Hanes Chwarela - Y Chwyldro Diwydiannol
Bethesda
Sefydlwyd trefn newydd ar stad y Penrhyn ym 1782 pan
etifeddodd Richard Pennant (1737?-1808) yr Arglwydd Penrhyn
cyntaf eiddo ei dad. Sicrhaodd brydlesi gan y Goron ac Esgob
Bangor i adeiladu glanfa ym Mhorth Penrhyn (Aber Cegin).
Croesodd ei feddwl i ddefnyddio llechi i doi adeiladau ar ei eiddo yn
Jamaica yn ogystal. Galwodd hanner cant a phedwar o hen brydlesi ei
denantiaid i mewn a chymryd gofal o'r holl fusnes i gyd ei hun. Yn
fuan roedd dwsin o longau yn hwylio'n fisol gyda llwythi o lechi
i Lerpwl gyda llongau eraill yn hwylio ymhellach, nid yn unig efo
llechi toi ond hefyd slabiau mawr ar gyfer cerrig beddau a
slabiau llai ar gyfer palmantu. I hwyluso symud y llechi o Chwarel Penrhyn i Borth Penrhyn
adeiladawyd ffordd haearn geffylau ym 1801. Ond cyfnod o densiwn
cymdeithasol mawr oedd hwn.
Terfysg yng Nghaernarfon
Ar Dachwedd 7fed a'r 8fed, 1800 gorymdeithiodd tua 150 o
chwarelwyr y Penrhyn i Gaernarfon gan ymosod ar storfa yd y dref.
Ddiwedd Ionawr 1801 roedd straeon o bob math yn y gwynt ond yn
bennaf fod cynllwyn yn bodoli rhwng glowyr Fflint a Dinbych â
chwarelwyr Bethesda i ymosod ar wahanol ganolfannau. Adroddid fod
y chwarelwyr wedi cynhyrchu 400 o bicellau yn ddirgel yn y
chwarel. Ar ben hyn lledaenwyd stori fod dau ysbïwr wedi bod o
gwmpas mannau penodol yn siroedd Môn a Chaernarfon yn bwgwth
clerigwyr, ynadon a thirfeddianwyr.
Penderfynwyd ar Ionawr 26ain i wneud cais am filwyr i ddod o Gaer
i gadw'r heddwch. Penderfyniad a fu'n dra dadleuol yng
Nghaernarfon. Taenwyd y stori fod 400 o chwarelwyr y Penrhyn yn
barod i wrthryfela. Anfonwyd tri chwmni o ddragwniaid i Ddinbych,
Treffynnon a Chaernarfon.
Yn y cyfamser erbyn dechrau'r mis bach cynyddodd y dyrfa a oedd
yn mynd i ymosod ar Gaernarfon i 2,000.
Ni fu ymosodiad o unrhyw fath a dechreuwyd galw ar y
dragwniaid i adael y dref erbyn Chwefror 12fed, er fod rhai o'r
trefwyr blaenllaw yn dra anfodlon i hyn ddigwydd. Galwyd ar y milwyr i aros, ond erbyn Chwefror 18fed roeddynt wedi gadael.
Llanberis
Cloddio dan yr hen drefn a wneid ar stad y Faenol hefyd ym
1771, gyda'r tenantiaid yn talu rhent mewn enw'n unig i'r
meistr tir. Un mlynedd ar bymtheg yn ddiweddarach sylwodd dau
gyfreithiwr a'u partner ar ddulliau rheoli Richard Pennant. Y
flwyddyn wedyn, 1788 gwelwyd Chwarel Dinorwig yn dod i fodolaeth
gan lyncu nifer o chwareli llai. Cynyddodd elw stadau'r Penrhyn
a'r Faenol yn sylweddol, ac ym 1809, cymerodd Thomas Assheton
Smith (1758-1828) holl fusnes cloddio ar stad y Faenol i'w ddwylo
ei hun. Nid oedd cytuno ar brydlesi, na thrawsfeddiannu'r tir
comin yn boblogaidd gan ei denantiaid. Ni hoffent roddi heibio eu
hen hawliau i gloddio, ac ym 1809, pan ddatgelodd Assheton Smith
ei fwriad i fesur tir comin Llanddeiniolen, bu gwrthryfel a
arweiniodd i ddarllen y Ddeddf Derfysg. Mesurwyd ac amgauwyd y
tir comin ac ym 1831, agorwyd ffordd haearn i gysylltu y chwarel
efo'r lanfa newydd ym Mhorth Dinorwig (Y Felinheli.)
