Cyflogau, Streiciau a Safon Byw -
Streiciau
Streiciau Cynnar
Hyd 1824 roedd streicio yn anghyfreithlon, a chyd-
ddigwyddiad braidd efallai yw fod chwarelwyr y
Penrhyn,
Bethesda, wedi
streicio ym mis Ionawr 1825 a thua'r un adeg daeth chwarelwyr
Dinorwig,
Llanberis, allan i hawlio cael gorffen am un o'r gloch ar brynhawn
Sadwrn yn hytrach nag am bedwar. Cytunodd Assheton Smith i'w
gofyniad, ond gwrthododd Dawkins Pennant drafod dim gyda
chwarelwyr y Penrhyn. Dilynwyd y streic gyntaf hon yn Chwarel y
Penrhyn gan ddwy arall, un ym 1846 a drodd allan yn ffars llwyr
ac un arall ym 1852. Ond mathrodd y Cyrnol Edward Douglas Pennant
ar y fath weithredu yn sydyn ac effeithiol gyda pholisi
di-drugaredd o erlid gweithredwyr unigol. Yn wir, dyna fyddai
polisi'r Penrhyn am weddill y ganrif, polisi a fyddai'n cyrraedd
ei benllanw yn y Streic Fawr, yr anghydfod diwydiannol meithaf
erioed i ddigwydd yng ngwledydd Prydain.
Yn fyr, bodolai gryn anfodlonrwydd yn y chwareli mwyaf a hynny
yn bennaf oherwydd y system fargeinio a chontractio. (Contractio
oedd y term a ddefnyddid pan osodid darnau helaeth o'r chwarel
i'w gosod allan fel bargeinion. System oedd yn gallu arwain at
lwgrwobrwyo.) Ac er bod y chwareli wedi eu hynysu, gallai'r
gweithwyr ddal i ddarllen am drafferthion diwydiannol yn Lloegr
mewn papurau fel Yr Herald Cymraeg neu Baner ac Amserau Cymru.
Aeth adeiladwyr yn Llundain ar streic ym 1859-60 dros ddiwrnod gwaith o naw awr. Ymateb y cyflogwyr oedd ceisio pwyso ar y
gweithwyr i arwyddo datganiad na fyddent yn ymuno efo'r un
gymdeithas a fyddai yn torri ar draws y berthynas rhwng gwas a
meistr.
Ffurfiwyd Pwyllgor yn Chwarel y Penrhyn ym 1865 gan chwech gwr
a chyda W.J. Parry (1842-1927) a fyddai a fyddai yn cael dylanwad
trwm ar undebaeth hyd 1903, yn gyfieithydd iddynt. Rhoddwyd
consesiynau iddynt a bu hynny yn ddigon o sbardun i'r dynion,
ffurfio undeb o gynlluniau Parry. Ymunodd 1,800 yn syth. Sgubodd
panic ymhlith y perchnogion, a phum mis yn ddiweddarach,
cyhoeddodd Pennant, a dderbyniodd y teitl Arglwydd Penrhyn o
fewn blwyddyn, ei fod yn ystyried gweithred o'r fath fel dyfais i
ddifrodi'r berthynas rhyngddo ef a'i weithwyr. Yn dra diddorol
fe dderbyniodd lythyrau dienw i'w gartref yn Llundain yn
'awgrymu' ei fod yn sefyll dros ei safle cymdeithasol. Aeth
ymlaen i'w rhybuddio ymhellach y byddai'n cau'r chwarel yn syth
pe dalient at eu penderfyniad, ac na fyddai ychwaith yn ailagor y
chwarel hyd nes y byddent yn datgysylltu eu hunain yn llwyr oddi wrth undebaeth.
Dri niwrnod cyn y Nadolig, 1865, atebodd 1,229 o'r chwarelwyr
nad aflonyddwyr oedd chwe aelod eu pwyllgor, ond cynrychiolwyr a
ddewiswyd yn ddemocrataidd ganddynt hwy, ond eu bod yn gwrthod y
syniad o ffurfio Undeb yn llwyr. Ond o leiaf, llwyddasant i godi
eu cyflog misol beth bynnag. O'r chwe aelod o'r Pwyllgor, dim ond
Robert Parry oedd yn dal i weithio yn y chwarel erbyn 1870.
