* * * * * * * * * * * * *
* Gwasanaeth Archifau Gwynedd Safle AGOR English
*
* Tudalen Gartref Llechwefan Diwylliant Cymunedau Llechfaen Celf Oriel Map Safle Safleoedd Allanol Gwybodaeth am y Prosiect

Technegau yn y Chwareli - Gweithio'r Llechfaen

y gweithwyr y chwarel a ffrwydro
gweithio'r llechfaen mecaneiddio

Chwarelwr yn hollti llechi(Mae'n bwysig cofio fod gan bob ardal chwarelyddol ei thermau ei hun. Termau Llanberis a ddefnyddiwyd yn bennaf yma. Ond roedd termau cyfoethog ym mhob ardal.)

Mae rhaid bwrw golwg dros y fargen cyn ei llnau, i wneud yn siwr nad oedd crib yn hongian ac allasai fod yn beryglus i weithio oddi tani. Yna rhaid oedd dragio, sef defnyddio'r cyn brashollt y morthwyl dragio, (morthwyl tri phwys) i frashollti'r plygion a'u  pileru i led rhwng 30cm a 60cm. Llwythid y pileri wedyn yn slediad a defnyddid yr injian stem i'w tynnu i'r wal. Cwt efo wyneb agored wedi ei adeiladu a ragiau a'i doi efo crawiau mawr. Erbyn heddiw mae siediau hollti yn bod, a golyga gwal yn y sied lecyn 90cm neu 105cm lle gweithia'r holltwr a'r naddwr. Mae lli gron yn y sied i lifio'r crawiau mawr i fesur a gwneud y clytiau yn barod i'w hollti yn grawiau tenau.

Yr oedd y cam yma yn gofyn am grefft arbennig iawn. Eisteddai'r holltwr ar foncyff pren, sef blocyn hollti neu flocyn tin, gyda'i goesau wedi eu croesi a'r clwt yn gorffwys ar ei lin chwith. Ei arfau yw dau neu dri cyn manhollt a gordd fechan o dderw Affrig. Trwch y cerrig gorau yw chwe charreg i 2cm. Gosodir y crawiau ar ar garreg wastad, y garreg bentwr, yn barod i'w naddu. Fel rheol, gwaith y jermon fyddai hyn.

Yna, gesyd y naddwr y grawen denau (tew wyth) ar lafn y drafael i'w naddu i'r siap a maint petryal sydd ei angen. Torrir dwy ochr yn syth i gychwyn, a'i tharo gyda'r gyllell naddu ar y drafael rhyw dair neu bedair o weithiau nes cael yr ochr yn syth. Yna fe'i mesurir gyda'r pren mesur - darn hir o bren a hoelen ar y pen, efo stepiau bob modfedd i ddechrau, ac yna bob dwy fodfedd. Wedi marcio'r llechen fe naddir y ddwy ochr arall nes cael llechen hirsgwar o'r maint priodol. Gall naddwr profiadol wneud rhwng 500 a 600 o lechi y dydd.

Erbyn heddiw mae peiriannau i naddu gyda'r cyllyll yn cael eu troi efo trydan. Gwir y gellir naddu llawer mwy gyda'r dull yma, er bod mwy o wastraff yn cael ei gynhyrchu yn enwedig os yw'r cerrig yn drwchus a chaled.

Ym Mlaenau Ffestiniog gelwir gwythien o lechfaen yn llygad (ll.llygadau).  Roedd yn enw a roddwyd gan arloeswyr y chwarel pan agorwyd y graig gyntaf.  Hynny yw, agor `llygad' y llechfaen.  

Enwau llygadau chwareli Blaenau Ffestinog

Llygad Mochyn
Llygad Cefn/Llygad Coch 
Llygad Bach 
Hen Lygad
Llygad Newydd 
Llygad y Moelwyn 
Llygad Thomas Edwards 
Llygad Glan y Pwll 
Llygad Llwyd 

Haen denau o graig yw gwythien a cheir amryw ohonynt mewn gwely neu dew o lechfaen. Mae trwch yr Hen Lygad yn un o chwareli Ffestiniog yn 70 llath gyda 27ain o wythiennau.

