* * * * * * * * * * * * *
* Gwasanaeth Archifau Gwynedd Safle AGOR English
*
* Tudalen Gartref Llechwefan Diwylliant Cymunedau Llechfaen Celf Oriel Map Safle Safleoedd Allanol Gwybodaeth am y Prosiect

Pay, Strikes and Living Conditions - W. J. Williams

cyflogau a safon byw streiciau streic penrhyn 1900-1903
datblygiad undebau llafur rheolaeth chwareli  

William John Williams, (1839-1897) Ail ysgrifennydd yr Undeb.

William J. WilliamsYn fab i chwarelwr, wedi ei eni ym 1839, dechreuodd weithio yn y chwarel pan nad oedd ond deg oed. Yn syml, y domen fu ei ysgol a'r chwarel ei goleg. Penderfynodd adael y chwarel ac wedi treulio cyfnod yn ysgol y Carneddi, aeth i'r Coleg Normal am ddwy flynedd a'i benodi'n ysgolfeistr cyntaf Ysgol Bethel, lle treuliodd y pedair mlynedd ar ddeg nesaf. Gadawodd ym 1876 i ddilyn W.J. Parry fel ysgrifennydd yr Undeb. Ni fu erioed yn boblogaidd gyda'r aelodau a chaledodd y teimladau fwy fyth yn ei erbyn yn dilyn telerau setlo Streic 1896-97. Doedd hi ddim o help ei fod yn defnyddio ei swyddfa bersonol ef fel cyfrifydd i weinyddu'r Undeb ychwaith.

Cyfrinfa Ffestiniog a gododd y syniad yn y gwynt o uno swydd Trefnydd yr Undeb a'r Ysgrifennydd i greu un swydd newydd o Ysgrifennydd Cyffredinol. Cynllwyn i gael gwared a W.J. Williams yn syml oedd hyn. Ond gwthiodd aelodau Cyfrinfa Cae Braich y Cafn, ym Methesda y cwch yn ddyfnach i'r dwr, gan ddatgan na allent gydweithio ag ef eto. Cynhaliwyd etholiad am ysgrifennydd newydd ac apwyntiwyd W.H. Williams, (1848-1917). Arhosodd D.R. Daniel  yn ei swydd fel Trefnydd yr Undeb.

 
ORIEL ADNODDAU
Gwynedd Council
Welsh Slate Museum, Llanberis
Cynefin Consultants
Enrich UK - Lottery Funded New Opportunities Fund
© Copyright Gwynedd Council 2003