Er mwyn clirio'r tunelli o lechi a orweddai ar y
cei ym Mhorth Penrhyn aeth allan yn bersonol i chwilio am
farchnadoedd newydd. Ei arwyddair oedd "effeithiolrwydd" ac i
sicrhau hyn, ei fwriad oedd dileu yr hen ddull o weithio. Nid
allai oddef undebaeth o unrhyw fath ac yn hyn, roedd ei feistr ac
yntau mewn cytgord hapus a soniarus. Yn wir, roedd Penrhyn yn
dueddol fwy fwy i adael yr holl fusnes yn nwylo ei brif reolwr
gan dreulio mwy a mwy o amser yn Wicken ac ym Mortimer House,
Llundain.
Stori gyffredin iawn ymysg trigolion Bethesda ar
y pryd oedd fod sefyllfa economaidd y chwarel wedi mynd i'r fath
gyflwr erchrydus erbyn 1886 fel i Turquand Young & Co.
fenthyca symiau enfawr o arian i'r ail Arglwydd Penrhyn a bod
E.A. Young yn benderfynol o gael pob hatling o'r benthyciad a'r
llogau perthynol yn ôl ar eu canfed. Tybed os mai rhan o'r
telerau oedd bod Young yn cael rheoli'r chwarel ar ran yr
Arglwydd Penrhyn, ac mai dyna'r rheswm pam fod enw Young i'w weld
ar bob poster wedi 1886 (ac eithrio un) yn lle enw Penrhyn fel yn
nyddiau'r hen lord?
Ffaith arall ddiddorol yw fod holl
gyfranddaliadau Sackville-West, asiant y stad wedi syrthio i
ddwylo Young ym 1898 yn hytrach nag i ddwylo Penrhyn. O hynny
ymlaen roedd Young hefyd yn llwyr reoli'r fasnach lechi allan o
Borth Penrhyn gan roi blaenoriaeth i'w longau ef a chadw llongau
eraill i ddisgwyl cael eu llwytho. Ni ddychwelodd y
cyfranddaliadau yn ôl i deulu'r Penrhyn hyd farwolaeth Young ym
1910.
Gan drigo yn Nhan-y-bryn, mewn awyrgylch Seisnig
hollol, (o leiaf yr oedd tua 25% o staff Castell Penrhyn a'r parc
yn gallu Cymraeg) cyflogai saith o weision a morynion, heb gyfrif
y nyrs a'r ddirprwy nyrs oedd yn gofalu am y plant. Cysgod o ddyn
yw E.A. Young o hyd, ond o fewn ei gylch Seisnig-Eglwysig, roedd
yn gefnogwr eiddgar i Goleg Hyfforddi Gogledd Cymru ac Ysgolion
Cenedlaethol. Dangosai gryn ddiddordeb yn y gwasanaeth nyrsio
lleol ac ysbyty'r chwarel, a threfnai gyngherddau 'uwchraddol' er
mwyn y cylch. Yn wir, heblaw am ei gefnogaeth ariannol ef, mae'n
amheus a fyddai Cor Meibion y Penrhyn wedi gallu mynd i
Eisteddfod Ffair y Byd, Chicago ym 1893. Er mai dod yn ail a
wnaethant, anrhegodd Young bob aelod o'r cor gyda darlun wedi ei
fframio'n hardd ohono ef ei hun.
Go brin fod fawr ohonynt ar ôl erbyn diwedd y
Streic Fawr.