* * * * * * * * * * * * *
* Gwasanaeth Archifau Gwynedd Safle AGOR English
*
* Tudalen Gartref Llechwefan Diwylliant Cymunedau Llechfaen Celf Oriel Map Safle Safleoedd Allanol Gwybodaeth am y Prosiect

Llechfaen - Llechi Ysgrifennu

 

Y mae hanes cynhyrchu llechi ysgrifennu yn dyddio ymhell yn ôl, ac i o leiaf y 18fed ganrif.  Yn wir, ceir cyfeiriad atynt yng nghyfrol Teithiau yng Nghymru (1778) gan Thomas Pennant:

Y nifer o lechi ysgrifennu a wnaed ac a drosglwyddwyd allan o Borthladd Penrhyn , yn ystod y deuddeng mis diwethaf, ydyw 136,000; y mae swm y coed a ddefnyddir yn y fasnach fechan yma yn fwy na 3,000 o droedfeddiyn y flwyddyn; ac y nifer y gweithwyr ar waith rhwng pump a deg ar hugain.

Ysgol Bontnewydd, gellir gweld llechi ysgrifennu ar y desgiau o flaen y plant.  Erbyn diwedd y 19 ganrif, a dechrau'r 20 gangrif, roedd cryn alw am lechi ysgrifennu o bob cwr o'r byd ac roedd yn fasnach eithaf llewyrchus.

Er mai llechi to a gynhyrchid fwyaf gan y diwydiant, roedd gwneud llechi ysgrifennu yn golygu cryn ddyfalwch gan fod nifer o agweddau i'r gwaith.  Gan fwyaf cynhyrchid y llechi ysgrifennu mewn adeiladau tebyg i ffatrioedd, a byddai amryw o'r rheini y tu allan i'r chwareli, h.y. mewn pentrefi neu drefi.  Er enghraifft, erbyn yr 1880au roedd cymaint â pum ffatri gwneud llechi ysgrifennu ym Mangor.

Ceir amrywiaeth o fathau o lechi ysgrifennu, e.e. llechi llinellog, llechi â sgwariau arnynt, llechi gyda mapiau arnynt, llechi ysgrifennu ar ffurf llyfrau, gyda dwy neu dair llechen ynddynt.

Melin Llechi Ysgrifennu Crawiau, Llanrug, 1907Rhagoriaeth y llechen ysgrifennu oedd ei bod yn economaidd.  Roeddynt yn ddefnyddiol ar gyfer ymarfer ysgrifennu a gwneud lluniau.  Gellid glanhau'r llechen dro ar ôl tro ac ailddechrau ar y gwaith.

Un rheswm pam y collodd y llechen ysgrifennu ei phoblogrwydd oedd oherwydd glanweithdra ac iechyd.  Yn wir, nid oedd yn beth anghyffredin o gwbl i blant boeri ar y llechen er mwyn rwbio'r gwaith ysgrifennu oddi arnynt.

  Llechi i Arbed y Golwg: Dywed yr erthygl bod yr awdurdodau Almaenig yn cymeradwyo i blant ddefnyddio llechi ysgrifennu gan nad ydynt mor llachar a phapur gwyn ac felly, yn achosi llai o niwed i olwg plant bach.    

 

ORIEL ADNODDAU
Cyngor Gwynedd
Amgueddfa Lechi, Llanberis
Ymgynghorwyr Cynefin Cyllidwyd gan Enrich UK Y Gronfa Cyfleoedd Newydd
© Hawlfraint Cyngor Gwynedd 2003