
|
Awst 26, 1899, Y Cynffonwr.
|

|
Mai 19, 1900, Gwers i'r
Chwarelwyr. |

|
Mai 26, 1900, Dewis y
Chwarelwr. |
Dau ddiwrnod cynta'r Streic
|

|
Tachwedd 24, 1900 Yr
Helynt yn y Penrhyn. |
|

|
Rhagfyr 15, 1900, Gwahodd
a Gwrthod (neu osgo Mr. Young, Chwarel y
Penrhyn). |
|

|
Ionawr 19, 1901, Galw'r
Gwenyn i Gwch y Penrhyn.
|
Saith wythnos wedyn roedd y sefyllfa'n ddigon du
|

|
Mawrth 9, 1901, Y Cwmwl
dros Bethesda. |
Pum niwrnod wedi cyhoeddi fod y chwarel i ail agor ar Fehefin
11eg
|

|
Mai 25, 1901, Eisieu a
Dim Eisieu. |
Pedwar niwrnod wedi'r ail agor
|

|
Mehefin 15, 1901. Ffwlbri
Bethesda. |
|

|
Mehefin 22, 1901. "Punt y
Gynffon". |

|
Gorffennaf 27, 1901.
Cyfeiriad at yr helynt cyfreithiol cyntaf rhwng Arglwydd Penrhyn
a W.J.
Parry. |
Galw 250 o filwyr i mewn i "gadw trefn"
|

|
Awst 24, 1901. Siwrne Seithug Bethesda.
|
|

|
Rhagfyr 28, 1901. Rwan
eich Arglwyddiaeth, cytunwch. |
Yna cafwyd terfysgoedd Nos Galan, 1900 pan arestiwyd saith ar
hugain, gyda Phenrhyn a Young yn cerdded drwy stryd fawr Bethesda
y diwrnod wedyn. Ceisiodd y Cyngor Sir ddod i gyflafareddu ym
mis Chwefror 1902. Cynhaliwyd cyfarfodydd gyda chynrychiolwyr y
gweithwyr, ond gwrthododd Young wrando ar bob ymgais. Daeth
heddwch i Dde Affrica ond ddim i Fethesda. |
|

|
Awst 2, 1902. Haws yw
terfynu Rhyfel De Affrica na Rhyfel Bethesda |
Erbyn hyn cododd rhif gweithlu'r chwarel i 700, gyda'r mwyafrif
llethol o'r pentrefi cyfagos. Daliai Bethesda yn gadarn o hyd.
Ond gyda 2,000 o weithwyr allan, teimlid y tyndra. Torrodd
helyntion allan drachefn ym mis Medi. Ddiwedd y mis, cytunodd yr
Arglwydd Penrhyn gyfarfod efo dirprwyaeth o'i weithwyr, cyn
belled na fyddai y pwnc o bwyllgor y gweithwyr yn cael ei godi.
Yna, newidiodd ei feddwl. Ni fu cyfarfod. Ymatebodd Papur Pawb
gyda chartwn deifiol.
|

|
Hydref 4, 1902. Wrth Lyn Bethesda.
|
Ni ddaeth yr un angel i hwbio ei Arglwyddiaeth. Gofynnwyd i'r
Bwrdd Masnach gamu i mewn a chychwynodd Penrhyn achos o enllib
llwyddiannus yn erbyn W.J. Parry. Ar ran ei Arglwyddiaeth,
cytunodd ei gyfreithiwr drafod drachefn a chafwyd mesur helaeth o
lwyddiant. Mewn gobaith, ymddangosodd y cartwn nesaf.
|

|
Mawrth 24, 1903. Yn Methesda.
|
Ond rhith oedd unrhyw wawr a diswyddodd Penrhyn ei
gyfreithiwr. (Mae stori gryf yn dal ym Methesda fod Penrhyn wedi colli'r awenau erbyn
hyn, ar ôl rhoi cymaint o ryddid i Young.) Ai Young oedd yn
gyfrifol dros ddylanwadu ar Penrhyn i newid ei feddwl ym Medi 1902
ac ym Mawrth 1903 tybed? Ac os oedd cwmni Turquand Young wedi
bethyca arian ym 1886 i gadw'r chwarel i fynd yn ei blaen, byddai
hynny yn cryfhau'r afael.
Ac yna, o'r diwedd, cododd William Jones, yr aelod seneddol
lleol yr achos yn y Senedd mewn cyfnod oedd wedi clywed nifer o
weithwyr yn datgan eu hanfodlonrwydd gyda'u cynrychiolydd
Rhyddfrydol, ac yn galw am ddewis aelod Llafur.
|

|
Mai 23, 1903. Zabulon ar William Jones.
|
Apeliodd Pwyllgor y Gweithwyr am gyflafareddiad, ond nid oedd
unrhyw symud bellach gyda Phenrhyn a Young yn synhwyro
buddugoliaeth. Breuddwydion a straeon yn unig oedd yn aros.
|

|
Mehefin 20, 1903. Moel
Faban. |
Llusgodd y Streic ymlaen, gyda chwerwedd yn dod i'r wyneb fwy
fwy. Yn hwyr ym mis Medi terfynodd Ffederasiwn Gyffredinol yr
Undebau Llafur eu taliadau streic i'r gweithwyr a chyhoeddi
ddechrau Hydref eu bod yn ystyried fod yr holl anghydfod drosodd.
Adlewyrchwyd hyn ddiwedd Hydref.
|

|
Hydref 24, 1903.
Bethesda. |
|
Ar Dachwedd 7, o 192 pleidlais i 161 fe benderfynodd y
gweithwyr ddychwelyd i geisio lle yn y chwarel. Roedd y frwydr
drosodd, ond go brin fod golygfa gartwn olaf Papur Pawb wedi
digwydd.
|

|
Tachwedd 21, 1903. Helynt
y Penrhyn. |
|
Fe gymerwyd rhai yn ol
fesul un ac un. Erbyn diwedd y flwyddyn edrychai Bethesda fel
anialdir, dim gwaith, dim undeb, dim arian... Cauodd y farchnad
wythnosol ar ddydd Sadwrn, tyfodd tlodi a chauwyd yr ysgolion
oherwydd haint. Diferai y dynion yn ôl fesul un ac un, ond nid
oedd gwaith i dros 1,000 o ohonynt. Creithiwyd Bethesda a'r ardal
i'r asgwrn ac hefyd yr holl ddiwydiant llechi. Gyda'r chwarel wedi
bod ar gau i bob pwrpas am dair blynedd, collwyd marchnadoedd a
daeth cwmniau tramor i lenwi'r gwagle. Yn y pen draw, ni enillodd
neb. Dioddefod yr Arglwydd Penrhyn yn ariannol a rhaid fu gwneud toriadau sylweddol. Dirywiodd ei iechyd (ac iechyd E.A. Young
hefyd.) Claddwyd Penrhyn yn Wicken ym 1907 ac Young yn Llandygai
bedair mlynedd yn ddiweddarach. Wyth mlynedd wedyn, derbyniodd
perchnogion y chwareli llechi hawliau'r undeb. Fu Bethesda byth
yr un fath a pharhaodd y cyni drwy flynyddoedd y Rhyfel Mawr a'r
Dirwasgiad. |