Cafodd y trafferthion gryn sylw yn y Wasg.
Storm 1874 yn torri
Yn gwbl annisgwyl ni thorrodd y storm yn Chwarel y Penrhyn na
Chwarel Dinorwig, ond yn Chwarel Glynrhonwy, yr ochr arall i'r
dyffryn o Ddinorwig. Safodd y gweithwyr fel un dros yr Undeb.
Lledodd yr aniddigrwydd drosodd i ochr arall y dyffryn, lle safodd 2,200 dros yr
Undeb tra y gwadwyd gan 11 o'r gweithwyr. Cauwyd y Chwarel am bum wythnos a dechreuodd y gweithwyr
gynnal eu cyfarfodydd wrth Graig yr Undeb ger Pen Llyn. Safodd y
gweithwyr fel un gan ennill buddugoliaeth sylweddol os nad llwyr.
Yn anorfod lledodd yr anghydfod i'r Penrhyn. Cymhleth oedd y
rhesymau fel arfer, ond daeth y bygythiad olaf gan Arglwydd Penrhyn, na fyddai yn caniatau casglu tâl undeb yn y gwaith ac y
byddai yn cau'r chwarel. Bu'r frwydr yn hir, ond cafwyd heddwch
drwy Gytundeb Pennant Lloyd. Gyda'r gweithwyr yn dychwelyd i'r
chwarel, penderfynodd y cyflogwyr beidio cymryd sylw o'r
cytundeb newydd. Cerddodd y gweithwyr allan drachefn. Y tro yma,
cafwyd isafswm cyflog ac ysgubwyd cnewyllyn ffiaidd o reolwyr
allan o'r swyddfa. Ond yn bwysicaf oll, enillwyd yr hawl i
bwyllgor o'r gweithwyr drafod drostynt gyda'r cyflogwyr yn y
dyfodol. Enillwyd buddugoliaeth yn erbyn un o wyr cyfoethocaf a
dylanwadol y deyrnas, ac yn un oedd yn wreiddiol wedi bwriadu chwalu'r Undeb am byth. Daliodd Cytundeb Pennant Lloyd
mewn grym hyd 1885 pan sgubwyd ef i ffwrdd gan aer y Penrhyn. Yn
dra diddorol hefyd, o gofio ei ran flaenllaw yn hyn i gyd,
daliodd W.J. Parry a'r Arglwydd Penrhyn ar delerau cyfeillgar hyd
y diwedd. Ond gyda'r ail Arglwydd Penrhyn ar ei orsedd a chyda'r
prif reolwr newydd Emilius Augustus Young (1860-1910) wrth y
llyw, byddai y berthynas rhwng cyflogwr a gweithiwr yn suddo i'r
gwaelodion a thu hwnt.
Yn dilyn 1874 saethodd aelodaeth o'r Undeb i'r entrychion, ond
cafodd y diwydiant llechi yn gyffredinol gyfnod economaidd
llewyrchus hefyd, fel ag y dengys cyfansymiau elw a difidend
Chwarel Dorothea, 1870-78.
|
Elw |
Difidend |
1870
1871
1872
1873
1874
1875
1876
1877
1878 |
£4,678
£4,485
£5,560
£8,769
£10,553
£14,738
£10,718
£10,882
£11,439 |
£6,000
£6,000
£6,000
£6,000
£8,000
£10,000
£16,000
£12,000
£6,000 |
Streic Chwarel Dinorwig 1885-86
Erbyn Mai, 1878, cyrhaeddodd cyfanswm aelodaeth o'r Undeb
8,368, ond yn ei adroddiad i'r gynhadledd flynyddol y flwyddyn
honno, rhybuddiodd W.J. Parry am y perygl o ddirywiad masnach a
gostwng cyflog. Roedd yn llygaid ei le. Roedd dirwasgiad trwm yn
dechrau digwydd. Protestiodd chwarelwyr mewn nifer o chwareli am
y gostyngiad mewn cyflog ond i ddim pwrpas. Pris y farchnad oedd
yn rheoli, a chafodd hyn yn ei dro effaith ar yr Undeb hefyd.
