Cyflogau, Streiciau a Safon Byw - Rheolaeth
Chwareli
Trosglwyddo grym yn y Penrhyn
Cyflwynodd
yr 'hen lord' weinyddiaeth Chwarel y Penrhyn i'w fab ym 1885.
Cychwynodd helbul yno oherwydd cyfarfod i alw am Ddatgysylltiad
yr Eglwys Wladol. Bu helynt yn y cyfarfod a phenderfynodd aer y
Penrhyn drwy ei gyfreithwyr geisio darganfod pwy o'i weithlu oedd
yn cymryd rhan. Ni lwyddwyd i adnabod neb ond hysbyswyd y
gweithwyr gan yr aer y byddai unrhyw weithgaredd o dor-cyfraith
yn arwain i ddiswyddiad yn syth. Dilynwyd hyn gan lythyr pellach
yn ymwrthod a chytundeb Pennant Lloyd a ddyddiai yn ôl i 1874, dan yr esgus fod
cyflwr y fasnach lechi yn ei gwneud yn
amhosibl i dalu yr isafswm cyflog a gytunwyd arno y flwyddyn
honno. Ar ben hyn, cyhoeddodd fod pob cwyn sylweddol i'w gwneud
i'r prif reolwr, a'i fod hefyd yn gwrthod derbyn yn llwyr hawl
neb, boed unigolyn na gynrychiolwyr i ddod rhwng y perchennog
a'i weithwyr. Ei esgus dros hyn oedd i sicrhau fod hawliau unrhyw
weithiwr nad oedd yn undebwr yn cael eu parchu. Anfonwyd llythyr
o brotest ato gan dri undebwr a thri nad oedd yn undebwyr. Ei
ymateb oedd diswyddo y tri undebwr. Gwir iddynt gael eu hail
gyflogi ddeufis yn ddiweddarach, ond roedd y drwg deimlad a
fyddai'n deor am flynyddoedd eisioes wedi cychwyn.
Dyfodiad y dyn o Lundain - 1886
Wrth i'r hen Lord heneiddio mae'n amlwg ei fod yn colli gafael
ar reoli'r chwarel yn effeithiol. Cymerwyd lle Arthur Wyatt fel
prif reolwr gan Emilius Alexander Young. Aelod o gwmni
Turquand, Young a'u Cwmni oedd E.A. Young, cwmni o fenthycwyr arian a'i dad, Alexander Young,
yn un o'r cyfarwyddwyr. Nid oes unrhyw amheuaeth am ei allu fel cyfrifydd. Ar ben hyn, roedd ef
a'i feistr ar yr un donfedd. Sicrhau ei hawliau dros ei chwarel
a'i weithwyr oedd dymuniad yr ail Arglwydd Penrhyn, ac i Young
roedd hyn yn mynd law yn llaw efo busnes llwyddiannus. Seliwyd
partneriaeth a fyddai yn gwneud Bethesda a Chwarel y Penrhyn
yn faes brwydr Waterloo y byd chwarelyddol. Ac am gyfnod byr fe ddaeth
gair newydd i'r iaith Saesneg Penrhynism cyn iddo gael ei
ddisodli gan Kaiserism ac yna gan Hitlerism. Ond gan mai enw
E.A.Young a welid ar ddiwedd pob poster yn streic 1895-96 a'r
Streic Fawr o 1900-03, ef oedd yr un a gasheid mewn dull calonog
a thrylwyr. Ac yn y pen draw, ni ellir ond dod i'r casgliad i'r
ail Arglwydd Penrhyn gael clust astud, yn llawn cydymdeimlad yn
Emilius Alexander Young. Ond a yw'r sefyllfa mor glir tybed? Oblegid erbyn heddiw, mae tystiolaeth yn dod i'r amlwg mai Young
oedd y tu ôl i lawer o'r hyn a ddigwyddodd, a bod ganddo
'afael' dros yr ail Arglwydd Penrhyn.
Deil cof gwlad ym Methesda iddo gael ei gladdu ganol nos. Nid
yw hyn yn gywir, oblegid fe gariwyd Young ar ei daith olaf ar brynhawn
Sadwrn heulog ym mis Medi. Swyddogion Porth Penrhyn a'r Chwarel,
ynghyd a chlerigwyr Anglicanaidd (ac ambell Ryddfrydwr Chwigaidd)
oedd y galarwyr. Ni adroddwyd yn y wasg fod chwarelwyr y Penrhyn
yno yn galaru. Ac yn rhyfedd iawn ymddengys na roddwyd carreg ar ei
fedd ychwaith. Ganrif a mwy yn ddiweddarch, rhaid gofyn pam mai
enw E.A. Young fel prif reolwr oedd ar derfyn pob poster a ddeuai
o'r chwarel ar ôl 1885?
|