Diwylliant - Cerddoriaeth
Dyffryn Ogwen
Mae datblygiad anhygoel canu corawl yng nghylch Bethesda rhwng
1838 a 1862 yn troi oddi amgylch pedwar chwarelwr ac wedi ei
wreiddio yn y Mudiad Dirwestol. Ffurfiwyd côr dirwestol gan
William Morgan, Braichmelyn tua 1850, yn gôr a deithiodd i
gyngherdda yng Nghymru a Lloegr a derbyn gwahoddiad i Neuadd
Exeter, Llundain ym 1851. Penderfynodd William Morgan a nifer o'r
cantorion ymfudo i Slate valley, Pennsylvania ym 1852 a daeth y
côr i ben.
Dau a wnaeth gyfraniad enfawr oedd Griffith Rowlands, Asaph, (1807-99)
a'i ddisgybl David Roberts, Alawydd, (1820-72), y naill
yn gofalu am ganiadaeth y cysegr yng Nghapel Bethesda a'r llall
yn hyfforddi'r côr o rhwng 80-100 o aelodau. Wrth gwrs yr oedd
traddodiad cerddorol y capel yn mynd yn ol i 1833.
Y pedwerydd oedd Owen Davies (Humphries) Eos Llechid, (1828-1898). Arweiniodd ddwsin o leisiau dewisiedig o blith
cantorion eglwysi'r cylch i ganu rhannau o Messiah i'r frenhines
Victoria yng Nghastell Penrhyn ym 1859. Gadawodd y chwarel ym
1863. Yn ddiweddarach, ordeiniwyd ef i'r offeiriadaeth
Anglicanaidd.
Adlewyrchiad rhagorol o'r holl fwrlwm yma yw fod Gwasg Robert
Jones, Bethesda yn gallu argraffu cerddoriaeth yn yr hen nodiant
erbyn o leiaf 1864.
Roland Rogers.
Cerddor proffesiynol oedd Roland Rogers (1847-1927), dde, a
dreuliodd ddau gyfnod fel organydd Cadeirlan Bangor. Ar ben hyn
roedd yn hyfforddwr ac arweinydd poblogaidd ar gôr a chymanfa.
Gwahoddwyd ef i arwain côr cymysg ym Methesda, a daeth yn
fuddugol ar y brif gystadleuaeth gorawl ym mhrifwyliau 1884, 1885
a 1886. Rhanwyd y wobr ym 1887 rhwng Bethesda a Chôr
Huddersfield.
Corau meibion
Aeth côr meibion o'r Chwarel i gystadlu ym Mhrifwyl Bangor,
1874, ond heb lwyddiant. Yna, penderfynwyd ffurfio côr ym
1891-92, Côr Meibion y Penrhyn a Dinorwig i gystadlu yn
Eisteddfod Ffair y Byd, Chicago, 1893, ond trechwyd y chwarelwyr
gan goliars Cwm Rhondda. Edward Broome, (1868-1930) oedd yr
arweinydd. Penderfynodd fynd am Ganada yn lle dychwelyd i
Fethesda yn syth. Pa fodd bynnag daeth yn ôl i arwain y côr i fuddugoliaeth
ym Mhrifwyl Caernarfon 1894. Dychwelodd Broome i Ganada lle cafodd
yrfa ddisglair.
Côr Y Penrhyn o 1935 ymlaen
Roedd corau meibion yn bodoli yn saith o bonciau'r chwarel ym
1934 a chyn diwedd y flwyddyn honno penderfynwyd eu huno. Y
flwyddyn wedyn dan arweiniad David Jones, daeth y côr yn fuddugol
ym mhrifwyl Caernarfon. Daeth W. Ffrancon Thomas (1898-1972) ym
1938, ond rhoddodd rhyfel 1939-45 derfyn ar bopeth. O'r
fuddugoliaeth ysgubol ym Mhrifwyl Bae Colwyn, 1947, a thrachefn
ym 1948 a 1949, ac aeth Côr Y Penrhyn o nerth i nerth
yn eisteddfodol. Deil yn gystadleuol hyd heddiw gyda theithiau tramor,
megis y cyngerdd canmlwyddiant yn Chicago ym 1993.