Collodd George Sholto Douglas Pennant, aer y Penrhyn yn Etholiad
Cyffredinol 1880, ac yn ei anerchiad wedi cyhoeddiad y canlyniad cyhoeddodd gweithwyr Sir Gaernarfon o fod y rhai blaenaf mewn
twyll. Adroddwyd mewn rhai papurau mai cyhuddo'r etholwyr o dwyll
a wnaeth, ond ymddengys mai cyhuddo ei weithwyr etholiadol ei hun
yr oedd am iddynt dderbyn arian i ganfasio ac yna mynd i'w hyfed
yn y tafarnau. O bapurau newydd y cyfnod cesglir fod y canlyniad
a'r mwyafrif o 1,100 pleidlais yn ei erbyn yn annisgwyl. A hyn
wrth gofio i G.W.D. Assheton Smith wahardd unrhyw ganfasio
etholiad oddi mewn i Chwarel Dinorwig. Ac eto, roedd yn rhoi punt
i bob un o'i weithwyr a oedd yn pleidleisio i Pennant.
Petai ef a'i dad wedi sefyll ar un o dyrrau Castell Penrhyn a
syllu am Fethesda, byddent wedi gweld chwarel lle gweithiai pobl
oedd yn siarad iaith wahanol i'r ddau, a addolai fel
Anghydffurfwyr, yn weithwyr oedd yn deall mwy am y chwarel a'i
chloddio hi na fedrant hwy wneud byth, ac ers 1874, gweithwyr oedd yn gallu mynd, dod a gwneud fel ag y mynnent.
Ond daeth y fflach nesaf o Chwarel Dinorwig lle'r oedd y
berthynas rhwng swyddog a gweithiwr yn dirywio bron o awr i awr.
Gwaharddwyd 53 o weithwyr am dorri man reol ym 1885. Cynhaliwyd
cyfarfod protest wrth Graig yr Undeb lle pasiwyd pleidlais
unfrydol o ddiffyg hyder yn John Davies, y rheolwr ond hefyd yn
Walter Warwick Vivian (1856-1943) y prif reolwr, ail fab yr ail
Arglwydd Vivian, o Blas Gwyn, Pentraeth, ac oedd hefyd yn gefnder
i Louisa Alice, chwaer G.W.D. Assheton Smith. Teulu bach cysurus
iawn!
Ymddeolodd Vivian ym 1902, dod yn un o gyfarwyddwr y chwarel,
ac ar farwolaeth ei feistr ym 1904, etifeddodd £70,000. Trigai
Vivian yn Y Glyn, Bangor, a gwasanaethai ei wraig fel morwyn i'r
Dywysoges Mary o Teck. Fodd bynnag, fel ei gyd brif reolwr yn y
Penrhyn, E.A. Young doedd ganddo yntau ychwaith ddim profiad o'r
diwydiant chwareli; ond y ddau wedi cael profiad ym myd caled
busnes, lle nad oedd dim lle i hen arferion gwaith aneconomaidd.
Yn ystod Streic 1885-86 yn Ninorwig, Vivian oedd yn gofalu am y
trafodaethau i gyd. Yn wir, cymaint ei ddylanwad fel y dechreuwyd
galw Chwarel Dinorwig yn 'Vivian's Quarry' ar rai mapiau O.S.
Ataliwyd 53 o weithwyr o'r Chwarel ym mis Gorffennaf 1885 am
fod 10 ohonynt wedi cynnal cyfarfod undeb yn y chwarel. Dri mis
yn ddiweddarach cynhaliwyd cyfarfod gan yr holl chwarelwyr wrth
Graig yr Undeb a phasio pleidlais o ddifyyg hyder yn W.W. Vivian
fel prif reolwr ac yn John Davies fel rheolwr. Apwyntiwyd
dirprwyaeth i gyfarfod G.D. Assheton Smith. Ei ymateb oedd
hysbysu'r gweithlu i symud eu harfaudodrefn barics a phopeth
allan erbyn y dydd olaf o Hydref. Parhaodd y cau allan hyd Dydd
Gwyl Ddewi, 1886. (Yn y pen draw, roedd gwaed yn dewach na dwr.)
