Cyflogau, Streiciau a Safon Byw - W.J.
Parry
‘Quarryman’s Champion.’
– William John Parry?
Dyma'r enw a roddwyd i William John
Parry (1842-1927), o Fethesda. Yn fab i John ac Elizabeth
Parry, 58 Stryd Fawr, y ddau yn hannu o Sir Fôn yn wreiddiol.
Addysgwyd W.J. Parry yn Ysgol Ramadeg Llanrwst o 1850 i 1857, ac
o hynny ymlaen hyd y flwyddyn 1863 bu'n gweithio mewn swyddfeydd
cyfreithwyr a chyfrifwyr ym Mangor a Chaernarfon. Yn wir, hyd yn
oed cyn marwolaeth ei fam ym 1864 yr oedd yn barod yn chwarae
rhan flaenllaw mewn bywyd cyhoeddus, yn ddiwylliannol, grefyddol
a gwleidyddol.
Am bedair mlynedd, hyd 1868 ef oedd ysgrifennydd Cymdeithas
Gymreigyddion Bethesda ac yn trefnu eisteddfodau a chyngherddau.
Etholwyd ef yn ddiacon yng Nghapel Bethesda ym 1866 ac ar y bwrdd
lleol y flwyddyn wedyn. Apwyntiwyd ef hefyd yn gynrychiolydd y
Rhyddfrydwyr yn etholaeth Arfon ym 1863, swydd a lanwodd hyd
1879. Ym 1871 a 1879 bu ar deithiau yng Nghanada a'r Unol
Daleithiau. Gyrrodd adroddiad pwysig yn ôl i Gymru am y diwydiant
llechi yn Nhalaith Pennsylfania, ac amlinellodd i'r gweithwyr
gartref pa mor fanteisiol oedd ymfudo, nid yn unig i'r Wladfa ond
hefyd i Ogledd America ac Awstralia. Cofiwch fod Parry yn
gynrychiolydd i tuag ugain o gwmnïau llongau a hwyliai o Lerpwl
gydag ymfudwyr! Gweithredodd fel archwilydd ariannol i Brifysgol
Cymru, Bangor am ddeugain mlynedd.
Gweithgareddau gwleidyddol a
llafurol.
Wedi chwarae rhan bwysig i sicrhau
Cytundeb Pennant Lloyd ym 1874 a sefydlu Undeb Chwarelwyr Gogledd
Cymru, gweithredodd fel ysgrifennydd hyd 1876 a dal y swydd o
Ganolwr yr Undeb o'r flwyddyn honno hyd 1898. Etholwyd ef yn
llywydd am y tro cyntaf ym 1877 a thrachefn yn flynyddol o
1881-89. Bu hefyd yn gyfrifol am weithio i sefydlu dau bapur
newydd, Y Werin, a'i olygu o 1875-77 a'r Genedl
Gymreig, gan ei olygu o 1877-79.
Gwelir uchod y fedal a gynhyrchwyd i ddathlu buddugoliaeth
Love Jones-Parry dros y Rhyddfrydwyr yn etholiad Arfon 1868.
Parry a Streiciau 1896-97 a 1900-03.
Beiwyd ef a W.J. Williams ysgrifennydd yr undeb yn
llym am dderbyn telerau Penrhyn ac E.A. Young. Gwthiwyd Williams allan o'i
swydd ym 1897 tra ymddiswyddodd Parry fel canolwr y flwyddyn
wedyn. Ond ni allai gadw ei fys allan o'r brwes yn ystod y Streic
Fawr, lle, er gwaethaf ei gyfrwysdra arferol, fe gollodd yr achos
o enllib a ddaeth Penrhyn yn ei erbyn ym 1903. Stori ddiddorol
yw, beth ddigwyddodd i'r iawndal? Oblegid nid oes unrhyw
gyfeiriad i'r swm gael ei chofnodi yng nghyfrifon Arglwydd
Penrhyn! A dalwyd swm yr iawndal yn ôl i Parry ar yr addewid y
byddai yn ymlynu?
Erbyn 1902-03, roedd ei safle yng ngolwg y gweithwyr yn
gwegian. Torrodd ei gysylltiadau rhyddfrydol a chlosio fwy fwy at
lafuriaeth a hunanlywodraeth i Gymru. Trodd ei gôt ym 1914 a
dychwelyd at ryddfrydiaeth a derbyn CBE ym 1918 am ei wasanaeth
gwleidyddol.
Daliodd yn brysur hyd ddiwedd ei oes ond bu farw yn hen wr
unig a chwerw ym 1927. Bu Coetmor, ar y dde, ei gartref yn llawn
bwrlwm, gweithgarwch gwleidyddol, diwylliannol a chrefyddol y
dyddiau a fu, ond yr oedd cenhedlaeth newydd wedi codi'n awr.
Roedd ei gyfeillion (a'i elynion) o'r hen ddyddiau wedi hen
ddarfod a gadael y fuchedd hon. Amheuaeth ohono oedd ym
meddyliau'r genhedlaeth newydd, yn bennaf oherwydd ei
gysylltiadau rhyddfrydol. Credant hwy mae'r Blaid Lafur a
fyddai'n sylweddoli eu breuddwydion.
|