Perchnogion Chwareli Llechi - Masnachwyr
Cymraeg a Saesneg
Saeson o Loegr
Ganwyd William
Turner (1766-1853) yn Seathwaite, Sir Gaerhirfryn yn fab i wr
oedd yn dal les ar chwareli llechi yn y cylch. Ym 1800 fe ymunodd
efo dau bartner, William a Thomas Casson o Swydd
Cumberland. (Byddai Thomas yn dod yn daid i sefydlydd Banc
Cassons maes o law.) Trigai Turner ym Mhlas Brereton, Caernarfon,
a George a William Casson, meibion Thomas ym
Mlaenyddol, Llan Ffestiniog. Daeth Hugh Jones, bancer o
Ddolgellau i mewn atynt fel partner hefyd, ac adnabyddid y cwmni
fel y 'William Turner & Company' ac yna y 'Diphwys Casson
Slate Company.' Dyma ran o'r datblygiad enfawr welwyd ym Mlaenau
Ffestiniog hyd 1881 pan gynyddodd nifer y chwareli i saith ar
hugain. (Diddorol hefyd yw sylwi fod William Turner a Hugh
Jones wedi ymuno efo Thomas Assheton Smith a Thomas
Wright fel partneriaid i redeg Chwarel Dinorwig. Bu Turner yn
gyfrifol am redeg rhestr hir iawn o chwareli.
Arloeswr
pwysig arall yn niwydiant chwareli Ffestiniog oedd Samuel
Holland yr ieuengaf, (1803-1892), llun ar y dde. Roedd ei
dad, Samuel Holland yr hynaf (1768-1851) efo'i fysedd yn y
diwydiannau plwm, copr a llechi yng Ngogledd Cymru ac yn amlwg
gyda masnachu llechi Chwarel Penrhyn yn nechrau'r 19G. Addysgwyd
Samuel y mab yn Lloegr a'r Almaen cyn ymuno gyda chwmni ei dad yn
Lerpwl fel bachgen swyddfa. Yn ddeunaw oed, anfonodd ei dad
amdano i Ffestiniog i ofalu am chwarel Rhiwbryfdir. Daeth yn
ffigwr blaenllaw drwy'r sir. Ei syniad ef oedd cynllunio
rheilffordd o'r Blaenau i Borthmadog, a sefydlodd Fanc Cynilo yn
y Port ym 1845. Bu'n gyfrifol am sefydlu Clybiau Llyfrau, ac
ysgolion elfennol heb son am Ysgol Doctor Williams i Ferched yn
Nolgellau ym 1875. Etholwyd ef yn Uchel Siryf ym 1862 a
chynrychiolodd y sir fel aelod seneddol Rhyddfrydol o 1870 hyd
1885. Ar ben hyn, roedd ganddo ddiddordeb mawr mewn ffermio a
chadwai rhwng mil a hanner a dwy fil o ddefaid ar y mynydd ger
Chwarel Rhiwbryfdir. Ffynnai'r fferm a'r chwarel. Yn wir, mor
gynnar a 1852 roedd wedi gosod golau nwy yn yr agorfeydd dan
ddaear ac wedi cynllunio periannau i drin llechi. Roedd Elizabeth
Gaskell, y nofelydd Fictoraidd yn gyfnither iddo hefyd.
Trydydd mab John Greaves, Crynwr a banciwr o Radford, Swydd
Warwick oedd John Whitehead Greaves (1807-80).
Penderfynodd ymfudo am Ganada o borthladd Caernarfon tua 1830,
ond ail feddyliodd a ffurfio partneriaeth gydag Edwin
Shelton o Grimley, Swydd Gaerwrangon a chymryd Chwarel
Glynrhonwy, Llanberis ar lês. Dechreuwyd gweithio'r chwarel yma
ym 1804, ac roedd John Roberts, y lesdddeiliad blaenorol wedi
mynd yn fethdalwr i'r swm o ddeng mil ar hugain o bunnoedd.
