Dathliadau ac Ymwelwyr.
‘Os mynnwch weled natur a chelfyddyd wedi
ymbriodi,.. ewch a gwelwch Chwarel y Penrhyn a Phontydd Britannia
a'r Fenai.'
(Charles Dickens Cyf. ,Yr Herald Cymraeg, Mai
15, 1869.)
|
Mae'n debyg mai'r chwarelwyr oedd
rhai o'r atyniadau twristaidd cyntaf a grewyd. Yn wir, erbyn 1910
roedd siop gwerthu cofroddion yn bod wrth y fynedfa i Chwarel y
Penrhyn. Deuai ymwelwyr o bob gradd i weld rhyfeddodau'r cloddio
a phan ddeuai ymwelydd brenhinol, nid o bwys o ba wlad, neu ar ba
achlysur pwysig i'w ddathlu, un ffurf o ddatgan croeso'r ardal
oedd drwy danio `cerrig canan' neu `graig ganan'. Cofier, nid
arferiad yn unigryw i ardaloedd y chwareli oedd hyn, oherwydd
ceir son amdano mewn ardaloedd diwydiannol eraill yn ogystal.
Ceir enghreifftiau o hyn yn niwydiant copr Mynydd Parys. Cofier,
roeddynt yn nodweddion ar lefel Ewropeaidd hefyd. Mae'r arferiad
yn mynd yn ôl i ganol y ddeunawfed ganrif o leiaf yng
Nghymru.
Yng Ngwynedd i fyny hyd Ragfyr 2001 fe lwyddwyd i gofnodi 235
o safleoedd gyda '6,157 o dyllau tanio ynddynt.
Paratoid y cerrig canan drwy dyllu i garreg neu graig ar safle
glir. Byddai'r tyllau ar gyfartaledd tua 125 mm o ddyfnder a
rhwng 25 mm a 32 mm o ddiamedr. Cysylltid y tyllau o un i un yn y
cyfnod cynnar gyda saim gwydd a chyn dyfeisio y ffiws ddiogel
defnyddid plufyn gwydd. Yn ddiweddarach, fe gysylltid y tyllau
gyda rhigol fas a fyddai'n cychwyn o'r twll tanio cyntaf. Llenwid
y tyllau wedyn i oddeutu traean o'u dyfnder efo tua 57 gm o
bowdwr du, a defnyddiwyd powdwr yn y rhigolau er mwyn cysylltu'r
a'r tyllau.
Nid oes prinder engrheifftiau o gerrig canan yn cael eu tanio.
Er enghraifft, taniwyd rhai gydag arddeliad ym 1859, pan ddaeth y
Frenhines Victoria i Gastell Penrhyn, y Frenhines
Elizabeth o Roumania ar ymweliad ym 1890, a thrachefn pan dalodd
y Tywysog Albert Edward a'i deulu ymweliad âg Eisteddfod
Genedlaethol Caernarfon ym 1894 a pheri'r sbloet frenhinol fwyaf
a welwyd yn y cylch na chynt na chwedyn.
‘Brenhines Roumania yng Nghymru.'
'...Gollyngwyd rockets i fyny yn y Coetmor Hall a chlywyd
cannons Braichmelyn a'r Fronllwyd yn diaspedain trwy yr
ardal...'
(Yr Herald Cymraeg, Medi 23, 1890)
|
Daeth George William Duff Assheton-Smith aer y Faenol
i'w oed ym 1869 a mawr fu'r dathlu. Taniwyd cerrig canan wrth
gwrs ond trodd y dathliadau yn y Gaerwen Sir Fôn yn chwerw pan
laddwyd un o'r chwarelwyr.
|