Diwylliant - Bandiau Pres
Bandiau Pres.
Roedd i'r band pres le canolog ym mywyd cymdeithasol a
diwylliannol y chwarelwyr, nid yn unig y trefi a'r pentrefi chwarelyddol llechi ond ym
mhobman. Y band yn sicr oedd un o symbolau statws y chwarelwr. O ystyried yr ardal o'r Carneddau i'r Eifl yn unig bu bandiau
yn:
Tref/Pentref |
Nifer |
Tref/Pentref |
Nifer |
Bethesda/Penrhyn
Caernarfon
Pwllheli
Rhiwlas
Llanberis/Faenol
Deiniolen
Brynrefail
Carmel
Dolwyddelan
Garn Dolbenmaen
Baladeulyn
Y Groeslon
Dyffryn Nantlle
Cricieth
Trefor |
2
2
1
1
1
1
1
1
1
1
1
1
1
1
1
|
Bangor
Porthmadog
Pentir
Y Felinheli
Nant Peris
Llanrug
Y Waunfawr
Rhosgadfan
Penmachno
Beddgelert
Penygroes
Nebo
Llanllyfni
Sarn Mellteyrn |
3
1
1
1
1
1
1
1
1
1
1
1
1
1
|
Erbyn 1888 roedd bandio wedi dod yn fusnes mawr a cheid tua
40,000 ohonynt yng Ngwledydd Prydain. Erbyn y 1920'au, gostyngodd
y rhif i 9,500 ac i tua 4,000 erbyn 1988.
Gwir mai aelodaeth fechan oedd i lawer ohonynt, yn amrywio o
wyth i bymtheg. Ond band ydi band yn y diwedd. A lle bynnag
byddai dathliad neu orymdaith, byddai'r band ar y blaen.
Mae'n ddigon sicr mai'r band cyntaf i'w sefydlu oedd Band
Llanrug ym 1830, ac i Fand Deiniolen ddilyn yn fuan ar ei sodlau
tua 1835. Rhaid cofio y byddai'r bandiau yn newid eu henwau
hefyd. Adnabyddid Band Deiniolen wrth yr enwau, Llandinorwig, yna
Ebenezer, yna Llanbabo ac yna Cynfi ar wahanol adegau. A dyna
Fand Nantlle wedyn a gychwynwyd ym 1865 fel Band Penyrorsedd.
Ym mro'r chwareli y perchennog fyddai fel rheol yn gofalu am
bwrcasu offerynnau. Nid anarferol ychwaith fyddai i arweinydd
gael ei gyflogi gan y chwarel i hyfforddi'r chwaraewr. Yn wir,
erbyn y 1890'au roedd y prif fandiau, ambell un wedi cael yr hawl
i'r teitl 'Brenhinol' yn cystadlu'n llwyddiannus yng ngornestau
Belle Vue, Manceinion a phrif ornestau eraill yn yr ugeinfed
ganrif gan gynnwys yr Eisteddfod Genedlaethol a Phencampwriaethau
Gogledd Cymru. Ar gyfer cystadleuaeth fawr nid yn unig y gelwid am gymorth hyfforddwr proffesiynol
ond hefyd aelodau taledig o
Loegr i'r rhengoedd. Cofio hefyd, fod llwyddiant y
bandiau yn dibynnu ar lwyddiant y diwydiant llechi. Byddai
bandiau yn gallu dirywio hefyd ar adegau o ddirwasgiad.
Y Bandiau Brenhinol
Daeth Band y
Penrhyn yn Fand Brenhinol y Penrhyn yn dilyn ymweliad Victoria i
Gastell Penrhyn ym 1862.
Gwahoddwyd Band yr Oakeley, (sefydlwyd 1865) Blaenau
Ffestiniog i'r Bala ym 1889 i ganu i Victoria ar ei hymweliad
hanesyddol i'r fro. Brithid rhai o siopau y Bala gydag arfbeisiau
brenhinol anferthol yn fuan wedyn, a daeth y band yn Fand
Brenhinol yr Oakeley. Pan aeth y band i gystadlu yn Llandudno y
flwyddyn honno aeth 1,200 o gefnogwyr o'r Blaenau hefyd!