Daliai Roberts lês hefyd gan yr Arglwydd Newborough ar Chwarel
Bowydd ym Mlaenau Ffestiniog. Aeth Shelton yn gyfrifol am weithio
Glynrhonwy a Greaves am Bowydd. Cyfnod o dwf masnachol anhygoel
oedd y 1830'au, yn ddegawd a welodd sefydlu'r North and South
Wales Bank ym 1836, (ac a brynwyd gan Fanc y Midland ym 1908)
adeiladu'r rheilffordd o'r Blaenau i Borthmadog. Yn wir, bu
Greaves yn drysorydd i'r cwmni o 1843-47 ac yn gadeirydd o
1850-57. Crewyd masnach eang i lechi Cymru hefyd yn dilyn Tân
Mawr Hamburg ym 1842.
Sylweddolodd Greaves yn fuan fod digon o lechi dan dir
Llechwedd y cyd, tir oedd yn gwahanu Chwareli Bowydd a Foty oddi
wrth Chwarel Rhiwbryfdir. Penderfynodd ffurfio partneriaeth
gyda'r ail Arglwydd Newborough a William Edward
Oakeley. Ond bu ond y dim i'r chwilio am y llechen ddifetha
Greaves yn ariannol cyn taro ar wythien Yr Hen Lygad ym
1849. Fel yn hanes Holland, dyfeisiodd Greaves beiriannau, ac ym
1851, llwyddodd i ddwyn llechi'r Llechwedd i sylw mawr wrth
ennill Medal Dosbarth 1 yn Arddangosfa Fawr y Palas Grisial ym
1851. Dechreuodd y llyfrau archebion lenwi a llenwi a chafodd
gytundeb am lechi i ail doi Palas Kensington. Enillwyd medal
arall yn Arddangosfa Llundain ym 1862 ac yn Arddangosfa Paris ym
1867. Ehangodd Greaves ei fusnes hefyd i adeiladu llongau ym
Mhorthmadog. Bu Shelton ei bartner farw ym 1848, ond daliodd
Greaves i weithio Glynrhonwy hyd 1862, er na roddodd y lês i fyny
hyd 1873.
Ganwyd John Ernest Greaves (1847-1945) yn
Nhan-yr-allt,Tremadog er iddo dreulio llawer o'i blentyndod yn
Llechwedd. Derbyniodd ei addysg mewn ysgolion yn Swydd Warwick,
Caeredin a Swydd Dorset cyn mynd i Rydychen. Pan adawodd yno ym
1870 gosodd ei dad ef, John Whitehead Greaves yn reolwr ar y
Llechwedd ac i fyw ar y safle ym Mhlas Weunydd. Ym 1874, roedd yn
un o sylfaenwyr Cyfrinfa Madoc, Rhif 1509 o'r Seiri Rhyddion. Bum
mlynedd yn ddiweddarach fe briododd Marianne Rigby, wyres Samuel
Darbyshire, perchennog chwareli gwenithfaen Penmaenmawr. Gyda'i
fusnesau yn tyfu a'i gyfoeth yn chwyddo dechreuodd brynu eiddo yn
Sir Feirionnydd a Sir Gaernarfon.. Apwyntiwyd ef yn ynad heddwch,
Uchel Siryf a Dirprwy raglaw Meirionnydd ym 1884, Uchel Siryf Sir
Gaernarfon ym 1885, ac yn ystus heddwch ac Arglwydd raglaw'r Sir
ym 1886. Gyda chymaint o alwadau, penderfynodd ym 1885 i apwyntio
ei frawd, Richard Methuen Greaves yn rheolwr cyffredinol
ond aros yn gadeirydd y sindicet. Cadeiriodd Llys Chwarter Sir
Gaernarfon o 1890 hyd 1929 ac chodwyd ef i gadair y Cyngor Sir ym
1906.
Ffurfiodd y tri brawd, J.E. Greaves, R.M.
Greaves ac Edward Seymour Greaves ynghyd a'u gwragedd
gwmni cyfyngedig ym 1900. O ennill medal aur yn Ffair y Byd ym
Muenos Aires ym 1910, llifodd archebion sylweddol i mewn o Dde
America. Penderfynwyd ar gynnig y swydd o reolwr cyffredinol a
pheiriannydd i Martyn Williams-Ellis (1885-1968), wyr i
J.W.Greaves. Rhwystrodd y Rhyfel Mawr ef rhag cychwyn ar y gwaith
hyd 1918, pan benderfynodd ar bolisi o foderneiddio a mecaneiddio
a weddnewidiodd dyfodol Chwarel Llechwedd. Penderfynodd y cwmni
brynu hawliau pori Tanybwch a Glynllifon ar y tir ym 1931. Ni
lwyddwyd yn hyn o beth hyd 1936 pan ddechreuwyd difrigo'r gwaith
i allu cloddio'r pileri llechfaen gorau oedd wedi eu gadael i
ddal y to i fyny ers oes Fictoria. Roedd Llechwedd yn brysur ddod
yn weithle effeithiol a llawn potensial.