Nantlle
Cymerodd datblygiadau yn Nantlle lwybr ddigon tebyg ond efo
tro rhyfedd yn ei gynffon. Bu'r Goron yn ddigon bler o'i heiddo
a'i thiroedd yn ystod y ddeunawfed ganrif. Cafodd Syr John Wynne,
(1701-74) o Lynllifon yr hawl i gloddio am lechi a mwnau mewn
wyth o blwyfi. Ar ei farwolaeth, apeliodd Syr Thomas Wynne, yr
Arglwydd Newborough cyntaf (m. 1807) am yr un prydlesi, ond yn
ofer. Yn y cyfamser roedd chwarelwyr wrthi'n brysur yn cloddio ar
eu liwt eu hunain ac yn ceisio cynhyrchu cymaint o gerrig a Chwarel y
Penrhyn. Apwyntniodd y Goron asiant newydd o'r enw
Robert Roberts, o Gaernarfon i arolygu tir diffaith a thir comin
pedwar o'r plwyfi yr oedd Newborough yn ceisio adnewyddu'r
prydlesi arnynt yn ogystal a chwech plwyf arall. Felly, dechreuodd Roberts osod bargeinion dros y Goron i chwarelwyr ym
1791-92. Pan glywodd Arglwydd Newborough am hyn hawliodd yntau
chwareli'r Cilgwyn, a gorchymyn drwy asiant y stad nad oedd yr un
chwarelwr i dalu rhent eto i asiant y Goron, ac ar ben hyn hefyd,
lledaenu stori nad oedd gan y Goron yr un hawl o gwbl ar Chwarel
Cefn Du. Llusgodd y miri ymlaen hyd Ebrill 1800 pan fodlonwyd y
Goron o leiaf ar ei hawliau. Sefydlwyd Cwmni Llechi Cilgwyn a
Chefn Du, ond daliodd Newborough i gefnogi hawliau chwarelwyr
unigol yn arbennig a hawlio arian trespas. Nid oedd yr anghydfod
wedi ei dawelu hyd o leiaf 1834. Llusgai ymlaen yn ddi-ddiwedd.
Yn y cyfamser roedd Chwarel Tal-y-sarn wedi cychwyn ym 1802,
Chwarel Dorothea ym 1829 a Chwarel y Fron ym 1830.
Lladron Plas y Cilgwyn
Prynwyd Chwarel Dorothea ym 1835 gan Sais o'r enw
Muskett. Prynwyd offer a pheiriannau newydd costus i
godi'r wageni o'r twll. Ond gwariwyd gormod ac ymhen ychydig
flynyddoedd aeth Muskett yn fethdalwr. Cauwyd y chwarel gyda thri mis o gyflog
yn ddyledus i'r mwyafrif o'r chwarelwyr. Gwylltiodd y gweithwyr yn enwedig o gofio fod Muskett wedi adeiladu cartref
moethus iddo'i hun - Plas y Cilgwyn.
Yn eu dicter dyma ymosod ar y plas a'i chwalu'n llwyr. Canwyd
baled am yr achlysur.