Corau Streic 1896-97
Nodwedd arbennig o Streiciau 1896-97 a 1900-1903 oedd y corau
merched a mebion a ffurfiwyd i fynd i gyngherdda ledled Lloegr
yn enwedig.
Ym Mawrth 1897, roedd un o'r corau meibion wedi cyrraedd
Brighton i roddi cyngerdd yn y Dome. Daliodd y cyngerdd am ddwy
awr a hanner, a disgwylid casgliad £120, o leiaf. Gadawodd y
côr am Maidstone y bore wedyn.
Roedd adran o ddeg o gôr y streic wedi derbyn gwahoddiadau i
Lerpwl a Manceinion ar ôl canu yng ngogledd orllewin Cymru. Wedi
mynd i lawr i'r gorllewin, i Aberdyfi, daeth gwahoddiad iddynt fynd i Lundain. Cynyddwyd nifer y lleisiau i ddeg ar hugain a
chyrhaeddwyd Llundain ar Ionawr 20fed, 1897. Erbyn y cyngerdd
olaf ar Chwefror 16fed, roeddynt wedi casglu dros £1,000.
Corau'r Streic Fawr.
Nodweddwyd y Streic Fawr gan yr un gweithgaredd ac unwaith eto
ffurfiwyd nid yn unig gorau meibion ond hefyd gorau merched.
Jeremiah Thomas, un o'r rhai a ddiswyddwyd ym 1896 oedd trysorydd
y côr, ac yn ôl ei ddyddiaduron fe roddwyd cyngherddau yn y
gogledd ddwyrain yn bennaf o Ionawr 1af hyd Ionawr 23ain. Dridiau
yn ddiweddarach roeddynt wedi cyrraedd Llundain.
Treuliwyd chwe wythnos yn y ddinas yn cynnal cyngherddau,
weithiau ddau y dydd. Ond ar Chwefror 2il ni roddwyd ond un
cyngerdd. Hwn oedd diwrnod Angladd y Frenhines Victoria, ac
chofnododd Jeremiah Thomas yn ei ddyddiadur: "Sefyll yn fy unfan am 5 awr."
Dyffryn Nantlle
Yn union fel ardaloedd eraill, sylfaen yr holl frwdfrydedd
corawl oedd twf a datblygiad mudiad y tonic sol-ffa a
dosbarthiadau yn cael eu cynnal yn y capeli fel rheol gan yr
ysgolfeistr lleol. Dyn dwad i Ddyffryn Nantlle oedd Hugh Owen,
(1832-1897) Sefydlodd yn Nhalysarn fel crydd, ond treuliodd lawer
o'i amser yn teithio cyn belled a dinasoedd Lloegr gyda'r
Talysarn Glee Singers. Ym 1871 daeth ei gôr cymysg yn gyntaf yn
Eisteddfod Porthmadog. Dilynodd ei fab, Richard Griffith Owen, (1869-1930) Pencerdd Llyfnwy ôl troed ei dad fel cerddor ond yn
bennaf fel trefnydd cerddoriaeth. Roedd traddodiad offerynnol cryf
yn Nyffryn Nantlle hefyd a gwnaeth Pencerdd Llyfnwy waith
sylweddol yn y maes yma.
Erbyn y 1894 roedd Côr Meibion Dyffryn Nantlle a Chor Plant
Talysarn yn cystadlu ym Mhrifwyl Caernarfon. Erbyn 1902 arweinid
y Côr meibion gan J. Owen Jones.
Athro ffiseg yn Ysgol Brynrefail oedd C.H. Leonard ac ar
ddechrau'r 1930'au, fe'i perswadiwyd i ffurfio parti dwsin o
leisiau. Dyna fu'r symbyliad y tu ôl i sefydlu Côr Meibion
Dyffryn Nantlle, a ddaeth i amlygrwydd mawr ar y radio gyda
rhaglenni fel Noson Lawen.