Daeth George Whitehead Greaves (1889-1953) yn gadeirydd
ym 1945 ond ar ôl ei farwolaeth yn Affrica yn ystod terfysgoedd y
Mau Mau, penodwyd Martyn Williams-Ellis yn Rheolwr
Gyfarwyddwr a Chadeirydd. Datblygwyd cynllun difrigo ganddo ym
1931 er lles y chwarel. Dilynwyd ef fel Rheolwr Gyfarwyddwr gan
ei fab John Williams-Ellis (g.1923). Fel ag y nodwyd
eisioes, mae Chwarel Llechwedd dan Grwp Cwmnïau Greaves yn
fusnes llewyrchus wedi ei gerio i fyd diwydiant a
thwristiaeth.
Cyfleustra gwleidyddol Syr Haydn
Un o aelodau seneddol rhyddfrydol Cymru a ddaliodd y swydd
ymysg yr hwyaf ar ôl David Lloyd George oedd Syr Henry Haydn
Jones, (1863-1950), Pantyneuadd, Tywyn a lanwodd sedd Meirionnydd
o 1910 hyd ei ymddeoliad ym 1945. Yn fab i'r cyfansoddwr J.D.
Jones (1827-70), fe'i magwyd ef yn Rhuthun lle'r oedd y tad wedi
sefydlu academi breifat (a thu hwnt o Seisnig), Clwyd Bank.
Addysgwyd ef yn Nhywyn ac fe'i mabwysiadwyd gan ddau ewythr gan
ei roi mewn busnes haearnwerthwr yn rhif 22, Stryd Fawr. Priododd
ym 1903 efo Barbara, merch Lewis D. Jones, oedd yn enedigol o
Dywyn ond wedi ymfudo i'r Unol daleithiau ac ennill ei fara efo'i
fusnes haearnmongar ac fel perchennog chwareli yn Chicago. Ni
chafodd yrfa chwyldroadol fel seneddwr, ond fe olygodd gasgliad o
donau ac emynau, Cân a Moliant, ym 1910. Urddwyd ef yn
farchog ym 1937.
Dyddia cloddio am lechi yng nghylch Abergynolwyn yn ôl i'r
1840'au, ond erbyn 1909 oherwydd cloddio'r cerrig gorau a diffyg
buddsoddiad ariannol dros nifer o flynyddoedd roedd y diwydiant
ar ei sodlau braidd. Fel aelod seneddol newydd, ceisiodd Haydn
Jones gael prynwr i Chwarel Abergynolwyn ym 1910, ond heb
lwyddiant. Y diwedd fu iddo ef brynu'r chwarel, y pentref a
Rheilffordd Talyllyn ym 1911 am bum mil a dau gant a hanner o
bunnoedd. Cyn diwedd y flwyddyn honno ffurfiwyd yr
Abergynolwyn Slate and Slab Company Limited gydag yntau
fel yr unig gyfarwyddwr. Prynodd y lês ar Chwarel Aberllefenni ym
1935. Newidiodd y cwmni ei enw i'r Aberllefenni Slate Quarries
Limited ym 1956 ac roedd yn dal i fasnachu ym 1999. Cafwyd
rhai blynyddoedd gweddol fras yn dilyn diwedd y Rhyfel Mawr mae'n
wir, ond byrhoedlog fu'r llwyddiant. Syrthiodd to rhai o'r
agorfeydd i mewn ym mis Rhagfyr 1939, ond heb anafu neb. Daeth
cynhyrchu i ben ym 1946. Deil Rheilffordd Talyllyn, a agorwyd yn
wreiddiol ym 1865, yn brysur fel atyniad twristiaeth.

|