynhyrchid llechi yn swyddi Cumberland,
Westmoreland, Caerhirfryn, Gwlad yr Haf a Dyfnaint.
Westmorland a Cumberland
Yma eto, gellir olrhain y diwydiant llechi yn ôl i'r 1600'au
pan wneid dim ond cloddio llechi oedd ar y brig. Erbyn y 1750'au
roedd cryn ddatblygiad ar droed a defnyddiwyd y llechi ar gyfer
toi Castell Cockermouth er engrhaifft. Ond dechreuodd pethau droi
o ddifrif gyda Sam Wright a ddatblygodd y cloddfeydd
agored yn ogystal a chloddio dan y ddaear ym 1833.
Dechreuwyd llifio'r slabiau am y tro cyntaf ym 1856 a naddu'r
llechi gyda pheiriant yn hytrach na chyllell yn ystod y 1890'au.
Enillodd y cwmni Fedal Aur yn Arddangosfa Manceinion ym 1896 am
ansawdd eu cynnyrch. Yn wir, erbyn 1910 fe honnid bod llechen
Buttermere yn rhagori ar y llechen Gymreig. Fe'i defnyddiwyd yn
helaeth yn ninasoedd mawrion Lloegr ac allforiwyd tunnelli ohoni
hefyd i Dde Affrica a Seland Newydd.
Crewyd y 'Buttermere Green Slate Company' ym 1879 a
chychwyn llunio inclens i gario'r llechi o'r chwarel yn hytrach
na defnyddio slediau neu geffylau. Datblygodd 'The Hause'
yn brif ganolfan erbyn 1892 a lluniwyd ffyrdd, ffyrdd haearn,
blondins (1928) ac inclenau y tu mewn i'r mynydd yn y
1930'au.
Pentref Honister oedd cartref y chwarelwyr ar y pen wythnosau
yn unig, gan mae eu harferiad oedd byw dan ddaear yn y chwarel yn
ystod yr wythnos waith. Codwyd barics iddynt yn 'The Hause'
ddechrau'r ugeinfed ganrif a rhai tai gweithwyr yn
'Borrowdale' hefyd.
Diddorol yw sylwi, yn groes i'r diwydiant ym Mlaenau
Ffestiniog, nad oedd trydan ar gyfyl y cloddfeydd hyn ym 1910, a
cholomenod a ddefnydid ganddynt i gysylltu'r chwareli efo'r brif
swyddfa yn Keswick. (Defnyddid teleffon yn y Penrhyn ym
1900.)
Holltwyd y llechi mewn gwaliau cerrig ar y mynydd hyd nes
adeiladu'r ffatri yn 'The Hause' yn y 1920'au.
Cynhyrchid tri math o lechen, y 'light sea green,' y
'dark sea green' a'r 'olive green.'
Daeth cynhyrchu i ben yn Honister ym 1986 ond fe ailgychwynwyd
eto ym 1997.
Dyfnaint
Chwareli Dyffryn Plym
Ymddengys mai llechen wael ei hansawdd a gynhyrchid yn Nyffryn
Plym, a'r enw lleol arnynt oedd 'shillet.' Ymddengys hefyd
fod y llechfaen yn cael ei ddefnyddio ar y mwyaf ar gyfer lloriau
a waliau. Er hyn cofnodir i lechfaen o Chwarel Cann yn y dyffryn
gael ei ddefnyddio i doi ysgol pentref Plympton ym 1664. Ond
roedd y diwydiant yn rhai canrifoedd oed yr adeg hynny oblegid
ceir cyfeiriad fod llechi wedi eu cludo mewn llong oddi yno i
lawr Tory Brook ac i Southampton ym 1178.
Llawer pwysicach yn y dyffryn oedd y chwareli gwenithfaen a
daeth Plympton yn ganolfan o bwys yn hanes y diwydiant tun.
Chwareli Staverton
Cloddiwyd llechi hefyd yn ardal Staverton, pentref ar lannau'r
afon Dart. Ceir y cyfeiriad cyntaf at chwareli yno ym 1338 pan
ddefnyddiwyd 'Llechen Penn' i doi Neuadd Dartington.
Nodir fod cymaint a 100 yn gweithio yng nghloddfa Penn Ricca
ar gyfnodau yn ystod y ddeunawfed ganrif, ond gwaith cyfnodol yn
unig oedd ar gael yno. Profwyd adfywiad yno erbyn 1845. Cynyddodd
y boblogaeth, a chodwyd ail eglwys a nifer o fythynnod i'r
chwarelwyr ger Thornecroft. Poblogaeth y plwyf ym 1801 oedd 1,053
ond erbyn 1851 cynyddodd i binacl o 1,152. Ddegawd yn
ddiweddarach gostyngodd y cyfanswm i 949 a nodwyd yn y cyfrifiad
mai dirywiad y diwydiant llechi oedd yn gyfrifol am hyn.
Dadlennol erbyn Cyfrifiad 1881 yw mai prif ddiwydiant y cylch
oedd amaethyddiaeth. Cauwyd y cloddfeydd ym 1908.
Mae'n bwysig cofio fod diwydiant llechi yn bod mewn rhannau
eraill o Loegr hefyd yn Swydd Caerlyr ac ardal Furness.
