* * * * * * * * * * * * *
* Gwasanaeth Archifau Gwynedd Safle AGOR English
*
* Tudalen Gartref Llechwefan Diwylliant Cymunedau Llechfaen Celf Oriel Map Safle Safleoedd Allanol Gwybodaeth am y Prosiect

Diwylliant - Y Ddrama

bandiau drama  
eisteddfodau cerddoriaeth  

Cwmni Drama Talysarn, 1919Cychwynodd y ddrama fel adloniant tua'r 1850au a hynny ar ffurf 'dadleuon' mewn cyfarfodydd cymdeithasau a mudiadau dirwestol. Rhoddodd Urdd y Temlwyr Da gryn le i weithgaredd o'r fath, ac o ganlyniad datblygodd y  'dadleuon dirwestol' yn ddramau. Gwnaeth hyn lawer i orfychfygu'r rhagfarn yn erbyn y ddrama gan rai. Roedd cwmni drama yn Llanberis cyn gynhared a 1881. Ffurfiwyd cwmni yn Nhanygrisiau ym 1885 ac yn Llan Ffestiniog ym 1886. Roedd Urdd y Temlwyr Da yn brysur yn Nyffryn Nantlle yn y 1870'au ac erbyn troad y ganrif roedd y ddrama wedi hen hawlio ei lle a chwmniau yn cael eu sefydlu gan gapeli. Erbyn degawd cyntaf yr 20  ganrif ceid cwmniau drama mewn sawl lle yng Ngwynedd, megis Beddgelert, Blaenau Ffestiniog, Llanllechid a.y.y.b.

Oes aur y ddrama oedd 1910-40 a dirywiodd nifer y cwmnôau yn raddol a sicr yn ystod ail hanner yr ugeinfed ganrif.

 
ORIEL ADNODDAU
Cyngor Gwynedd
Amgueddfa Lechi, Llanberis
Ymgynghorwyr Cynefin Cyllidwyd gan Enrich UK Y Gronfa Cyfleoedd Newydd
© Hawlfraint Cyngor Gwynedd 2003