Bu'r gweithwyr allan hyd Ddydd Gwyl Ddewi, 1886.
Stormydd yn casglu yn Nyffryn Ogwen
Trodd y rhod economaidd erbyn 1890 a chynyddodd elw Chwarel y
Penrhyn o £45,000 y flwyddyn honno i £55,000 y flwyddyn wedyn.
Cynyddodd yr elw i £89,871 erbyn 1892 a chynyddwyd cyflogau'r
gweithwyr i gyd o 5% y flwyddyn wedyn. Gyda phethau yn mynd mor
dda syrthiodd aelodaeth yr Undeb o 5,970 ym 1891 i 1,423 i 1895.
Ac yn eironig braidd, Gwyl Lafur 1896, oedd i'w chynnal ym
Mlaenau Ffestiniog fu'n gyfrifol am danio'r ffiws. Rhyw dair
wythnos cyn yr wyl hysbyswyd E.A. Young gan ddirprwyaeth o
ddymuniad y gweithwyr i fynd i Flaenau Ffestiniog. Gwrthododd eu
cyfarfod gan ddweud fod rhaid i bawb oedd am fynd wneud cais bob
yn un. Aeth y ddirprwyaeth ato eto gan ddweud fod y gweithwyr yn
mynd i'r Wyl Lafur yn un corff. Ar Fai 1af, peniodd lythyr at yr
Arglwydd Penrhyn Yn dweud ei fod o'r farn fod arweinwyr yn Undeb
yn y swyddfa yng Nghaernarfon yn ceisio codi ffrae, i'r diben o
ail-sefydlu'r Undeb a'r Pwyllgor Chware yn nyddiau Cytundeb
Pennant-Lloyd., oedd wrth gwrs wedi ei roddi heibio gan Penrhyn
ei hun ym 1885. A dyna godi ei wrychyn ef yn syth wrth gwrs!
Beth bynnag roedd tua 1,500 o'r gweithwyr yn absennol o'u
gwaith ar Fai 4dd. Cauodd Young y chwarel to throw the loss of
wages on the backs of the Agitators. Ac yna, i rwbio mwy o halen
i'r briw, gwaharddodd 1,500 o'r cynhyrfwyr o'u gwaith am ddau
ddiwrnod, nid am fynd i'r Wyl Lafur, ond am fod yn absennol heb
ganiatad. Roedd Young barod am frwydr ac yn ystod Gorffennaf ac
Awst 1896 roedd y ddwy ochr yn paratoi. Rhoddodd Pwyllgor yr
Undeb gais i mewn am gyflog safonol dyddiol dechrau Gorffennaf. O
weld nad oedd Young yn barod i ystwytho, penderfynwyd apelio yn
syth dros ei ben at Arglwydd Penrhyn. Gyrrwyd rhestr o gwynion yn
uniongyrchol ato ef ar Awst 7fed. Ddeng niwrnod yn ddiweddarach
gwahoddwyd dirprwyaeth i'w weld. Gwrthododd ei arglwyddiaeth
ystwytho dim. Roedd yr Echel Penrhyn-Young yn gadarn a'r ddau yn
canu yr un gân mewn unsain peraidd o'r un copi. Rhedai'r tensiwn
yn uchel ac ysgrifennodd Young at W.W. Vivian, prif reolwr Charel
Dinorwig, ei fod yn bwriadu "... stick fast to discipline and retain
the management of the Quarry in my hands come what may. Sylwch,
my hands!"
