* * * * * * * * * * * * *
* Gwasanaeth Archifau Gwynedd Safle AGOR English
*
* Tudalen Gartref Llechwefan Diwylliant Cymunedau Llechfaen Celf Oriel Map Safle Safleoedd Allanol Gwybodaeth am y Prosiect

Llechfaen - Adfer anialdir diwydiannol

Rhoddir y pwysigrwydd haeddiannol heddiw i ddileu creithiau diwydiannol o'r tirlun. Ac nid yw hyn i'w weld yn amlycach yn unman ag ardal diwydiant llechi gogledd Cymru.

Gall adfer tir ail greu ac ail lunio tirweddau a ddifethwyd gan gloddfeydd. Yn wir gall prosiectau lluniadol o'r fath sy'n cynnwys peirianeg suful, symud tir a thechnoleg ecolegol greu amgylcheddau naturiol. Er mwyn sylweddoli hyn dylai defnyddiau a phrosesau naturiol gael eu defnyddio i gyd weithio efo natur.

Mae'n hanfodol sefydlu hefyd cynllun ôl-ddefnydd cyn paratoi'r cynllun adfer tir, a bydd y dewis o'r ôl-ddefnydd effeithio ar y math o atebion a thechnegau adfer a ddewisir.. Rhaid hefyd talu sylw i adnabod yr ecosistem fwyaf perthnasol i'r safle yn ogystal a chysidro'r effethiau gweledol ar gychwyniad y cynllun. Yn y pen draw mae cadwraeth natur yn ymarferiad sy'n amddiffyn a harddu beioamrywioldeb.

Mae amrywio cynefin bywyd gwyllt tir glas, rhosydd, tir coediog a thir corslyd yn gallu ail greu sefyllfaoedd sy'n digwydd yn naturiol yn yr amgylchedd. Mewn achosion o'r fath fe blennir coed o fathau lleol gan mai'r rhain sydd yn gallu tyfu a ffynnu mewn amgylcheddau anodd. Yn ei dro gall hyn esgor ar gyfatebolrwydd ecolegol rhwng y cynllun adfer a'r tirwedd amgylchyddol, ac hefyd gael cefnogaeth gan fudiadau cadwriaethol a mwyderau.

Annoeth defnyddio syniadau brysiog, gan ei bod yn holl bwysig wrth gynllunio ecosistem i ddewis planhigion genedol addas a perthi a choed cynhenid, er mwyn cael canlyniadau boddhaol. Rhaid hefyd rheoli mannau agored yn ogystal a chreigiau a llynnoedd i greu amrywiaeth eang o gynefinoedd bywyd gwyllt.

Rhan hanfodol o brosiectau o'r fath yw paratoi rhaglenni gofal pellach.

Ym 1993 fe wnaethpwyd cais gan Alfred McAlpine (Slate Products) Ltd., perchnogion Chwarel y Penrhyn am asesiad amgylcheddol gan Cynefin Environmental Consultants Ltd. Mewn perthynas a chais i ymestyn y chwarel drwy agor tua 40 hectar o dir ar ffin dde-orllewinol y chwarel i gael mwy o lechfaen. Roedd y tir yma bron ar ffin ogleddol Parc Cenedlaethol Eryri gyda'i hanner yn rhan o ogledd Safle Wyddonol a Ddiddordeb Arbennig Glydeiriau. Rhostir a chorsydd naturiol y fro oedd y tir o gwmpas y datblygiad arfaethedig i gyd, ond am y ffin efo'r chwarel, ac yn dir amaethyddol gwael a ddefnyddid i bori defaid.

Byddai'r datblygiad yn dinistrio planhigion a bywyd gwyllt yn yr ardal sydd i'w chloddio. Fodd bynnag, cymunedau o blanhigion sy'n nodweddiadol o briddoedd gwlyb a sur mewn ardaloedd yr ucheldir yng ngogledd-orllewin Cymru a geid yno, cymunedau a gynrychiolid yn helaeth yn lleol yn Eryri ac mewn mannau eraill. Gyda mesurau lliniaru sicrheid na fyddai'r datblygiad yn amharu ar y fawnog islaw, sef Gwaun Gynfi. Cynlluniwyd rhaglen liniaru ehangach i sefydlu cynefinoedd ecolegol newydd fel hwb i dyfiant brodorol yr ardal. Seiliwyd y cynllun adfer ar ddwr, a oedd yn cynnwys ffurfio llyn, a amgylchynwyd gan fariannau yn cynnwys cymunedau amrywiol o blanhigion a bywyd gwyllt.

Roedd mesurau tirlunio yn angenrheidiol oherwydd:

  •  I leihau ardrawiad gweledol y chwarel;
  •  I gymryd lle ac i wella'r amgylchiadau ecolegol yn yr ardaloedd;
  •  I greu cyfleon i ddatblygu technegau o ddefnyddio prosesau naturiol i adfer diffeithwch llechi;
  •  I gynnig yn ardal Bethesda, dirwedd gyda rhinweddau ecolegol gwell; ac 
  •  I greu tirffurfiau fyddai yn cyfrannu at gyfleusterau hamdden ac addysgol y gymuned.

 

ORIEL ADNODDAU
Cyngor Gwynedd
Amgueddfa Lechi, Llanberis
Ymgynghorwyr Cynefin Cyllidwyd gan Enrich UK Y Gronfa Cyfleoedd Newydd
© Hawlfraint Cyngor Gwynedd 2003