Cyflogau, Streiciau a Safon Byw -
Datblygiad undebaeth lafur
Mewn sefyllfa lle'r oedd perchennog y chwarel, boed yn
teyrn asu yn absoliwt neu fel teyrn goleuedig, nid oedd lle
o gwbl i weithwyr ddangos eu hanfodlonrwydd gydag amodau gwaith.
Dan iau o'r fath, yr unig waredigaeth oedd gweithredu cyfunol
gyda digwyddiadau
1865 a 1869-70 yn dal yn fyw yn y cof, daeth yr
ysgogiad i ffurfio Undeb o Chwarel Dinorwig yn hytrach nag o
Chwarel y Penrhyn. Dirprwywyd y gwaith i grwp o gefnogwyr
dosbarth canol y chwarelwyr, ac mewn cyfarfod yng Nghaernarfon ym
mis Mawrth 1874 penderfynwyd sefydlu Undeb Chwarelwyr Gogledd
Cymru yn hytrach nag Undeb Chwarelwyr Dinorwig. Erbyn 1877,
cododd aelodaeth yr Undeb i 8,297. Gyda gweithred o'r fath roedd
ymateb gan y perchnogion yn sicr o ddilyn. Ffurfiasant eu
cymdeithas eu hunain ym Mehefin 1874.
Undebaeth ym Mlaenau Ffestiniog
Ni fu chwarelwyr Blaenau Ffestiniog yn
undebwyr tanbaid, ond yno, ym 1893 y bu'r streic sylweddol nesaf
a hynny am resymau digon cymylog a phitw ar lawer ystyr. Bum
wythnos wedi'r Wyl Lafur gyntaf yng Nghaernarfon ym 1892
derbyniodd J.E. Greaves ddirprwyaeth yn gofyn am godiad cyflog o
2/- (10c) yr wythnos. Cytunodd y cwmni ar godiad cyflog oedd yn
llai o 6d (2½c) y dydd. Synhwyrir nad oedd J.E. Greaves ei hun yn
fodlon rhoi'r codiad o gwbl fodd bynnag. Ddechrau 1893 roedd y chwarelwyr yn dal i ymdrechu i gael y 6d yma, a gwrthodwyd eu cais
yn ffurfiol ym mis Ebrill. Cynhaliwyd yr Wyl Lafur flynyddol ym
Mlaenau Ffestiniog y mis dilynol gyda Tom Ellis, A.S. Meirionnydd
a David Lloyd George, A.S. Bwrdeisdrefi Caernarfon yn annerch
gyda Keir Hardie, oedd ar y pryd yn A.S. Llafur Annibynnol. Ni
throdd y ddau Gymro i fyny oherwydd efallai eu bod yn cadw'n glir
o rannu llwyfan gyda Hardie, rhag tramgwyddo Rhyddfrydwyr
blaenllaw fel fel J.E. Greaves, ei stiward dylanwadol William
Jones, ac A. Murray Dunlop, prif reolwr Chwarel yr Oakeley, ac
ymgeisydd Torïaidd am y sedd ym 1880 oedd wedi troi ei gôt at y
Rhyddfrydwyr erbyn hyn. Efallai fod Ellis a Lloyd George wedi
cael ar ddeall y byddai Hardie nid yn unig yn cefnogi cais y
chwarelwyr am fwy o gyflog ond hefyd, i hawlio mwy o reolaeth
dros y chwareli eu hunain. Gyda chenhadaeth Hardie yn canu yn eu
clustiau, fe waharddwyd un Griffith Jones, Pengelli am beidio
ufuddhau i William Jones y stiward a dychwelyd yn ôl i'w waith yn
lle gadael y chwarel yn gynnar. William Jones oedd awdur Hanes
Plwyf Ffestiniog a gyhoeddodd ym 1879 dan yr enw Ffestinfab. Y
diwrnod wedyn gwaharddwyd y gweithwyr rhag cynnal cyfarfod yn y
chwarel i drafod yr achos ac ymateb i'r gwaharddiad oedd ethol
dirprwyaeth o dri i weld J.E. Greaves. Ei ymateb syml ef oedd i
bawb ddychwelyd i'w gwaith, fesul un drwy'r swyddfa. Cychwynwyd
Streic a ddaliodd am bum mis. Nid oedd yr Undeb yn rym mawr yn y
Llechwedd gydag ond 125 allan o gyfanswm o 486 o weithwyr yn
aelodau. Ac o'r 125 yma dim ond 75 oedd wedi talu eu cyfraniadau
yn llawn.
Ar ein cyfer, dros y ffordd i lawr
ym mhell odditanom, gwelem Chwarel y Llechwedd yn drom ac yn
ddistaw o'n blaenau...nid oedd na swn peiriant na chyn na
morthwyl...Gwelem olwynion yn sefyll ac un olwyn fawr yn symud yn
araf fel pe mewn cwsg. Yr oedd distawrwydd llethol dros y
fan...Crwydrasom ymlaen at swyddfeydd y gwaith. Yr oedd
distawrwydd llethol yno hefyd....Daeth dyn byr i'r drws...(a)
dywedodd fod croesaw i ni fynd i grwydro drwy'r chwarel ein
hunain...Heibio'r olwynion llonydd a'r gweithdy mawr gwag,
daethom i fyny at un o'r lleoedd agored lle cyferfydd wageni
llwythog a dyllau ym mhob cyfeiriad. Yr oedd yr olwyn ddwr yn
mynd yn araf araf, ond yr oedd pob tryc wedi sefyll, yr oedd y
cadwyni'n crogi'n ddiddefnydd ar y graig uwchben ac nid oedd un
creigiwr i'w ddisgwyl allan o'r tyllau duon oedd yn arwain i mewn
i'r ddaear...Yr oedd y gwlaw yn dechreu disgyn gyda hyn, a gorfod
inni droi'n ol i'r swyddfa. Wrth fynd i lawr gwelsom ddyn ieuanc
unig...Y goruchwyliwr oedd, Warren Roberts wrth ei enw. Nid oedd
ganddo wybodaeth ebe ef, pryd y doi'r streic i ben...'
(O.M. Edwards, Tro trwy'r Gogledd, tud 16-19
.)
|
Erbyn mis Gorffennaf dechreuodd rhai fynd yn ôl i weithio Bu
terfysg yn Llechwedd a thorrwyd ffenestri ysbyty'r chwarel yn y
dref ar Orffennaf 13eg. Dygwyd tri o flaen y Fainc ynghyd a phump
arall ar gyhuddiad o fygythiadau. Bum niwrnod yn ddiweddarach
daeth W.J. Parry i Flaenau Ffestiniog i geisio
tawelu'r dyfroedd. O fewn mis daeth 5,000 o chwarelwyr i Bafiliwn
Caernarfon i rali a drefnwyd gan yr Undeb i gefnogi streicwyr y
Llechwedd a galw am gyflafareddiad gorfodol i setlo'r streic. Yn
ôl Tom Ellis, yr unig ffordd anrhydeddus o derfynu'r anghydfod
oedd i'r cyflogwyr ail gyflogi pawb. Cyhoeddodd Robert Pugh oedd
wedi ei wahardd o Lechwedd ei fod yn gadael am yr Unol Daleithiau
efo'i fab i gychwyn bywyd newydd. Yna pleidleisiwyd i ddychwelyd
i'r chwarel ar delerau J.E. Greaves. Dychwelodd heddwch i'r
Llechwedd ac ni chafwyd helbul wedyn hyd streiciau bychain ym
1922, 1936 gyda streic sylweddol ym
1985-86.
|