Gwaharddwyd dau o'u gwaith ar ôl defnyddio tâp i fesur dwy o'r
bargeinion i gael gwybodaeth i Bwyllgor yr Undeb. Ar derfyn y
gwaharddiad o un niwrnod ar ddeg roeddynt i ddod i mewn i'r
Swyddfa. Ni ddaeth yr un ohonynt mewn i'r Swyddfa ac fe'u
diswyddwyd. Galwyd cyfarfod o Bwyllgor Cyffredinol yr Undeb, a
ddatganodd yng ngwyneb hyn fod pob trafodaeth i ddod i ben ac y
gelwid am Streic ym mis Mawrth, 1897. Ymatebodd Young ddeuddydd
yn ddiweddarach drwy wahardd 71 o weithwyr o'r Chwarel gan
gynnwys y saith a feiddiodd fynd a'r cwynion yn syth i'r Arglwydd
Penrhyn ar Awst 7fed.
Cytundeb Streic Penrhyn 1897
Streic Fawr 1900-1903
Hynt a helynt
Gorymdeithiodd gweithwyr y chwarel i
gyd i Fangor fel arwydd o gefnogaeth ar ddiwrnod yr achos a chael
eu gwahardd o'u gwaith am bythefnos. Gohiriwyd yr achos, ac
unwaith eto gorymdeithiodd pawb i Fangor fel arwydd o gefnogaeth.
Dan orchymyn eu cyflogwr galwodd y prif Gwnstabl filwyr i mewn a
gorws o anghymeradwyaeth nifer o gyrff cyhoeddus a'r cyngor Sir
ei hun. Dychwelodd y gweithwyr i'r chwarel ar Dachwedd 19fed, ond
yn amheus iawn o'r ffaith fod 8 o'r ponciau ar gau. Ymhen dau
ddiwrnod roedd yna awyrgylch afreal yno. Trodd pawb allan am y
chwarel eto y diwrnod wedyn, ond ni weithiodd neb.
Rhyw dro yn ystod y bore, cododd E.A. Young ei deleffon i roi
dewis syml i'r gweithwyr. 'Go on working or leave the quarry
quietly.' Codasant fel un a gadael.
Roedd cadoediad 1897-1900 drosodd. Roedd 'Chwalfa' y Streic
Fawr ar gychwyn. Fyddai pethau byth yr un fath eto i neb.
Streiciau yn yr Ugeinfed Ganrif
Digwyddodd streiciau llai dros y blynyddoedd yn chwareli'r
gogledd. Cafwyd Streic yr Holiars yn y Blaenau ym 1920 pan ddaeth
nifer o fechgyn canlyn y ceffylau allan yn y Llechwedd. Ym mis
Awst yr un flwyddyn daeth nifer allan yn yr Oakeley am godiad
cyflog. Dilynwyd hon gan y Streic Ddwy Geiniog neu Streic Wdbein
ym 1936. (Cymerwn mai cost paced o Wdbeins ym 1936 oedd dwy
geiniog!) Dim ond ar un achlysur y bu i'r Undeb alw yr holl
weithwyr allan yn llwyr drwy'r diwydiant a hynny ym 1922, er na
pharhaodd y streic ond am bythefnos.
Y streic fwyaf sylweddol yn y cyfnod diweddar oedd Streic
1985-86, pan safwyd allan am saith mis. Hon oedd streic fwyaf y
Blaenau ers 1893. Fe'i canolwyd ar Gwmni Llechi Ffestiniog, sef
tair chwarel, Gloddfa Ganol, Yr Oakeley a Chwt y Bugail oedd yn
gweithredu mewn partneriaeth. Sefydlwyd y cwmni ym 1971 ac am
dros ddegawd fe weithredwyd y Sustem Bonws o gyflogau yn
llwyddiannus. Penderfynodd y perchnogion i ddileu'r sustem yma
gan lleihau cyflogau a hefydddal i wrthod talu cyflogau cyfartal
i ferched. Golygai hynny leihad o £28.50 yn eu cyflog wythnosol.
Gwrthwynebodd 17 o weithwyr y sustem newydd ac fe'u
diswyddwyd.