Ni ellir chwaith anghofio am y traddodiad cerdd dant yn y
dyffryn ym mhersonau'r Brodyr Francis. Roedd Griffith William
Francis (1876-19 ) ac Owen William Francis (1879-1936) yn
ddarlledwyr cerdd dant ar Radio Athlone, flynyddoedd cyn
sefydlu'r BBC ym Mangor.
Bro Ffestiniog
'Cymdeithas Ffilharmonig Blaenau Ffestiniog' aeth i ganu i
Eisteddfod Porthmadog, 1851, cymdeithas oedd yn dal ei thir o
leiaf hyd 1868. Yr un oedd y dylanwadau yn y gymdeithas yma fel
ag yng ngweddill ardal y diwydiant llechi, gyda chôr perthynol i
fudiad dirwestol y Temlwyr Da yn uchel ei gloch. Ffigwr pwysig
iawn yn natblygiad canu corawl Blaenau Ffestiniog o 1875 ymlaen
oedd Cadwaladr Roberts, (1854 -1915). Dechreuodd ar ei yrfa
gerddorol yn y capel. Arweiniodd ei Blaenau Ffestiniog Choral
Union ym Mhrifwyl Lerpwl ym 1884, gan fynd a'r Undeb i ganu i'r
Palas Grisial ym 1892. Bu'r Undeb Corawl yn cystadlu ym Mhrifwyl
Bangor 1902, ond o 1886 ymlaen fe wnaeth waith mawr hefyd gyda Chôr Meibion Tanygrisiau ac yna
Gôr y Moelwyn. Ef oedd y dewis
naturiol i Gôr Prifwyl 1898, ym Mlaenau Ffestiniog, wrth gwrs.
Dewch i America
Erbyn 1909 roedd Cadwaladr Roberts a'i fryd ar fynd a pharti
meibion i America, ond gyda'i gôr meibion rhwng 70 ac 80 o
aelodau, rhaid fyddai iddo ddewis a dethol ond dau ddwsin o'r
lleisiau gorau.
Sefyllfa ffrwydrol!!
Ond aeth ymlaen efo'i gynllun a hwyliodd pawb, gyda Mary King
Sarah o Dalysarn yn unawdydd gwadd a Jennie Parry, 'Telynores
Lleifiad' fel telynores wadd ym 1910. Cafwyd taith lwyddiannus,
ond neidiodd J.T. Owen, a oedd wedi mynd a chôr merched o'r Blaenau
i Brifwyl Llundain 1909 i'r bwlch, a chymryd trigain o'r meibion
a wrthodwyd gan Cadwaladr Roberts, a ffurfio côr ei hun.
Dychwelodd Cadwaladr Roberts o America, a thynnu y cantorion a
wrthodwyd yn ôl ato!
Mynd i America ddwy waith drachefn gyda'i gantorion a wnaeth Cadwaladr
Roberts, a hynny i gasglu arian at y gronfa i ddileu'r
diciâu.
Pan ddychwelodd i'r Blaenau ym 1912, roedd J.T. Owen wedi hen
gael ei draed tano fel arweinydd Côr Meibion Blaenau
Ffestiniog.
Cadwyd y traddodiad yn fyw rhwng y ddau ryfel byd a byddai côr
o'r Blaenau yn cymerd rhan yng Ngwyl Harlech bob blwyddyn.Wedi
1945 sefydlwyd Côr Meibion Oakeley (Côr y Moelwyn wedi 1961). Yna
ym 1964 sefydlwyd Côr y Brythoniaid, y côr meibion mwyaf ei rif a
fu yn y Blaenau erioed.
Bu Côr Rhianedd y Moelwyn yn fawr ei gyfraniad hefyd o
1932-74.
Cerdd dant
Bu gan Gwenllian Dwyryd gôr cerdd dant, Côr Cynfal, yn yr ardal a nifer o bartïon cyngerdd. Ac yn y cyswllt yma, rhaid
cyfeirio at David Francis, (1865-1929) Telynor Dall o Feirion a
anwyd mewn bwthyn dinod yn Chwarel y Llechwedd. Ym Mro Nantlle
wedyn bu Mallt a Llyfni Huws yn gynheiliaid i'r traddodiad cerdd
dant hefyd.
