Cymunedau - Difyrrwch
Gwgu ar gemau a difyrion o unrhyw fath a wnai
anghydffurfiaeth y cyfnod. Ond gyda sefydlu'r Ysgolion
Canolraddol yn y blynyddoedd yn dilyn 1889 fe ddaeth peldroed yn
'barchus' a ffurfiwyd timau lleol a chwaraeai mewn cyngrheiriau.
Ffurfiwyd timau peldroed mewn rhai chwareli i gystadlu yn erbyn
timau chwarel arall
Ymddengys fod pysgota yn ymarferiad derbyniol a phoblogaidd.
Ffurfiwyd Clybiau Pysgota yn ardaloedd y chwareli. Yn wir roedd
pysgota mor boblogaidd ym Mlaenau Ffestiniog nes i'r chwarelwyr
greu ac enwi ugeiniau o blu pysgota gwreiddiol.
Pysgota a hela anghyfreithlon
Er mwyn sicrhau na fyddai pysgota anghyfreithlon yn digwydd
oddi mewn i furiau parc y Penrhyn, rhoddodd ar ail Arglwydd
Penrhyn ran o'r afon Ogwen i'r cyhoedd ei physgota. Trefnwyd fod
deuddeg o ymddiriedolwyr yn gyfrifol am roddi trwyddedau allan.
Ond ymddengys fod caniata tebyg wedi ei roi ar 2.75 milltir o'r
afon Cegin o'i tharddle hyd y clawdd ger y tir a amgauwyd. Daeth
hyn yn amlwg mewn achos llys ar Fehefin 5ed, 1900 gyda thri
chwarelwyr o Gaerllwyngrydd oedd ar streic.
O'r tri, un yn unig a ryddhawyd am ei fod yn cario gwialen
bysgota. Cafwyd y ddau arall yn euog o argauo un o isnentydd yr
afon a'u dirwyo i 20/- a 7/6 o gostau.
(Ceisiodd yr amddiffyniad brofi nad oedd gan y stad hawl ar yr
afon; gohiriwyd y ddedfryd am aythnos a chyflwynodd H.C. Vincent
ddogfen i brofi mai stad y Penrhyn oedd piau'r afon ers 1868. Ond
fel y cyfeiriodd D.J. Davies, y cyfreithiwr dros yr amddiffyniad,
nid oedd y dogfen wedi ei stampio!
Yr hen achos o'r stad yn hawl amheus ar dir tybed?
Cyhuddwyd Griffith a Richard Thomas o geisio lladd eogiaid yn
yr afon gyda cherrig, nepell o orsaf Abergwyngregyn a daeth eu
hachos o flaen y llys ar Awst 7fed, 1900. Fe'u cafwyd yn euog a'u
dirwyo i 10/- yr un a chostau.
Wyth mis yn ddiweddarach , ar Ebrill 4ydd, 1901 dirwywyd
William Jones a Griffith John Thomas o 2/6 yr un a chostau am
bysgota anghyfreithlon.
Bu dau achos o drespas gêm o flaen y llys yn ystod y cyfnod;
un yn erbyn David Parry ac Owen Owens a gyhuddwyd o fod ar Fynydd
Bwlchyffordd am wyth o'r gloch yr hwyr efo ci. Yn yr achos a
gynhaliwyd ar Fehefin 6ed, 1901 adroddwyd fel bod digon o
gwningod yno ond mai'r tir yma hefyd oedd tir magu grugieir gorau
stad y Penrhyn. Mynnai David Parry mai wedi dianc oddiar y llwybr
cyhoeddus yr oedd y ci, ac nad oedd ef na'i ffrind wedi gadael y
llwybr o gwbl. Ond tystiodd Robert Owen y gêmcipar iddo weld
David Parry yn hysio'r ci ac Owen Owens yn crwydro drwy'r grug.
Ond gan i amheuaeth gael ei daflu i ai Owen Owen ai peidio oedd
yn y grug cafodd ei ryddhau. Dirwywyd David Parry i 5/- a 5/6 o
gostau.
Efallai nad chwarelwr oedd William Davies neu Billy
Pentraeth a gyhuddwyd o flaen y Llys Bach ar Ebrill 3ydd,
1901 o fod ar mynydd am ddeg y bore efo pocedi llawn. Eu cynnwys
oedd tair rhwyd, pegiau a ffuret. Roedd ei drywsus a'i esgidiau
yn wlyb a phriddlyd.
Dirwywyd ef i 10/-, 8/6 o gostau a pythefnos o garchar.
Hawliwyd y rhwydi hefyd.
Nifer bychan o achosion o bysgota neu hela anghyfreithlon a
ddygwyd gerbron Llys bach Bangor yn y cyfnod dan sylw a dim ond
un achos o botsio. Ac roedd y gosb i 'Billy Pentraeth' yn
drwm.
Daethpwyd ag achos yn Llys Bach Betws y Coed ar Ragfyr 8fed,
1906 yn erbyn dau chwarelwr am botsio unwaith eto ar dir yr
Arglwydd Penrhyn. Cyhuddwyd Ellis a Michael Thomas o botsio ar
Ragfyr 1af.
Gwelwyd y ddau gan y cipar, ac aeth yntau i nôl y cwmstabl y
bore wedyn.O gyrraedd ty Michael Thomas gwelwyd dau lyrtshar, cwn
bach a dwy ffuret mewn cwt allan. Roedd trywsusau Ellis a Michael
Thomas yn wlyb hefyd.
Erbyn dyddiad y llys doedd dim golwg o Michael, felly Ellis
oedd yn y doc ei hun. Honnai iddo fod yn Chwarel Rhiw bach y bore
hwnnw ac mai dyna pam yr oedd ei drywsus yn wlyb. Tystiodd Annie
Jones ei ddyweddi i Ellis ei danfod gartref am chwarter wedi naw
ar y noson mewn cwestiwn. Tystiodd David Davies, Bryn Ifor fod y
ddau yn ei gartref ef hyd chwarter wedi naw ac i Ellis ddod yn ôl
i Fryn Ifor erbyn hanner awr wedi deg. Tystiodd merch David
Davies wedyn iddo weld Ellis yn cysgu'n dawel rhwng hanner awr
wedi unarddeg a hanner nos ac iddo adael am y chwarel am hanner
awr wedi pump y bore wedyn.
O fwyafrif penderfynodd y fainc daflu'r achos allan.
Felly yr oedd hela anghyfreithlon a pheth photsio yn digwydd
ymysg y chwarelwyr o bryd i'w gilydd.
|