Dechreuwyd gweithio i reol yng Nghwt y Bugail. Ymateb y
perchnogion oedd cynyddu oriau gwaith yn yr Oakeley a'r Gloddfa
Ganol i wneud i fyny am y diffyg. Pendefrynodd gweithwyr y dair
chwarel wedyn i weithio fel uned a dod allan ar streic ar Awst
19eg.
Yn y streic hon fe chwaraeodd y gwragedd a'r merched ran
flaenllaw. Roeddynt wedi bod yn trefnu i yrru parseli bwyd i lawr
i lowyr y De oedd allan ar streic yn ystod 1984-85. Yn sydyn,
gwragedd a merched y glowyr oedd yn gyrru parseli bwyd i
deuluoedd streicwyr Blaenau Ffestiniog. Cafwyd cefnogaeth
anhygoel gan fudiadau ac unigolion a derbyniwyd bron i fil o
lythyrau o gefnogaeth. Ar ben hyn gwnaethpwyd casgliadau stryd
bob Sadwrn ym Mangor, Caernarfon, Aberystwyth a Chaerdydd.
Wedi tair wythnos ar ddeg, dychwelodd wyth dyn ac un gwraig
i'w gwaith; gweithred a roddodd derfyn ar unrhyw obaith am setlo
buan. Daeth y gair 'Bradwr' i mewn i'r eirfa, a daeth y merched i
gefnogi ar y llinellau piced.
Erbyn Tachwedd, rhaid oedd dechrau meddwl sut y gellid rhoi
Nadolig hapus i'r 55 plentyn. Yn dilyn apel, llifodd arian,
tegannau ac hamperi i'r Blaenau o bob cyfeiriad ac yn enwedig gan
lowyr y de.
Erbyn ganol Ionawr 1986, roedd undeb y T.&.G.W.U. yn
flaenllaw gyda phrif swyddogion yr undeb ar y llinellau piced.
Recordiwyd caset 'Safwn gyda'n Gilydd' gan rai o brif berfformwyr
ac ysgrifennwyr y wlad.
'Safwn gyda'n gilydd'
Nid gofyn wnawn am gardod, na gofyn ffafr chwaith
Ond gofyn am ein haeddiant am ddiwrnod o waith.
Er mwyn y rhai fu'n aberth i lwch y garreg las,
Er mwyn y rhai fu'n brwydro ar graig a ffridd a ffas.
Safwn gyda'n gilydd, safwn fel un gwr,
Safwn gyda'n gilydd fel un gwr.
Aeth wythnos arall heibio heb son am babpur bach,
Rhaid sefyll ar y biced a byw ar awyr iach,
Rhaid peidio gwangaloni na phlygu dan y straen,
O freichiau ffrindiau fyddlon daw nerth i gario 'mlaen.
Safwn gyda'n gilydd, sfawn fel un gwr,
Safwn gyda'n gilydd fel un gwr.
(Dafydd Iwan)
|
Cynhaliwyd Rali Fawr o dros 2,000 o gefnogwyr ar Fawrth 1af,
1986, a hithau'n dywydd deifiol o oer.
Ac yna, daeth y diwedd. Ddechrau wythnos yng nghanol mis
Mawrth, pleidleisiwyd i derfynu'r streic a derbyn y taliad gan y
rheolwyr i weithwyr yr Oakeley. Ond yn dilyn ansicrwydd gyda
geiriad y cynnig, cymerwyd pleidlais arall rai dyddiau yn
ddiweddarach, gan benderfynu dal i sefyll allan.
' Saif y gweithwyr gyda'u gilydd,
dychwelodd gweithwyr Chwarel Bwlch i'w gwaith, a gobeithio y bydd
gweithwyr Gloddfa Ganol yn gweithio erbyn y Sulgwyn. Safodd
gweithwyr yr Oakeley gyda'u gilydd yn erbyn cael eu rhannu gan
adael i Eifion Williams ddethol a dewis yn ol ei fympwy pa
weithwyr yr oedd am eu hail gyflogi. Penderfynasant beidio trafod
ag ef, ac yn awr y mae heb grefftwyr.
(Safwn gyda'n gilydd Blaenau Ffestiniog
1985-1986, tud 67, cyf)
|
|