Blaenau Ffestiniog
Cymerodd arian Seisnig lawer mwy o le yn natblygiad y
diwydiant ym Meirionnydd nag yng ngweddill Gwynedd, a buddsoddwyd yma gan wyr fel
William Turner o swydd Gaerlyr, y Cassoniaid, a theuluoedd Holland a
Greaves yn cymryd rhannau blaenllaw. Cychwynnwyd Chwarel yr
Oakeley ym 1818, (cloddfa a ddatblygodd i fod y chwarel lechi
danddaearol fwyaf y byd, gyda thros hanner can milltir o
reilffyrdd o dan y ddaear) Chwarel Diffwys ym 1765, Bowydd ym
1801 a Manod ym 1805. Roedd William Turner yn gweithio yn Chwarel Clogwyn y
Fuwch, yn yr 1790au hwyr. Yn 1799 pan oedd ar fin hwylio ar long yng
Nghonwy, clywodd fod Chwarel Y Diffwys, Blaenau Ffestiniog ar werth. Penderfynodd drio ei lwc
yno ac ymunodd a William a Thomas Casson, teulu arall o Seathwaite, i gynnig am
y chwarel a llwyddwyd i'w phrynu am £1,000 - bargen yn wir. Bu
William Turner yn gysylltiedig a llu o chwareli yn ddiweddarach. Yn 1818,
clywodd Smauel Holland hynaf (1768-1851), masnachwr o Lerpwl, a oedd wedi cael
les ar chwarel Cefn Du, fod rhagolygon am chwarel yn Rhiwbryfdir, a llwyddodd i
gael tacnot tair blynedd oddi wrth W.G. Oakeley, Tanybwlch. Yna yn 1821,
llwyddodd i gael les llawn ar y chwarel ac anfonodd am ei fab Samuel
Holland ieuaf i ddod i oruchwylio y chwarel drosto. Ffynnodd Chwarel Y Rhiw, ac
yn 1825 gwerthwyd hi i'r Welsh Slate and Copper Company am £28,000.
Achosodd y Rhyfel gyda Ffrainc o 1793 ymlaen gryn broblemau
i'r diwydiant llechi, fodd bynnag. Aeth y diwydiant adeiladu i
gyfnod o ddirwasgiad, hanerwyd yr allforion o Borth Penrhyn a
rhoddwyd treth ryfel o 20% ar lechi a oedd yn rhan o'r fasnach
arfordirol. Bu gwelliant yn yr hinsawdd economaidd ym 1801 yn
dilyn cytundeb heddwch Amiens ac hefyd wedi Brwydr Trafalgar ym
1805.. Erbyn 1809, allforid llechi'r Penrhyn i Boston, talaith
Massachusetts unwaith eto.
Roedd gan yr ail Arglwydd Newborough chwarel ger Ffestiniog
hefyd, chwarel Bowydd, a ddechreuodd gynhyrchu ym 1801. Ni
roddodd fawr o arian i mewn i'r fenter a chymerwyd hi drosodd gan
ei frawd ym 1823. Bedair mlynedd yn ddiweddarach, John Roberts,
Caernarfon oedd yn ei rhedeg. Ym 1834 daeth John Whitehead
Greaves (1807-80) o deulu o Grynwyr yn Radford, swydd Warwick
i mewn i'r stori ac Edward Shelton ei bartner. Gadwodd Greaves ei
gartref am Gaernarfon. Ei fwriad gwreiddiol oedd ymfudo i Ganada.
Am ryw reswm fe newidiodd ei feddwl a ffurfio partneriaeth gyda
Shelton, tir feddiannwr cefnog o swydd Caerwrangon. Penderfynodd y
ddau gymryd William Griffith Oakeley, Plas Tanybwlch atynt fel
partner hefyd. Arwyddwyd prydlesi am un mlynedd ar hugain ym 1835
am chwareli Glynrhonwy, Bowydd a Foty. Y flwyddyn ddilynol roedd
y rheilffordd rhwng y Blaenau a Phorthmadog wedi ei gorffen ar ôl
maith gynllunio. Ond bu Shelton farw ym 1848 gan adael Greaves
yn brin o arian parod, gan ei fod yn gwario mwy ar chwareli ym
Mlaenau Ffestiniog na dderbyniai o Chwarel Glynrhonwy. Beth
bynnag, llwyddodd i ddatblygu Chwarel Maenofferen ac yn ddiweddarach tarodd ar
wythïen yr `Hen Lygad', yn Chwarel Llechwedd.
Dechreuwyd gweithio yn y Gloddfa Ganol ym 1825, y flwyddyn y bu anghydfod rhwng y Goron a
William Griffith Oakeley
dros hawliau. Aethpwyd i'r llysoedd lle enillodd Oakeley'r achos.