Cerddoriaeth a barddoniaeth am y chwarel a'r chwarelwr
Yn rhyfedd iawn, ychydig iawn o gerddoriaeth wreiddiol a
gynhyrchwyd am y chwarelwr. Cyhoeddwyd unawd gan John Jones Eos Bradwen
Y Gwr a'r Siaced Wen a chafwyd cytgan i gorau meibion, Cydgan y Chwarelwyr gan David Jenkins.
'Yr Hen Dalcen Mawr'
Darn enwog o weithfaen caled a gwyrdd yn Chwarel y Penrhyn
oedd Y Talcen Mawr tua 1815 roedd yn rhan o graig enfawr a
safai wrth ei droed. Torrwyd drwy'r graig ymhen blynyddoedd i
gael mynedfa o un chwarel i'r llall a gadael y talcen i sefyll.
Gadawyd y Talcen i sefyll, yn fwy o atyniad nag o unrhyw werth i
neb. Ond erbyn 1895 sylweddolwyd fod ei gyflwr yn beryglus, a
chwythwyd ef i fyny ar Ebrill 27ain, 1895 gyda saith tunnell o
bowdwr. Credid fod tua 125,000 tunnell o gerrig wedi
dymchwel.
I ddathlu'r achlysur, cyfansoddodd Eos Bradwen, bedwarawd Yr
Hen Dalcen Mawr.
Tri o ser llwyfan rhyngwladol bro'r chwareli
- D. Ffrancon Davies (1855-1918)
Gofalu am ffowndri Chwarel y Penrhyn a wnai David Davies. Ond
llwyddodd ef a'i wraig Gwen i yrru eu mab i Ysgol Ffriars,
Bangor. Tra yno enillodd ysgoloriaeth i Goleg Iesu, Rhydychen,
lle graddiodd ym 1881. Wedi dewis ei ordeinio yn yr Eglwys
Anglicanaidd, fe'i penodwyd i Drefor, ger troed yr Eifl ym 1884
ac yna yn giwrat i'r Gyffin, Conwy. Eisioes, derbyniodd
hyfforddiant cerddorol gan Roland Rogers, a phenderfynodd yn
hytrach ddilyn gyrfa gerddorol.
Wedi cyfnod yng Ngoleg Cerdd y Guildhall yn Llundain, erbyn
1890 cychwynodd ei yrfa fel unawdydd operatig. Yn ddiweddarach, trodd at fyd yr
orotario ac o fewn chwe
mlynedd roedd ar daith yn yr Unol Daleithiau. Erbyn 1898 roedd wedi
dychwelyd i Ewrop ac wedi ymgartrefu gyda'i
deulu ym Merlin.
Datblygodd yn un o'r unawdwyr oratorio mwyaf a welwyd erioed
gan arbenigo yn enwedig yng ngweithiau Edward Elgar, a ddaeth yn
un o'i gyfeillion pennaf. Dychwelodd i Lundain ym 1902 yn
unawdydd a allai ganu mewn wyth iaith wahanol, cyn ei benodi yn
athro llais yn yr Academi Gerdd Frenhinol ym 1904.
Collodd ei unig fab ym 1908 a chafodd hyn effaith drawmatig
arno. Bu'n gaeth i salwch meddwl am ddegawd cyn marw ym 1918.
Ganwyd Margaret Jane Parry yn 2 Rhestai Douglas, Bethesda. Yn
dilyn hyfforddiant gan John Samuel Williams Pencerdd Ogwen,
(1852-1926) aeth wedyn at Roland Rogers ac yna R.S. Hughes (1855-1893). Wedi ennill dros dri chant a hanner o wobrau
eisteddfodol, doedd hi ddim yn syndod i 'Megan Llechid'
ennill ar yr unawd soprano ym Mhrifwyl Blaenau Ffestiniog,
1898.
Ddwy flynedd yn ddiweddarach chwalwyd ei gobeithion hithau,
fel cannoedd arall, gan y Streic Fawr. Ffurfiwyd Côr Merched i
godi arian i gronfa'r streic, a chafodd ei hun yn aelod ohono.
