Cyflogau, Streiciau a Safon Byw - Cytundeb
Streic Penrhyn 1897
CHWARELAU PENRHYN
TELERAU CYTUNDEB.
I.—(a) Bydd i gwynion unrhyw weithiwr, criw, neu ddosbarth gael
eu cyflwyno ganddo ef, neu hwy yn gyntaf i'r Goruchwiliwr Lleol.
Os yn anfoddlawn ar ddyfarniad y Goruchwiliwr Lleol yna bydd i'r
cyfryw gwynion gael eu cyflwyno i'r Prif Oruchwiliwr un ai yn
bersonol neu trwy ddirprwyaeth wedi ei phenodi yn y fath fodd ag
y bydd y gweithwyr yn ystyried yn briodol, ond i gynwys dim mwy
na phump o weithwyr wedi eu dethol o'r un dosbarth a'r person neu
bersonau gwynant, y rhai tyddant yn gynwysedig yn y
ddirprwyaeth.
(b) Cwynion yn mha rai y bydd y gweithwyr yn gyffredinol yn
meddu budd, neu fyddent wedi eu mabwysiadu ar ran gweithiwr,
criw, neu ddosbarth a gyflwynasant eu cwynion o dan yr adran
flaenorol, ac yn adfoddlawn ar y dyfarniad a ellir drachefn eu
gosod gerbron y Prif Oruchwiliwr gan ddirprwyaeth yn cynwys dim
mwy na chwech o weithwyr wedi eu penodi yn y fath fodd ag y barna
y gweithwyr yn briodol.
(c) Mewn cyffelyb ddull yn derfynol, yn mhob achosion pwysig
gellir appelio at Arglwydd Penrhyn yn erbyn dyfarniad y Prif
Oruchwiliwr naill a'i gan berson unigol neu gan ddirprwyaeth. Yn
mhob achos rhaid cyflwyno i'w Arglwyddiaeth mewn ysgrifen y
seiliau ar ba rai y gwneir y cyfryw appel.
II.—Rhoddir Bargeinion Misol i Rybelwyr cymwys heb oediad, mor
fuan ag y cenfydd yr Oruchwyliaeth hyny yn ymarferol.
III.—Gosodiad Contracts i'w adael yn nwylaw yr Oruchwyliaeth,
yr hon a gyfloga yr holl bersonau weithiant arnynt ac a edrycha
fod pob gweithiwr yn derbyn ei gyfartaledd deg o gyflog.
IV.—Cyn stopio gweithio yr oedd cyfartaledd cyflog delid i
Chwarelwyr yn 5/6 y dydd, a dosbarthiadau eraill weithiant ar
gymeriad mewn cyfartaledd (h.y. i Labrgreigwyr 4/7 y dydd,
Labrwyr 3/7 y dydd). Pan ail-ddechreuir gweithio bydd i'r un
safon barhau cyhyd ag y caniata masnach.
V.—Bydd i'r oll o ddiweddar weithwyr Chwarel y Penrhyn a
ewyllysiant waith gael dychwelyd yn un corph mor bell ag y bydd
hyny yn ymarferol, a'r gweddill mor fuan ag y gellir trefnu
gwaith iddynt. Caniateir anaser rhesymol i'r rhai eill fod yn awr
yn gweithio yn mhell.
Cytunwyd,
18fed Awst 1897
E. A. YOUNG,
(Ar ran Arglwydd Penrhyn.) |
WM. H. WILLIAMS,
ROBERT DAVIES,
HENRY JONES,
(Ar ran y dynion i'w gadarnhau.) |
|