* * * * * * * * * * * * *
* Gwasanaeth Archifau Gwynedd Safle AGOR English
*
* Tudalen Gartref Llechwefan Diwylliant Cymunedau Llechfaen Celf Oriel Map Safle Safleoedd Allanol Gwybodaeth am y Prosiect

Cyflogau, Streiciau a Safon Byw - D. R. Daniel

cyflogau a safon byw streiciau streic penrhyn 1900-1903
datblygiad undebau llafur rheolaeth chwareli  

D.R. Daniel - Trefnydd yr Undeb

 

Ganwyd David Robert Daniel (1855-1931) yn Llandderfel i deulu nad oedd efo unrhyw gysylltiadau chwarelyddol. Derbyniodd addysg gadarn yn Ysgol Ty Tan Domen yn y Bala ac yng ngholeg yr Annibynwyr gan y radicalaidd Michael D. Jones. Aeth ar y daith ddisgwyliedig y cyfnod i'r Taleithiau Unedig, ond hefyd teithiodd yn sylweddol ar dir mawr Ewrop. Yna penodwyd ef yn ddirprwy drefnydd  Undeb Dirwestol y Deyrnas Unedig yng Ngogledd Cymru. Chwaraeodd ran sylweddol yn etholiad Thomas Edward Ellis yr ymgeisydd seneddol Rhyddfrydol dros Feirionnydd ym 1886.  Symudodd y flwyddyn ddilynol i'r Ffor, nepell o Bwllheli, lle dechreuodd ymhel a gwleidyddiaeth leol. Apwyntiwyd ef yn drefnydd i Undeb Chwarelwyr Gogledd Cymru ym 1896. Ar ôl gweithredu ar Gyngor Sir Gaernarfon, ymunodd efo'r gwasanaeth sifil.

 
ORIEL ADNODDAU
Cyngor Gwynedd
Amgueddfa Lechi, Llanberis
Ymgynghorwyr Cynefin Cyllidwyd gan Enrich UK Y Gronfa Cyfleoedd Newydd
© Hawlfraint Cyngor Gwynedd 2003