Culture - Eisteddfodau
Cychwyn y traddodiad
Ymddengys i'r eisteddfod ddod i chwarae rhan flaenllaw yn
ardaloedd y chwareli hyd ail chwarter y bedwaredd ganrif ar
bymtheg. Gwir fod eisteddfod wedi ei chynnal ym Mangor ym 1790 ac
yn Ninorwig ym 1802, ond ymddengys mai eithriadau oedd y rhain.
Gyda'r diwydiant wedi hen sefydlu ymddengys i'r eisteddfodau
cyntaf gael eu cynnal ym Methesda ym 1834, 1835 a 1838.
Cynhaliwyd eisteddfod yn Ninorwig ym 1840 ac yn Llan Ffestiniog
ym 1854. Cychwyn llawer o'r eisteddfodau yma oedd y capeli gyda'u
'hundebau llenyddol a cherddorol.'
Bro Ffestiniog
Cynhelid eisteddfodau achlysurol yn Ffestiniog a'r Blaenau i
fyny hyd 1869. Bum mlynedd ynghynt dechreuwyd cynnal Eisteddfod
flynyddol yn Chwarel Holland. Cymerodd chwareli eraill y syniad i
fyny ac yn fuan wedi 1864 cynhelid eisteddfodau blynyddol yn
chwareli Cwmorthin, Cwt y Bugail, Rhosydd a'r Rhiw. Dechreuwyd ar
gyfres o eisteddfodau blynyddol llewyrchus yn chwarel y Llechwedd
ym 1868 ac a fyddai yn cael ei chynnal yn y Neuadd Farchnad dros
ddwy noson erbyn 1881 gyda J.E. Greaves yn beirniadu'r gerddi
llysiau a'r gerddi blodau a Mrs Greaves yn beirniadu'r
gwniadwaith a'r gwau. Cynnigid Cadair Llechwedd am awdl-bryddest
gyda beirdd fel Iolo Carnarvon ac Ellis Wyn o Wyrfai yn
feirniaid.
Ond pinacl yr holl weithgaredd oedd:
Eisteddfod Genedlaethol Blaenau
Ffestiniog - 1898
Yn dilyn eisteddfod enfawr ym 1890
dechreuwyd mwstro am gael y Brifwyl i Flaenau Ffestiniog. Bu'r
cais gyflwynwyd ym 1896 yn llwyddiannus a dechreuwyd paratoi ar
gyfer 1898. Bu'r trefniadau yn ddidrafferth ond i'r gwynt
chwalu'r babell pan oedd ar hanner ei chodi. Beth bynnag, yn ôl
tref y cyfnod croesawyd pendefigion brenhinol Seisnig ac Almaenig
i bori o ddiwylliant hen werin y graith. Elfyn y bardd lleol a
enillodd y gadair, a rhoddodd y côr eisteddfod o 300 dan
arweiniad Cadwaladr Roberts, arweinydd Côr Meibion y Moelwyn ac
Undeb Corawl Blaenau Ffestiniog, berfformiadau cofiadwy yn y
cyngherddau. Roedd yr elw clir bron yn £300 ac ni chafwyd yr un
diferyn o law drwy'r wythnos! Edwinodd yr eisteddfodau lleol yn
raddol yn ystod ail hanner yr ugeinfed ganrif, ac ni ddychwelodd
y Brifwyl i Flaenau Ffestiniog eilwaith.
Bro Bethesda
O 1851-54, cynhaliwyd cyfres o eisteddfodau cerddorol ym
Methesda sydd yn tanlinellu y brwdfrydedd corawl oedd yn y cylch.
Rhwng 1863 a 1869 cyhaliwyd cyfres o eisteddfodau nodedig gyda
ffigurau cenedlaethol y cyfnod fel Hwfa Môn, Tanymarian,
Garmonydd, Llew Llwyfo ac ambell i artist o'r Unol Daleithiau yn cymryd rhan yn y cyngherddau. Ni fu cymaint o eisteddfota yn
ystod y 1870'au ond cafwyd cyfresi o eisteddfodau sylweddol hyd at ddechrau'r ugeinfed ganrif, llawer yn ganolog ar gapel
Bethesda lle'r oedd R.S. Hughes y cyfansoddwr yn organydd. Gyda
dyfodiad Rhys J. Huws yn weinidog cafwyd cyfres bwysig eisteddfodau plant, gyda phobl ifanc yn rheoli'r gweithgareddau
i gyd. Ail-sefydlodd Thomas Arthur Jones eisteddfod Bethesda pan
ddaeth yn weinidog ar Gapel Jeriwsalem ym 1930.