Dechreuodd Nathaniel Rothschild (1812-1870) yr Iddew Mawr,
weithio Chwarel y Moelwyn ym 1826 a dechrau cynllunio llwybr
rheilffordd i Borthmadog. Dechreuwyd gweithio yng Nghwt y Bugail
hefyd ym 1835.
Corris ac Abergynolwyn
Datblygodd y diwydiant hefyd yn ne'r sir, yn ardal Corris. Bu
chwarel yn gweithio yn Aberllefenni ers o leiaf 1500 mae'n wir,
ond dechreuodd y diwydiant gael ei draed oddi tano o ddifrif yn y
Gaewern ym 1820, Braich Goch tua 1830 ac Abergynolwyn tua 1847.
Cludid y llechi o'r chwareli ar Reilffordd Tal-y-llyn wedi 1865.
Adeiladwyd rheilffordd yng Nghorris hefyd i gludo'r llechi.
Yn rhanbarth Môn bychan iawn oedd y diwydiant llechi. Rhan o
stad y Faenol oedd chwarel Trefarthen, Brynsiencyn oedd yn
gweithio yn y ddeunawfed ganrif. Rhan o stad Baron Hill oedd y
chwareli bychain er ffin plwyf Llangefni a Llangristiolus. Rhan o
stad Baron Hill hefyd oedd Chwareli Llanfflewyn a Bodegri. Roedd
hon yn cynhyrchu cerrig mwsog ym 1864 a chymerwyd prydles newydd
allan arni a'r tir ffiniol ym 1875 gyda chaniatad i adeiladu cwt
injian, stordai, bythynnod i'r chwarelwyr, ffyrdd haearn, siafftiau, lefelydd ac aditiau. Ni
chyflawnwyd y breuddwyd.
Rhan o stad Llys Dulas oedd chwarel Llaneilian, a ddechreuodd
gynhyrchu ym mis Chwefror 1870 gan gwmni wedi ei sefydlu gan wyr
o Swydd Efrog a Manceinion. Er cael rhagolygon disglair gan ddau
archwilydd o chwareli llechi Sir Gaernarfon a chyflogi John
Hughes, o Chwarel Dinorwig yn rheolwr, ni sylweddolwyd y
breuddwydion. Rhoddwyd heibio'r cynllun i greu 'Porth Dinorben' i
allforio'r llechi erbyn 1872 gan ddefnyddio troliau i gario'r
cerrig i Borth Eilian. Darganfuwyd gwythien o gopr yn yr un
flwyddyn ac ym 1873 cychwynwyd ar gloddio lefel arall. Erbyn hyn
daeth y gwerthu cyfranddaliadau i ben. Gofidid hefyd nad oedd lle
cyfaddas i adeiladu siediau a pheiriannau i drin y llechfaen.
1,940 o lechi o'r ansawdd gorau |
480 o lechi ail ddosbarth |
2,700 o gerrig mwsog |
Hyd at Fehefin 1873 cynhyrchwyd 1,940 o lechi o'r ansawdd
gorau 480 o lechi ail ddosbarth 2700 o gerrig mwsog
Erbyn Mehefin 1875 roedd y banc yn gwasgu am arian ac o weld y
sefyllfa yn ddu cyhoeddodd y banc y dylid dirwyn y cwmni i ben.
Gyda rhyw ychydig o ffydd yn aros caniatawyd i'r cyfarwyddwyr
fenthyca £3,000. Gwastraff arian llwyr oedd hyn oblegid daeth yr
holl weithio i ben ym mis Mehefin 1877 a dirwynwyd y cwmni i ben
ym mis Awst 1878.
Trefi, pentrefi a phorthladdoedd newydd
Cafodd yr holl weithgarwch yma effaith sylfaenol ar economi y
rhan wledig yma o Gymru. Gwelwyd dyblu poblogaeth rhai ardaloedd
ac hyd yn oed treblu rhai rhwng 1800 a 1840. Daeth trefi a phentrefi
newydd i fod. Cododd nifer o chwarelwyr gapel wrth ymyl eu lle
gweithio a'i alw'n 'Bethesda,' ar ôl y llyn iachusol wrth borth y
Deml. Daeth yn arferiad cyffredin i alw pentrefi oddi wrth enwau
capeli, a dyna sut y daeth Cesarea, Ebenezer, Carmel, Saron, Nebo
a Nasareth i fod. Codwyd mwy o dai, mwy o gapeli a thafarnau.