Tewiau a Gwythiennau'r Hen Lygad

Ithfaen glas (slont glai) 
Gwythien y Meinars 
Y Wythien Isaf a'r Tri Teulu 
Gwythien Crych Du Bach 
Gwythien Crych Du Mawr 
Y Wythien Sylffar 
Y Pum Wythien 
Y Wythien rhwng y Pump a'r Wythien Wen 
Y Wythien Wen a'r Teulu 
Yr Ail oddi wrth y Wythien fawr 
Y Wythien Fawr 
Y Wythien Ddu 
Y Wythien Gam 
Yr Ail Wythien Gam 
Y Gwythiennau Mân..y gam a'r frith 
Pen Uchaf y Llygad Caled (tew bras) 
Y Wythien Galed a'r Teulu 
Yr Ail Wythien Galed 
Y Wythien Lwyd 
Y Wythied Fflat 
Y Wythien Grych 
Sylffar y Llygad Caled Isaf 
Y Wythien Galed Isaf 
Gwythien y Smotiau Isaf 
Gwythien y Sylffar Du a'r rhai diweddaf 

Y ffordd draddodiadol o Gyfrif llechi:

Bwrw/mwrw 
Cant bach 
Cant mawr 
Dau gant bach 
3 carreg 
10 mwrw and 2 garreg
4 cant bach 
1 pwn ceffyl 

Maint Llechi

Credir mai'r Cyrnol Hugh Warburton o Winnington, Sir Gaer a chyd berchennog stad y Penrhyn yn ystod hanner cyntaf y ddeunawfed ganrif a fathodd o leiaf rai o'r enwau mawrygus ar y gwahanol meintiau o llechi. Fel Canghellor a Siambrlen Siroedd Môn, Caernarfon a Meirion yr oedd yn ffigwr tra dylanwadol. Ac ym 1727, fe'i hapwyntiwyd yn Brif Feistr Taleithiol cyntaf Talaith Gogledd Cymru o Urdd y Seiri Rhyddion. Daliodd y swydd hyd 1741 pan apwyntiwyd William Vaughan, Corsygedol, un o'r `Cymmrodorion' cyntaf, a chyfaill agos i'r Morissiaid yn ei le. Ei unig ferch, a'i aeres, Ann, a briododd Richard Pennant, yr Arglwydd Penrhyn cyntaf o'r greadigaeth gyntaf ym 1765. Gwelir eu cofeb addurniedig yn eglwys Llandygai. Dyma'r enwau ar y llechi a'u maint mewn modfeddi.


Queens 24x40
Empresses 26x16
Princesses 24x14
Duchesses Mawr  24x12
Duchesses Bach  22x12
Duchesses Cul  22x11
Countesses Mawr 20x12
Countesses Deg  20x10
Countesses Bach 18x12 a 10x9
Ladis (Ladies) 16x12
Ladis Llydan 16x10 and 16x9
Ladis Dwbl Dwbl Cul  16x8 and 14x10
Ladis Bach 14x12 and 14x8
Ladis Dwbl Cul 12x6
Ladis Single  12x4.5
Ladis Single 10x5
Dampcourse (naw pedair a hanner) 9x4½
 

Cyfrifai'r chwarelwr ei lechi wrth y 1,000, sef 1,260.

Ar ddiwedd y dydd fe gludid y llechi allan a'u gosod yn rhesi taclus yn y clwt peilio. Roeddynt yn cael eu dosbarthu wedyn nid yn unig efo'u mesur ond hefyd eu trwch.. Rhoddid y cerrig yma i fyny bob diwedd mis sef mis chwarel, oedd yn bedair wythnos union. Cyfrifid pob llechen fesul tair neu fwrw.

 
ORIEL ADNODDAU
Cyngor Gwynedd
Amgueddfa Lechi, Llanberis
Ymgynghorwyr Cynefin Cyllidwyd gan Enrich UK Y Gronfa Cyfleoedd Newydd
© Hawlfraint Cyngor Gwynedd 2003