Technegau yn y Chwareli - Mecaneiddio
Dwr ac Ager
Dechreuodd y broses o fecaneiddio yn y diwydiant yn ol yn y
1820'au, yn y Cilgwyn, er engrhaifft, pan ddechreuwyd defnyddio
chwmisiaid ceffyl i godi plociau. Erbyn 1827 defnyddid winsiau.
Erbyn 1829 defnyddid trwnc yn chwarel Tal-y-sarn i godi
plociau i fyny siafft fertigol. Defnyddiwyd ager mor gynnar a
1807 er mwyn pwmpio dwr yn Chwarel Hafodlas. Nid oedd defnyddio
melinau gwynt fel cynhyrchwyr grym yn ddiarth ychwaith. Yn wir,
cymerwyd cryn amser i ddisodli dwr fel grym i yrru peiriannau.
Daeth grym ager i rai o chwareli Ffestiniog erbyn y 1850'au a
1860'au, er fod cyfres gymleth o olwyni dwr mawr a bychain yn
cael eu defnyddio hyd at o leiaf 1891 yn Llechwedd. Ar y llaw
arall gwelid peiriannau ager yn chwareli Dyffryn Nantlle erbyn
1864 gyda'r peiriant Holman Beam nodedig yn cael ei osod i mewn
ym 1904. Canhwyllau, neu nwy yn ddiweddarach a ddefnyddid i
oleuo'r agorfeydd a'r llwybrau tanddaearol.
Trydan
Datblygiad pwysig tu hwnt
yn Llechwedd ym 1890 oedd penderfyniad C. Warren Roberts y
rheolwr, a oedd hefyd yn beiriannydd, i ddefnyddio grym dwr i
droi dau dwrbyn oedd yn eu tro yn troi'r deinamos i gynhyrchu
trydan. O fewn degawd, gwelwyd chwareli eraill yn yr ardal yn
dilyn yr un llwybr. Dechreuodd chwareli Croesor ddefnyddio trydan
yn fuan wedi 1901, nid yn unig i droi peiriannau ond hefyd i yrru
locomtif 30 nerth ceffyl yn y prif dwnel.
Driliau Niwmatig
Ond tueddu i lusgo ar ôl cyflwyno datblygiadau modern a wnai y
chwareli agored. Defnyddid ebillion llaw yn y Penrhyn hyd 1912
pan ddechreuwyd cyflwyno rhai niwmatig y flwyddyn wedyn.
Cysylltwyd mwy a mwy o gêr halio i lawer o'r inclenau
disgyrchiant wrth beiriannau trydan hefyd.
Peiriannau petrol a disl
Erbyn y 1930'au roeddynt yn cael gwared a peiriannau
rheilffyrdd stem, rhai ohonynt yn dyddio'n ôl i'r 1860'au, a
dechreuwyd defnyddio peiriannau petrol a disl yn eu lle. Sut
bynnag, troi yn erbyn y diwydiant llechi yr oedd y llanw.
|