Cystadleuwyd ym Melle Vue am y tro cyntaf ym 1904, ac wedi
buddugoliaeth ym mhrifwyl Abertawe, 1907, fe'i cyfarchwyd fel
'The Champion Band of Wales.' Profwyd llwyddiannau tebyg gydol y
1920'au a'r 1930'au ac yn ystod Rhyfel 1939-45 fe'i gelwid yn
'Fand Hôm Giard.' Fe ail sefydlwyd yn llwyddiannus wedi'r
rhyfel fodd bynnag a dychwelodd lawer o'r hen fri.
Gwahoddwyd Band Nantlle i chwarae ar fwrdd llong i ddiddanu'r
Tywysog Albert Edward a rhai o'i deulu wrth iddynt hwylio heibio
ar yr iot frenhinol cyn dod yn Fand Brenhinol Dyffryn Nantlle. Yn
ei ddydd fe ystyrid Band Nantlle yn un o'r prif fandiau.
Yn ystod Streic Dinorwig 1885-86, bu Band Llanrug yn diddori'r
streicwyr. Byth ers 1871, G.W.D. Assheton Smith oedd eu noddwr.
Cawsant siwtiau newydd, capiau mawr blewog tebyg i gapiau'r
Gwarchodlu Cymreig, stafell ymarfer yn iard y Gilfach Ddu yn Chwarel Dinorwig, y set gyntaf o offerynnau arian i'r ardal
(gwerth £400) ac enw newydd, sef Band Arian Brenhinol Y
Faenol.
Helyntion streiciau a bandiau
Ond wedi blaenori a chwarae yng ngorymdaith eu cydweithwyr at
Graig yr Undeb ym 1885, cawsant orchymyn i ddod a'r cyrn yn ol
i'r stafell yn y chwarel a'u gadael yno. Wrth orymdeithio'n ol
yno fe'u perswadiwyd i ganu ymdeithgan neu ddwy drachefn.
Cymerodd Assheton Smith y cyrn oddi arnynt am byth, a'u cyflwyno
i ardal Llanberis, ond dan reolaeth y Faenol ac arweinydd o Loegr
ym 1886. Yn dilyn hyn, adroddir i'r band orfod benthyca offerynnau ar gyfer
cystadlu, ac er iddynt ennill, taflwyd hwy allan o'r gystadleuaeth am nad oedd y band yn defnyddio ei
offerynnau ei hun.
Diwrnod mawr i'r Bandiau, wrth gwrs, oedd Dydd Gwyl Lafur, ac
nid anarferol fyddai gweld wyth o fandiau yn yr orymdaith.
Cynhaliwyd Gwyl 1892 yng Nghaernarfon. Wrth gwrs, doedd gan Arglwydd Penrhyn nag E.A. Young, ddim cariad at Undebaeth, a chan
mai'r Arglwydd Penrhyn oedd piau'r offerynnau, rhybuddiodd nad
oedd y band i'w defnyddio. Ond am ryw reswm, Undeb y Chwarelwyr
oedd piau'r drwm. Felly, fe wnaeth Band Brenhinol y Penrhyn
eu pwynt yn effeithiol iawn yn erbyn ei arglwyddiaeth, trwy
orymdeithio i sain drwm yn unig!
Ffynnai cryn elyniaeth rhwng y bandiau, yn enwedig yn lleol. Ni
chafodd Band Llan Ffestiniog, (sef. tua 1864) erioed ddod yn
frenhinol, ond rhwng 1883 a 1895 roedd wedi ennill bron i £300.
Cynhelid gornestau bandiau niferus iawn yn lleol. Cafodd y band
helfa fras rhwng 1884-95 wrth gystadlu ym Mhorthmadog, Abermaw,
Llanberis, Dolgellau, Llanrwst, Llanfairfechan, Corwen, Rhyl, Y Bala a Chaernarfon.
Roedd balchder mawr ym myd y bandiau. Adroddir am ffurfio band
Brynrefail ym 1880. Prynwyd y cyrn yn siop W. Jarret Roberts yng Nghaernarfon, a gorymdeithiwyd yn dalog efo'r cyrn dan eu cesail
ar hyd Stryd Bangor at orsaf y dref. Gofynnwyd iddynt 'Band ple
'di hwn?' 'Band Brynrefail,' meddai'r dyn a gariai'r iwffoniwm,
gan wybod na allai yr un aelod chwarae yr un nodyn!
|