Llanberis
Cynhaliwyd eisteddfodau yn Llanberis yn y 1860'au a chyfres
oedd i gyrraedd pinacl ym 1879. Ar ben y cystadlu, trefnwyd i
gael perfformiad o'r opera Blodwen gan Joseph Parry. Ond llai nag
wythnos cyn yr wyl, cafwyd stormydd o wynt a glaw a ddinistriodd
nid yn unig y pafiliwn, ond a ddifrododd y rheilffordd rhwng
Caernarfon a Llanberis yn ogystal. Symudwyd yr eisteddfod fawr i Bafiliwn
Caernarfon.
Corau meibion cylch Llanberis
Yma eto ffynnai corau oddi mewn i'r capeli. Côr enwog yn y
1880'au oedd Côr Meibion yr Arvonic dan arweiniad Robert
Phillips. Yn dilyn eu buddugoliaeth ym Mhrifwyl Lerpwl, 1884
roeddynt yn crwydro yn arw i gyngherdda. Daliodd traddodiad y côr
meibion ei dir am flynyddoedd yn dilyn y gwahoddiad i berfformio gyda'i
arweinydd John Williams, Caernarfon, yng Nghastell Windsor ar Dachwedd 24ain,
1899 o flaen y Frenhines Victoria a'i nai y Kaiser. Gan ei fod wedi mwynhau y
canu gymaint, penderfynodd trefnwyr yr Eisteddfod Genedlaethol ym
Mangor ym 1902 ei atgoffa o'r perfformiad dair mlynedd ynghynt a
gofyn am ei nawdd. Cafwyd atebion cadarnhaol gan nifer o bersonau
brenhinol, ond yr un gair o'r Schloss ym Merlin.
Cystadleuodd Côr Meibion Padarn dan arweiniad M. Orwig
Williams ym Mhrifwyl Bangor, 1902. Yn dilyn y Rhyfel Mawr,
ffurfiwyd Côr Meibion y Comrades gan J. Brwynog Jones, 'Pencerdd
Peris' ac o tua 1928-35, mawr fu'r galw am wasanaeth Côr Meibion
y Snowdonia, dan arweiniad Henry J. Roberts, Harry Bach
Nasareth. Fel ag yn y chwareli eraill ceid corau ym mhonciau'r
chwarel. Yr enwocaf yn Chwarel Dinorwig oedd Côr Ponc y Dyffryn a
hyfforddid gan T. Padarn Roberts, (1866-1943) 'Twm bach Merica'
rhwng 1906 a 1914 ac a gystadleuodd ym Mhrifwyl Caernarfon,
1906.
Wedi Rhyfel Byd
Yn dilyn Rhyfel 1939-45, fe unwyd dau o gorau'r chwarel, sef Côr Ponc Awstralia a
Chôr Pen Garret fel sylfaen i
Gôr Meibion
Dinorwig. G. Peleg Williams oedd yr arweinydd. Deuai aelodau o
bob cwr o ardal y chwareli i Ddeiniolen i ymarfer. Enillwyd
llawer o wobrau, ond wedi symud y man cyfarfod o Gaernarfon ym
1952 dechreuodd pethau edwino.
Côr Eryr Eryri
Mab i Griffith Owen, arweinydd band Llanrug oedd Owen
Griffith, Eryr Eryri, (1839-1903.) Cerddor hunan
addysgedig eto, ymunodd efo Côr y Waunfawr a'i benodi'n arweinydd
ym 1866. Daeth y côr yn rhan o Undeb Dirwestwyr Eryri, ac e'i ail
enwyd yn ddiweddarach yn Gôr Undebol Y Waunfawr a Llanberis. Dechreuwyd cadw
cyngherddau a chystadlu gan ddod i'r brig ym Mhrifwyl Pwllheli
1875 a Phrifwyl Penbedw, 1878.
Rhoddodd heibio i arwain corau wedyn a chanolbwyntio ar arwain
cymanfaoedd canu a chyfansoddi.
|