Cyflogau, Streiciau a Safon Byw - W.H.
Williams
'Gladstone y Chwarelwyr' - trydydd
ysgrifennydd yr Undeb.
Yn enedigol o
Arafon, Mynydd Llandygai, yn un o un plentyn ar ddeg, dechreuodd
William Hugh Williams weithio yn Chwarel y Penrhyn pan
oedd yn ddeg oed. Bedair mlynedd yn ddiweddarach roedd yn holltwr
ac wedi dysgu'r holl dechneg yn rhyfeddol o gyflym. Blagurodd yn
arweinydd yn y gymdeithas gadarn, hwyliog ac unieithog a fodolai
yn y caban. Gwelid ef yn aml yn y caban, yn darllen darnau o'r
Times i'w gydweithwyr a'u cyfieithu yn syth i'r Gymraeg
wrth eu darllen yn uchel.
Ei weithgareddau yn yr Undeb.
Gweithredodd lawer iawn yn ystod Streic 1874, ond yn y cefndir
yn hytrach nag ar y blaen. Ond erbyn 1896-97, ystyrrid ef fel un
o arweinwyr doethaf a chadarnaf gweithwyr gogledd Cymru yn
gyffredinol. Undebwr Llafur i fer ei esgyrn oedd W.H. Williams, a
phan ddechreuodd yr Undeb symud yn nes at y Blaid Lafur, symudodd
yntau hefyd, er nad oedd yn Sosialydd ychwaith.
|