Treuliwyd chwe mis yn canu yn Llundain a De Lloegr ym 1901 a
chodi dros £3,500.
Wedi terfyn y Streic symudodd hi a'i theulu o Fethesda i
chwilio am well byd. Cartrefwyd yng Nghaergybi.
Treuliodd wyth mlynedd yng Nghaeredin gyda'i gwr nes symud i
lawr i Lundain ym 1920. Oddi yno aeth i'r Eidal am hyfforddiant a
daeth 'Madam Telini' i'r byd.
Gyrfa yn Llundain a gafodd wedyn a rhwng 1927 a 1934, pan
ymddeolodd o'r llwyfan ac agor gwesty bychan. Rhyddhaodd un ar
bymtheg o recordiau i gyd.
Symudodd hi a'i phriod i Bembre ar doriad y rhyfel a dyna lle
bu Madam Telini farw ym 1940. Fe'i claddwyd yng Nghaergybi.
- Mary King Sarah (1884-1967)

Arweinydd Band Dyffryn Nantlle am chwarter canrif oedd Tom
Sarah ei thad a magwyd ei bum plentyn ef a Sarah ei wraig yng
nghanol y bwrlwm cerddorol cyfoethog a fodolai yn Nyffryn Nantlle
y pryd hwnnw.
Erbyn troad y ganrif roedd Mary yn aelod o Gôr Merched Dyffryn
Nantlle, Côr Cymysg Dyffryn Nantle a Chymdeithas Operatig
Caernarfon. Pan ddaeth prifwyl 1906 i Gaernarfon, enillodd Mary y
wobr gyntaf am yr unawd soprano, y mezzo-soprano ac ar y
ddeuawd.
Am y tair mlynedd nesaf crwydrodd Gymru a Lloegr ben baladr yn
cadw cyngherddau cyn arwyddo cytundeb i fynd i'r Unol Daleithiau
am bum mis ym 1909 fel unawdydd gyda Chôr Meibion y Moelwyn.
Ar derfyn y daith, penderfynodd Mary King Sarah aros gyda
pherthnasau yn nhalaith Wisconsin a daeth ei rhieni, ei dwy chwaer,
ac un o'i brodyr drosodd i fyw yno ym 1912.
Am weddill ei hoes bu Mary King Sarah yn golofn i holl
weithgareddau cerddorol a diwylliannol Cymry America. Dychwelodd
i Gymru ar ymweliad ym 1947 a 1959.
- E.D. Lloyd. 1868-1922.

Ddechrau'r ugeinfed ganrif fe ystyrid E.D. Lloyd (ar y dde) yn un o
gyfansoddwyr ac athrawon llais pwysicaf y cyfnod. Yn enedigol o
Highgate, Llan Ffestiniog, bu'n chwarelwr am wyth mlynedd. Aeth
am gyfnod i'r Academi frenhinol yn Llundain tua 1890 a'i benodi
yn organydd yng Nghapel Charing Cross. Yn dilyn marwolaeth R.S.
Hughes ym 1893 fe apwyntiwyd yn organydd Capel yr Annibynwyr
ym Methesda. Bu galw mawr arno fel arweinydd ac athro a
chyfansoddodd nid yn unig unawdau ond hefyd ddarnau cerddorol i'r piano.
Cynhaliai ddosbarthiadau lleisiol mewn canolfannau ym Mangor,
Llangefni a Chaergybi. Hyfforddodd 'Cavan' Jones, (1887-1945) o
Gaergybi, a fyddai'n dod yn un o faritoniaid mwyaf poblogaidd yr
Unol Daleithiau ac hefyd Ifor Thomas, (1892-1956) o Bentraeth a
fyddai maes o law yn canu yn nhai opera Paris, Monte Carlo, Nice,
La Scala a'r Met.
Wedi sawl taith eisteddfodol i'r Unol Daleithiau ymfudodd E.D.
Lloyd yn barhaol yno ym 1914 gan dreulio cyfnodau byrion yn
Sherburne, Detroit a South Bend. Symudodd i Philadelphia ym 1918
lle bu farw bedair mlynedd yn ddiweddarach.
|