Erbyn 1881, cynyddodd poblogaeth plwyf Llanllechid, a oedd yn
cynnwys Bethesda o 1,332 ym 1801 i 8,291. Yr un modd cododd
poblogaeth plwyf Ffestiniog o 732 ym 1801 i 11,274 ym 1881.
Gwneud arian fel mwg
Datblygodd y diwydiant yn gyflym eithriadol felly rhwng 1831 a
1882. Gyda phoblogaeth Cymru a Lloegr yn codi o 8.8 miliwn ym
1801 i 29.9 miliwn ym 1881, ac er gwaethaf y ffaith fod y
diwydiant adeiladu yn syrthio i gyfnodau o ddirwasgiad yn
rheolaidd, fe gododd cyfansymiau y llechi toi a gynhyrchid ar gyfartaledd.
Gorffenwyd rhwydwaith y camlesi ac er nad oedd fawr
o gamlesi yng Nghymru, fe syrthiodd costau cludo nwyddau. Yn wir,
hyd nes iddynt ddechrau adeiladu rheilffordd Caer a Chaergybi ym 1844,
nid oedd yr un llathen o reilffordd yn y gogledd. Ond gyda
rheilffyrdd preifat o'r chwareli i'w porthladdoedd allforio,
gwelwyd trefi fel Porthmadog yn datblygu. Poblogaeth Ynys
Cynhaiarn, sef plwyf y Port ym 1801 oedd 525. Cododd i 5,506
erbyn 1881. Cododd cyfanswm y llechi o'r Blaenau a allforid
drwyddo o 18,113 tunnell ym 1835 i dros 600,000 ym 1882. Yn wir
disgrifiwyd y Blaenau gan un gohebydd papur newydd fel `Dinas y llechi' a'r mwd ar y ffyrdd hyd yn oed o liw glas y llechen.
Erbyn hyn, roedd y diwydiant llechi wedi hen sefydlu a hawlio
ei le yn ardal Llanberis hefyd. Cyfanswm chwarelwyr Dinorwig ym
1843 oedd 1,900. Ym 1873 roedd wedi codi i 2,850. Ni allai'r
ffordd haearn wreiddiol ddelio efo'r holl lechi a symudid i lawr i
borthladd Y Felinheli a rhaid fu agor rheilffordd newydd gyda lled 4 troedfedd iddi
hi ger Llyn Padarn. Adeiladwyd gweithdai chwarel
newydd hefyd gan Gwmni De Winton, Caernarfon ym 1870 a oedd yn
cynnwys pedwar gweithdy a wynebai ei gilydd a chreu iard fawr
gyda chloc hardd uwchben y fynedfa. Yn y pen pellaf fe godwyd
olwyn ddwr fawr, yn ail o ran maint i Olwyn Ddwr Laxey yn Ynys
Manaw, a defnyddiwyd hon i droi holl beirianwaith y gweithdai hyd
1925 pan gafwyd olwyn Pelton. Ceid hyd yn oed ffowndri i
gastio ac adnewyddu darnau haearn.
Ail adroddwyd yr un llwyddiant yma ym Methesda, gyda chwarel y
Penrhyn yn cyflogi tua 3,000 o chwarelwyr ym 1869 a chynnyrch
blynyddol o 93,000 tunnell. Gostyngodd y gweithwyr i 2,809 ym
1882 ond roedd y cynnyrch blynyddol wedi codi i 111,166 tunnell
o'i gymharu ag 87,429 tunnell yn Ninorwig. Adeiladwyd a
datblygwyd Porth Penrhyn i allfori o'r cynnyrch.
Gall rhai o'r eitemau yn y rhan Oriel ac Adnoddau fod yn
ffeiliau sydd angen amser i'w trosglwyddo. Pan rowch y cyrchwr
dros lun yr eitem isod medrwch weld maint y ffeil os yw'r ffeil
yn fwy na 40Kb.
|