Diwydiant Llechi Cernyw.
Er mai tun oedd prif ddiwydiant Cernyw ni ddylid anghofio am y
diwydiant llechi yn Delabole yn arbennig, er fod cloddio am
lechfaen yn digwydd mewn mannau eraill hefyd, fel Tintagel.
Gellir olrhain hanes defnyddio Llechi Delabole yn ôl dros chwe
chanrif a chloddiwyd y garreg yn barhaol ers yr ail ganrif ar
bymtheg. Erbyn hyn mae'r chwarel yn 425 troedfedd o ddyfnder a
thros filltir a hanner o gylchedd.
Yn ystod teyrnasiad Elizabeth I (1558-1603) roedd pum chwarel
yn gweithio oddi mewn i derfynau'r chwarel bresennol. Gwerthid y
cynnyrch 'drwy'r deyrnas' a'i allforio hefyd cyn belled a'r
Iseldiroedd a Llydaw.
Ym 1841 ymunodd y pum chwarel i ffurfio'r 'Old Delabole
Slate Company'. Erbyn 1859 roedd dros 1,000 o weithwyr yno
ac yn codi tua 120 tunnell o lechfaen y dydd. Ymhell cyn
dyddiau'r rheilffyrdd, fe gludid y llechi dros chwe milltir i
Bort Gaverene ar wageni. Gwelid 100 o geffylau yn ddyddiol wrth y
gwaith yma. Mor ddiweddar a 1890 fe gyflogid merched i lwytho'r
llechi ar y llongau.
Heddiw er na chyflogir ond tua phump o weithwyr, gyda
technegau modern llwyddir i godi ar gyfartaledd 120 tunnell o
lechfaen y dydd.
Diwydiant Llechi Iwerddon.
Ym 1913 fe gynhyrchid llechi yn swyddi Kilkenny, Cobh,
Tipperary, Wicklow a Wexford.
Ymddengys fod y diwydiant wedi cael ar ei draed oddi tano yn
Iwerddon erbyn y 1830'au. Cyfeirir fod yr Irish Mining Co.
yn Audley's Cove a Tilemuck, Swydd Wexford yn cyflogi dros 500 o
weithwyr ym 1835, ac fod chwareli Broadford a Killaloe, Swydd
Cobh yn cynhyrchu yn yr un cyfnod. Agorodd chwarel Rosscarbury,
Swydd Tipperary hefyd ym 1837.
Erbyn y 1850'au roedd cryn ymfudo o chwareli Swydd Wexford ac
o Swydd Tipperary i dalaith Vermont. Er na ddatblygodd y
diwydiant Gwyddelig i'r un graddau ag yng Nghymru o bell ffordd,
yr oedd peth ymfudo o Gymru i'r Ynys Werdd.
Ychydig ar y naw o ddefnydd a wneir o lechi Gwyddelig ar gyfer
toi ond fe'u defnyddir i nifer o ddibenion eraill ym myd adeiladu
ac i lunio anrhegion ar gyfer y diwydiant twristiaeth.
Diwydiant Llechi Awstralia.
Gorweddai tair chwarel lechi Awstralia ar arfordir gogledd
ddwyreiniol Tasmania, ar gulfor Bass. Chwareli Back Creek, Arthur
River a Bangor oedd y rhain. Llechen 'ddu' a gynhyrchid yno.
Cyfnod o gynni economaidd oedd y 1880'au, ac ym 1885 ymddangosodd
hysbyseb gan Gwmni Chwarel Lechi Bangor, Launceston, Tasmania yn
gwahodd chwarelwyr o ogledd Cymru i ymfudo. Ymatebodd nifer o
gyffiniau Bethesda a Llanrug yn weddol gynnar ym 1886.
Ddeugain mlynedd ynghynt, gellid hwylio i Awstralia yn
uniongyrchol o Borthmadog, ond erbyn y 1880au hwyr rhaid oedd
iddynt yn gyntaf ddal y tren i Lundain cyn cychwyn ar eu mordaith
fawr.
Prwsia.
Ddechrau Rhagfyr 1857 fe gynhaliwyd cyfarfod ym Methesda i
ffarwelio efo Owen Williams oedd yn arddel yr enw barddol
Owain Glyndwr. Roedd Neuadd y Farchnad yn orlawn a chanodd
y Bethesda Glee Society, a'r Penrhyn Harmonic
Society eu nodau o ffarwel. Gan fod Owain Glyndwr yn
aelod o'r ddwy gymdeithas yma ac hefyd o Gymdeithas Lenyddol
Bethesda cafwyd darlith yn y cyfarfod ffarwelio yn ogystal ag
unawdau a deuawdau a datganiadau ar yr harmoniwm. Nid Owain
Glyndwr oedd y cyntaf na'r olaf i ymfudo o Fethesda, ond go
brin fod fawr neb arall o'r cylch wedi ymfudo i fod yn
oruchwyliwr chwarel lechi ym Mhrwsia. Dod i Gymru a wnaeth
Owain Glyndwr yn gyfrifydd i un o chwareli Ffestiniog. Bu
farw o'r ddarfodedigaeth ym 1869.
|