|
Cymunedau - Cartrefi;
Datblygodd trefi a phentrefi llewyrchus
yn sgil twf y diwydiant llechi, ac erbyn y
1850'au rhaid fu sefydlu Byrddau Lleol, e.e.
Bethesda ym 1854. Erbyn y flwyddyn honno
roedd 1242 o dai yno gyda 60 siop a 27
tafarn ar y Stryd Fawr. Cyfanswm y dynion a
drigai yn y pentref oedd 3011 a chyfanswm y
merched ond yn 1744. Ffurfiwyd cymdeithasau
adeiladu lleol hefyd i alluogi chwarelwyr i
fenthyca i brynu ty. Bodlonai eraill wrth
gwrs ar dalu rhent. |
 |
Ar dir comin y
codwyd pentref Rhosgadfan, a phan ddechreuodd pobl weithio yn y chwarei, caeasant ddarnau o'r comin i mewn i adeiladu eu tai, y
cabanau unnos i fyw ynddynt...140 o dai a thri chapel yn Rhostryfan
erbyn y flwyddyn 1826... Am y tai, tai bychain iawn oeddynt, tai
unllawr o gegin, ty llaeth neu gilan, dwy siamber a'r gegin, ond
newidiwyd hynny a gwneud pared o goed neu o gerrig. Simdde fawr a oedd
iddynt a'i lled yn yn ddigon helaeth i gadair freichiau. Nid wyf fi'n
ddigon hen i gofio'r lle tân hen ffasiwn na'r llawr pridd, ond
gadawsid y twll mawn o dan y simdde fawr yn fy hen gartref i heb ei
orchuddio, ac yr oedd yn lle hwylus i eirio dillad. Erbyn fy amser i
yr oedd grât a phopty bach ar un ochr iddo, a boiler a feis i dwymo
dwr poeth ar yr ochr arall. Wrth ochr y boiler yr oedd popty mawr a
ymestynnai gryn lathen neu ragor i'r wal, a lle i roi tân odano. Âi
cryn dipyn o lo i dwymo'r popty, ond wedyn gellid rhoi nifer da o fara
i mewn, ac wedi i'r popty dwymo, ni fyddai eisiau llawer o lo arno
wedyn.' |
(Y Lôn Wen, tud 26-27)
|
|
|
A 'doedd yno ddim ty gwerth i chi ei
alw'n dy yr adeg honno... Dim ond rhyw bedair wal a tho gwellt oedd ty
yr adeg honno, tôn mawn ar lawr, a dau wely wenscot a'u cefnau at i
gilydd a'u talcenni at lawr y gegin. Pan
fyddai corff yn y ty 'roedd yn rhaid i chi gysgu yn yr un fan â'r
arch.' |
(Traed mewn Cyffion, tud 21-22)
|
|
Cadw tyddyn a gweithio yn y chwarel hefyd
oedd y drefn i lawer iawn.
|
'Yn ei meddwl ei hun yr oedd yn
berffaith sicr bod gweithio
yn y chwarel a chadw tyddyn yn ormod o waith. Ond beth oedd i'w wneud?
Gwyddai ddigon, drwy glywed, am y chwareli i wybod mor ansicir oedd y
cyflog, ac yr oedd yn beth braf iawn bod mewn llawnder o laeth a
menyn. Poenai un peth hi'n fawr, a hynny oedd cyflwr y ty. Y gegin
lle'r oeddynt yn byw oedd yr unig ystafell glyd ynddo. Yr oedd y
siamberydd, yr un gefn yn enwedig, yn llaith ac yn hollol afiach i neb
gysgu ynddi. Rhedai'r lleithder i lawr y parwydydd gan ddifetha pob
papur, a disgynnai diferion dwr o'r seilin coed ar y gwely adeg rhew a
barrug. Fe hoffai gael adeiladu darn newydd wrth yr hen dy, fel y câi
gegin orau a dwy lofft o leiaf. Yr oedd digon o gerrig ar dir y Ffridd
Felen i adeiladu darn felly, a byddai cael gwared o'r cerrig yn lles
i'r tir yntau. Ond byddai'n rhaid i Ifan eu saethu, a golygai hynny
fwy o waith byth iddo.' |
(Y Traed mewn Cyffion, tud 25-26)
|
|
Gwragedd
Chwarelwyr.
Am ryw reswm nid oedd gan
O.M. Edwards air da i wragedd chwarelwyr
Arfon. Wrth deithio ar y tren i lawr am
dde Cymru tua 1891
`Yr oedd yno
wraig chwarelwr , yn mynd ar ol ei gwr i'r gweithydd, a chwaer iddi, a
phedwar o blant. Yr oedd y plant y pethau mwyaf gwinglyd a welais
erioed...Dywedasant eu bod yn mynd i fyw i Forgannwg am byth, ac yn
gadael Arfon...paham y mae gwragedd chwarelwyr yn aml mor grand eu
gisg, a phaham y mae eu crandrwydd mor ddichwaeth. Yr oedd gwisgoedd y
ddwy wraig hyn yn dangos dau beth sy'n wrthun iawn gyda'i
gilydd,-balchder gwisg a thlodi gwisg. Yr oeddynt wedi cael dillad o'r
toriad newyddaf ar hyd y blynyddoedd diweddaf, a phob toriad yn
berffaith afresymol; yr oeddynt wedi cymysgu gwahanol ffasiynau,heb
ymgais at drefn a chwaeth; ac yr oedd y dillad crand wedi mynd yn
shabby iawn. Ewch i gynulleidfa o chwarelwyr yn Arfon ar y Sul, a
gallech dybied mai mewn cynulleidfa ffasiynol ym Mharis yr ydych;
cerddwch drwy'r pentre ar fore dydd Llun, a thybiwch eich bod yn
cerdded drwy ran isel o Lunden, lle mae pawb wedi cael eu dillad o siop
ail law,' |
(Tro i'r De, O.M. Edwards, tud 61-63.)
|
|
|
|
|
|
|
|